Diweddarwyd 31/08/21
© Hawlfraint y goron 2021
Mae'r cyhoeddiad hwn wedi'i drwyddedu o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostiwch: [email protected]
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan HelpwrArian y DU
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r parth moneyhelper.org.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- cyrchu'r wefan ar ddyfeisiau llai.
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml i'w ddeall ag y gallwn.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Ni ellir llywio rhai rhannau o’r wefan trwy fysellfwrdd, ac mae rhai rhannau’n methu â gwneud ffocws y bysellfwrdd yn weladwy.
- Nid yw rhai dolenni’n ymddwyn yn ôl y disgwyl: er enghraifft, mae rhai dolenni’n codi deialogau moddol yn lle tudalennau gwe.
- Mae gan rai delweddau destun amgen coll neu annigonol, ac nid yw rhai wedi eu dynodi’n ystyrlon nac yn addurnol.
- Nid yw elfennau a labeli ffurflenni bob amser yn cael eu cyfathrebu’n iawn i dechnolegau cynorthwyol, gan gynnwys pan fydd maes yn ofynnol neu’n ddewisol.
- Nid yw rhai rhannau o’r wefan yn cyfleu strwythur rhesymegol tudalennau i dechnolegau cynorthwyol, gan gynnwys y perthnasoedd rhwng labeli ac elfennau o dudalennau neu ffurflenni.
- Mae rhai rhannau o’r wefan yn cyflwyno cynnwys newydd neu wedi ei ddiweddaru pan fo hynny’n briodol, ond nid ydynt yn rhybuddio technoleg gynorthwyol bod y cynnwys wedi newid.
- Mae rhai negeseuon gwall ddim o gymorth, gan roi ychydig neu ddim gwybodaeth am beth sy’n anghywir neu beth mae angen i’r defnyddwyr ei wneud i’w wneud yn iawn; ac nid yw rhai ffurflenni’n darparu rhyngweithio hygyrch â dangosyddion gwall a negeseuon gwall.
- Mae’r defnydd o benawdau trwy’r safle yn anghyson.
- Mae rhai dolenni’n methu â nodi eu pwrpas, fel arfer oherwydd naill ai nad ydynt yn cynnwys testun cyswllt neu eu bod yn ddolenni delwedd â thestun amgen coll neu annigonol.
- Nid yw cynnwys rhestrau bob amser yn glir i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin.
- Mae rhai rhannau o’r wefan yn defnyddio lliw fel yr unig ffordd o gyfleu gwybodaeth, ac mae gan rannau eraill wrthgyferbyniad lliw annigonol mewn testun neu ddelweddau.
- Nid yw rhai fideos wedi eu recordio'n barod yn darparu unrhyw ddisgrifiadau sain ar gyfer cynnwys y fideo.
- Mae rhai tudalennau’n cynnwys rhestrau hir o ddolenni, blociau mawr o destun, neu baragraffau cyfan o destun wedi ei italeiddio.
- Nid yw rhai rhannau o’r wefan yn gweithio’n iawn ag ystumiau pwyntydd ar ddyfeisiau symudol.
