Os ydych chi'n prynu cartref yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT). Ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp os yw'r swm rydych chi'n ei dalu am eich prif gartref o dan £250,000.
Bydd cyfraddau Treth Stamp yn aros fel y cyhoeddwyd yn y gyllideb fach ar 23 Medi 2022 hyd at 31 Mawrth 2025.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Treth Stamp?
- Beth yw cost Treth Stamp?
- Treth Stamp ar ail gartrefi
- Rhyddhad Treth Stamp i brynwyr am y tro cyntaf
- Treth Stamp i'r sawl nad ydynt yn preswylio yn y DU
- Ad-daliad o gyfraddau uwch o Dreth Stamp
- Pryd fydd rhaid i chi dalu Treth Stamp?
- Sut i dalu’r Dreth Stamp
- Pa bryd nad yw’r Dreth Stamp yn daladwy?
Beth yw Treth Stamp?
Mae Treth Stamp yn dreth y gallai fod rhaid i chi ei thalu os ydych yn prynu eiddo preswyl neu ddarn o dir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon dros bris penodol.
Ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp ar brynu'ch prif eiddo sy'n costio mwy na £250,000, oni bai eich bod yn brynwr tro cyntaf.
Os ydych yn prynnu am y tro cyntaf, ni fyddwch yn talu dim Treth Stamp ar eiddo sy'n costio hyd at £425,000, a chyfradd ostyngedig ar brynu eiddo hyd at £625,000
Byddwch yn talu Treth Stamp ar eiddo preswyl sy'n costio mwy na £125,000, on i bai eich bod yn cymwys am ostyngiad prynu am y tro cyntaf.
Mae’r dreth hon yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliad a lesddaliad – pa un a ydych ynprynu’n llwyr neu â morgais.
Os ydych yn prynu eiddo yng Nghymru byddwch yn talu Treth Trafodion Tir (LTT) ac yn yr Alban Treth Trafodion Tir ac Adeiladau (LBTT) yn hytrach na Threth Stamp.
Gwelwch ein canllawiau:
Os ydych yn prynu yng Nghymru, Treth Trafodion Tir
Os ydych yn prynu yn yr Alban, Treth Trafodion Tir ac Adeiladau
Beth yw cost Treth Stamp?
Mae amryw o fandiau cyfradd ar gyfer Treth Stamp.
Cyfrifir y dreth ar y rhan o bris prynu’r eiddo sy’n perthyn i bob band.
Byddwch yn talu unrhyw Ddyletswydd Stamp ar brynu'ch prif eiddo sy'n costio mwy na £250,000, oni bai eich bod yn brynwr tro cyntaf.
Enghraifft
Er enghraifft, os ydych chi'n prynu tŷ am £350,000, mae'r Treth Dir y Dreth Stamp sy'n ddyledus gennych yn cael ei chyfrif fel a ganlyn:
• 0% ar y £250,000 cyntaf = £0
• 5% rhwng £250,001 a £350,000 = £5,000
Cyfanswm SDLT = £5,000
Cyfraddau Treth Stamp
Isafswm pris prynu eiddo | Uchafswm pris prynu eiddo | Cyfradd y Dreth Stamp |
---|---|---|
£0 |
£250,000 |
0% |
£250,000 |
£925,000 |
5% |
£925,000 |
£1,500,00 |
10% |
Dros £1.5 miliwn |
– |
12% |
Treth Stamp ar ail gartrefi
Os ydych chi'n prynu eiddo ychwanegol, fel ail gartref, bydd yn rhaid i chi dalu 3% yn ychwanegol yn y Dreth Stamp ar ben y cyfraddau safonol.
Mae'r gyfradd uwch hon yn berthnasol i eiddo a brynwyd am £40,000 neu fwy.
Nid yw'n berthnasol i garafanau, cartrefi symudol na chychod preswyl.
Isafswm pris prynu eiddo | Uchafswm pris prynu eiddo | Cyfradd y Dreth Stamp (yn berthnasol yn unig i’r rhan honno o bris yr eiddo sy’n perthyn i’r band priodol) |
---|---|---|
£0 |
£250,000 |
3% |
£250,001 |
£925,000 |
8% |
£925,001 |
£1.5 millwn |
13% |
Dros £1.5 miliwn |
– |
15% |
Rhyddhad Treth Stamp i brynwyr am y tro cyntaf
Os ydych chi'n brynwr tro cyntaf yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp ar eiddo sy'n werth hyd at £425,000.
Ar gyfer eiddo sy'n costio hyd at £625,000, ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp ar y £425,000 cyntaf. Yna byddwch chi'n talu Treth Stamp ar y gyfradd berthnasol o 5% ar y swm sy'n weddill, hyd at £200,000.
