Mae prynu cartref yn bryniant mawr - wedi'r cyfan, gallai gymryd dau ddegawd i’w ad-dalu. Mae yna lawer i'w ddeall a phethau nad ydych am eu hanghofio yn y broses prynu.
Mae'r adran hon yn edrych ar ochr ariannol prynu cartref - os yn brynwr tro cyntaf ai peidio - gan gynnwys gwahanol fathau o forgeisi, costau ychwanegol mae angen i chi eu hystyried ac help y gallech o bosibl ei gael.
Ac os ydych yn cael trafferth talu'ch morgais ac angen rhywfaint o help, neu'n edrych i ailforgeisio neu ryddhau arian am ymddeoliad, mae gennym wybodaeth am hynny hefyd.