Mae mwy o wybodaeth am y materion hygyrchedd yn ymddangos yn yr adran ar gynnwys nad yw'n hygyrch isod.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu Braille, mae croeso i chi gysylltu â ni:
- e-bost: [email protected]
- ffôn: +44 (0)1159 659570
- ysgrifennu: The Money and Pensions Service, Holborn Centre, 120 Holborn, London, EC1N 2TD
- ymweld â: Holborn Centre, 120 Holborn, London, EC1N 2TD
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen dau ddiwrnod.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar ein tudalennau cysylltu â ni:
Cymraeg: moneyhelper.org.uk/cy/contact-us
Saesneg: moneyhelper.org.uk/en/contact-us
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydym wedi eu rhestru ar y dudalen hon, neu os credwch nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, byddem wrth ein bodd i glywed gennych. Anfonwch e-bost atom lle rydych yn disgrifio'r broblem a dywedwch wrthym pa dudalen roeddech yn ei defnyddio pan ddigwyddodd. Anfonwch yr e-bost hwn at [email protected]
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Equality Advisory and Support Service (EASS)
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Mae ein swyddfeydd ar gau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Ar ôl i ni ailagor, bydd croeso i chi gysylltu â ni ymlaen llaw, fel y gallwn drefnu safle rhesymol ar gyfer eich ymweliad. Er enghraifft, byddwch yn gallu gofyn am le â goleuadau isel neu lefelau sŵn isel, neu gallwch ofyn i ni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni:
Cymraeg: moneyhelper.org.uk/cy/contact-us
Saesneg: moneyhelper.org.uk/en/contact-us
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA WFersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe , oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae'r adran hon yn rhestru'r ffyrdd allweddol y mae'r wefan hon yn methu â chwrdd â meini prawf llwyddiant WCAG 2.1. Mae'n cynnwys pob achos o dorri meini prawf llwyddiant A ac AA a'r holl faterion y canfu'r archwiliad annibynnol eu bod yn ddifrifol neu'n feirniadol. Mae'n cynnwys mân faterion dim ond os ydynt yn ymwneud â maen prawf Lefel A. Mae'r materion yn ymddangos yn nhrefn ddilyniannol y meini prawf llwyddiant cymwys.
Nid yw rhai delweddau wedi'u dynodi'n rhai ystyrlon nac addurnol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.1.1 (Cynnwys heblaw testun, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob delwedd wedi ei dynodi naill ai'n ystyrlon neu'n addurnol erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai dolenni yn methu â nodi eu pwrpas, fel arfer oherwydd naill ai nad ydynt yn cynnwys testun cyswllt neu eu bod yn gysylltiadau delwedd â thestun amgen coll neu annigonol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.1.1 (Cynnwys heblaw testun, Lefel A); 2.4.4 (Pwrpas Cyswllt (mewn Cyd-destun), Lefel A). Rydym yn bwriadu diweddaru pob dolen fel eu bod yn nodi eu pwrpas erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae gan rai elfennau mewn rhai ffurfiau labeli lluosog. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.1.1 (Cynnwys heblaw testun, Lefel A); 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.6 (Penawdau a Labeli, Lefel AA); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod gan bob elfen ffurf un label yn union erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai ffurflenni yn cynnwys cyfres o elfennau cysylltiedig sydd hed eu dynodi fel grwpiau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.1.1 (Cynnwys heblaw testun, Lefel A); 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.6 (Penawdau a Labeli, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod gan bob elfen ffurf un label yn union erbyn 31 Mawrth 2022.
Nid yw rhai fideos wedi'u rhag-gofnodi yn darparu unrhyw ddisgrifiadau sain ar gyfer y cynnwys fideo. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.2.5 (Disgrifiad Sain (Rhag-gofnodedig), Lefel AA). Rydym yn bwriadu darparu disgrifiadau sain ar gyfer yr holl fideos sydd wedi'u rhag-gofnodi erbyn 31 Mawrth 2022.
Nid yw cynnwys a strwythur rhestrau bob amser yn cael eu gwneud yn glir i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A). Rydym yn bwriadu cywiro strwythur yr holl restrau erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai dolenni'n codi blychau deialog yn lle tudalennau gwe. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A). Rydym yn bwriadu dileu, erbyn 31 Mawrth 2022, y defnydd o ddolenni ar gyfer magu blychau deialog.
Nid yw rhai tablau yn nodi celloedd pennawd a data yn iawn. Mae hyn yn torri maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A). Rydym yn bwriadu cywiro codio pob tabl fel eu bod, erbyn 31 Mawrth 2022, yn nodi celloedd pennawd a data yn iawn.