Os yw'r eiddo rydych chi'n ei brynu werth dros £625,000, bydd angen i chi dalu cyfraddau safonol y Dreth Stamp ac ni fyddwch yn gymwys i gael rhyddhad prynwr tro cyntaf.
Prynwyr am y tro cyntaf
Mae rhywun yn cael eu hystyried i fod yn brynwr am y tro cyntaf os ydynt yn prynu eu hunig neu brif breswylfa ac nid ydynt erioed wedi bod yn berchen ar rydd-ddaliad neu fod â buddiant prydlesol mewn eiddo preswyl yn y DU neu dramor.
Treth Stamp i'r sawl nad ydynt yn preswylio yn y DU
Os nad ydych yn preswylio yn y DU ac rydych yn prynu eiddo preswyl yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, efallai bydd rhaid i chi dalu 2% ychwanegol ar beny cyfraddau Treth Stamp cyfredol ar gyfer eiddo sy'n costio dros £40,000.
Darganfyddwch fwy am gyfraddau Treth Stamp i'r sawl nad ydynt yn preswylio yn y DU ar wefan GOV.UK
Ad-daliad o gyfraddau uwch o Dreth Stamp
Os prynwch brif breswylfa newydd ond bod oedi wrth werthu’ch prif breswylfa flaenorol, efallai bydd rhaid i chi dalu’r cyfraddau Treth Stamp uwch gan eich bod yn berchen ar ddau eiddo bellach.
Fodd bynnag, os ydych yn gwerthu'ch prif gartref o fewn 3 blynedd o brynu eich cartref newydd gallwch wneud cais am ad-daliad am y swm uwchben y cyfraddau SDLT uwch gwnaethoch ei dalu pan wnaethoch brynu'ch cartref newydd.
Gallwch wneud cais am ad-daliad o’r swm sydd yn uwch na’r cyfraddau Treth Stamp arferol os:
- gwerthwch eich prif breswylfa blaenorol cyn pen tair blynedd, a
- rydych yn gwneud cais am yr ad-daliad cyn pen 12 mis ar ôl gwerthiant eich prif breswylfa blaenorol, neu cyn pen 12 mis ers dyddiad cyflwyno’ch ffurflen dreth SDLT, pa un bynnag sydd yn fwyaf diweddar.
Am ffurflen gais a rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK
Pryd fydd rhaid i chi dalu Treth Stamp?
Mae gennych 14 diwrnod i gyflwyno ffurflen Treth Tir Treth Stamp (SDLT) a thalu unrhyw SDLT sy’n ddyledus.
Os na gyflwynwch ffurflen dreth a thalu’r dreth honno cyn pen 14 diwrnod, gall CThEM godi ffioedd a llog arnoch.
Darganfyddwch fwy am gosbau Treth Stamp a llog ar GOV.UK
Sut i dalu’r Dreth Stamp
Fel arfer bydd eich cyfreithiwr yn delio â ffurflen a thaliad Treth Stamp ar eich rhan, er gallwch wneud hynny eich hun.
Y naill ffordd neu’r llall, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod yn cael ei gyflwyno ar amser.
Mae rhaid i chi gyflwyno ffurflen (oni bai eich bod wedi'ch eithrio) hyd yn oed os na fydd rhaid i chi dalu dim Treth Stamp.
Darganfyddwch fwy am gyflwyno ffurflen dreth a thalu Treth Stamp ar wefan GOV.UK
Pa bryd nad yw’r Dreth Stamp yn daladwy?
Efallai bydd amgylchiadau eraill lle efallai na fydd Treth Stamp yn daladwy. Gallai enghreifftiau gynnwys:
- Trosglwyddo eiddo yn unol â gorchymyn llys yn ystod gwahanu, ysgaru neu ddiddymu yn cael eu heithrio fel arfer. Os yw cwpl yn cytuno i wahanu'n barhaol ond heb gael gorchymyn llys byddant yn cael eu trin at ddibenion SDLT fel cwpl dibriod.
- Efallai na fydd eiddo a adewir o dan delerau ewyllys yn ddarostyngedig i SDLT ar yr amod na roddir unrhyw ystyriaeth arall. Fel rheol nid oes unrhyw ofyniad i hysbysu HRMC yn yr achos hwn.
- Os rhoddwch eich cartref i rywun arall, ni fydd rhaid iddynt dalu SDLT ar werth marchnadol yr eiddo ar yr amod nad oes morgais heb ei dalu ar yr eiddo. Os cymerwch drosodd rhywfaint neu'r cyfan o forgais sy'n bodoli, efallai y bydd SDLT yn daladwy ar werth y morgais dros y trothwy SDLT perthnasol