Dynodir nodweddion testunol rhai eitemau yn weledol yn lle yn semantig neu'n strwythurol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod yr holl nodweddion testunol wedi'u dynodi'n semantig neu'n strwythurol erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae'r defnydd o benawdau trwy'r wefan yn anghyson: mae rhai tudalennau'n hepgor lefelau pennawd, mae penawdau eraill yn wag. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.1 (Blociau Ffordd Osgoi, Lefel A); 2.4.6 (Penawdau a Labeli, Lefel AA); 3.2.3, Llywio Cyson, Lefel AA). Rydym yn bwriadu cywiro'r strwythur pennawd erbyn31 Mawrth 2022.
Nid yw rhai rhannau o'r wefan yn cyfleu strwythur rhesymegol tudalennau mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol lywio'r tudalennau hynny. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.1 (Blociau Ffordd Osgoi, Lefel A); 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, bod pob rhan o'r wefan yn cyfleu strwythur rhesymegol tudalennau yn llawn i dechnolegau cynorthwyol.
Mae gan rai meysydd ffurflenni labeli gweladwy nad ydynt yn cael eu cyfathrebu'n gywir (os o gwbl) i dechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.6 (Penawdau a Labeli, Lefel AA); 2.5.3 (Label mewn Enw, Lefel A); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, bod yr holl labeli gweladwy yn cael eu cyfleu'n iawn i dechnolegau cynorthwyol.
Nid yw ffurflenni bob amser yn cyfleu i dechnolegau cynorthwyol pan fydd angen maes neu'n ddewisol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 2.4.6 (Penawdau a Labeli, Lefel AA); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod yr holl feysydd dewisol gofynnol yn cael eu nodi i dechnolegau cynorthwyol erbyn 31 Mawrth 2022.
Nid yw'r ddewislen symudol yn nodi a yw'n agored neu ar gau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, y bydd y ddewislen symudol yn nodi a yw ar agor neu ar gau.
Mae rhai rhannau o'r wefan yn cyflwyno cynnwys newydd neu wedi'i ddiweddaru wrth i'r defnyddiwr symud ymlaen trwy'r broses, ond nid ydynt yn rhybuddio technoleg gynorthwyol bod y cynnwys wedi newid. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A); 4.1.3 (Negeseuon Statws, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, unrhyw bryd y bydd y wefan yn cyflwyno cynnwys newydd neu wedi'i ddiweddaru, mae'n rhybuddio technoleg gynorthwyol bod y cynnwys wedi newid.
Mae rhai tudalennau'n darparu'r un dynodwr ar gyfer sawl elfen i dechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas, Lefel A); 4.1.1 (Parsio, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod gan bob elfen dudalen ei dynodwr ei hun erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai rhannau o'r wefan yn defnyddio lliw fel yr unig ffordd o gyfleu gwybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 1.4.1 (Defnyddio Lliw, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, y bydd pob rhan o'r wefan sy'n defnyddio lliw i gyfleu gwybodaeth yn defnyddio o leiaf un dull arall hefyd.
Mewn rhai lleoedd mae cyferbyniad lliw testun neu ddelweddau yn rhy isel. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.4.3 (Cyferbyniad (Isafswm), Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau bod cyferbyniad lliw yr holl destun a delwedd yn cydymffurfio erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae angen sgrolio llorweddol a fertigol mewn rhai rhannau o'r wefan o dan rai amodau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.4.10 (Reflow, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, bod pob tudalen sydd angen sgrolio o gwbl yn defnyddio naill ai sgrolio llorweddol neu fertigol, ond nid y ddwy.
Nid yw rhai rhannau o'r wefan yn addasu i fwy o ofod testun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 1.4.12 (Bylchau Testun, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau bod y bylchau testun yn ymateb i'r holl leoliadau defnyddwyr perthnasol ar gyfer bylchau llinellau, paragraffau, llythyrau a geiriau erbyn 31 Mawrth 2022.
Ni ellir cyrchu rhai rhannau o'r wefan trwy'r bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 2.1.1 (Allweddell, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod modd cyrchu pob rhan o'r wefan trwy fysellfwrdd erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai rhannau o'r wefan yn ailddefnyddio'r un testun cyswllt ar gyfer nifer o gyrchfannau gwahanol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 2.4.4 (Pwrpas Cyswllt (Mewn Cyd-destun), Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, bod pob enghraifft o destun cyswllt yn arwain at un cyrchfan yn unig.
Mae rhai dolenni'n nodi pryd maent yn arwain at wefannau allanol, a nid yw eraill. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 2.4.4 (Pwrpas Cyswllt (Mewn Cyd-destun), Lefel A); 3.2.4 (Adnabod Cyson, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, y bydd yr holl ddolenni sy'n arwain at wefannau allanol yn nodi cymaint.
Mae rhai rhannau o'r wefan yn methu â gwneud ffocws y bysellfwrdd yn weladwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 2.4.7 (Focus Visible, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau, erbyn 31 Mawrth 2022, y bydd ffocws y bysellfwrdd bob amser yn weladwy trwy'r wefan.
Nid yw rhai rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn ag ystumiau pwyntydd ar ddyfeisiau symudol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant canlynol WCAG 2.1: 2.5.1 (Ystumiau Pointer, Lefel A). Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob ystum pwyntydd yn gweithio'n iawn ar ddyfeisiau symudol erbyn 31 Mawrth 2022
Mae gan rai rhannau o'r wefan lywio sy'n anghyson â rhannau eraill. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 3.2.3 (Llywio Cyson, Lefel AA). Rydym yn bwriadu diweddaru llywio'r wefan fel bod y cyfan yn gyson erbyn 31 Mawrth 2022.
Mae rhai negeseuon gwall ddim o gymorth, gan roi ychydig neu ddim gwybodaeth am yr hyn sy'n anghywir neu'r hyn y mae angen i'r defnyddiwr ei wneud i'w wneud yn iawn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 3.3.3 (Awgrym Gwall, Lefel AA). Rydym yn bwriadu diweddaru cynnwys a chyflwyniad yr holl negeseuon gwall erbyn 31 Mawrth 2022 fel eu bod yn nodi'n glir beth sy'n bod a beth sydd angen i'r defnyddiwr ei wneud i gywiro'r broblem.
Nid yw rhai ffurflenni yn dychwelyd y ffocws i'r gwall cyntaf ar y dudalen, ac nid yw rhai yn caniatáu i'r defnyddiwr ailgyflwyno'r ffurflen nes bod yr holl wallau wedi'u cywiro. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 3.3.1 (Adnabod Gwallau, Lefel A); 3.3.2 (Label neu Gyfarwyddiadau, Lefel A); 3.3.3 (Awgrym Gwall, Lefel AA). Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob ffurflen yn trin gwallau mewn modd sy'n cydymffurfio â WCAG erbyn 31 Mawrth 2022.
Nid oes gan rai iFrames deitlau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol: 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth, Lefel A). Rydym yn bwriadu rhoi teitlau i bob iFrames erbyn 31 Mawrth 2022.
Nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin a/neu lywio bysellfwrdd. Mae hyn yn methu rhai o feini prawf llwyddiant WCAG 2.1 PDF1 trwy PDF23. Er bod rhai o'n dogfennau PDF hŷn wedi'u heithrio o'r rheoliad hygyrchedd, fel y disgrifir mewn adran ddiweddarach o'r Datganiad hwn, byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn wrth symud ymlaen. Pryd bynnag y byddwn yn cyhoeddi cynnwys PDF newydd, byddwn yn sicrhau y gellir cyrchu'r wybodaeth ynddo gan ddefnyddio darllenwyr sgrin a'n bod hefyd yn darparu fersiynau HTML o'r cynnwys hwnnw.
Problemau hygyrchedd a geir trwy brofion defnyddioldeb cynhwysol
Canfu'r Profion Defnyddioldeb Cynhwysol (IUT) nifer fach o broblemau hygyrchedd nad ydynt yn dod o dan feini prawf WCAG yn benodol. Er nad yw'r rhain o reidrwydd yn faterion cydymffurfio WCAG, rydym yn eu rhestru yma oherwydd gwelsom eu bod yn broblemau hygyrchedd i'r cyfranogwyr yn ein profion. Y broblem hygyrchedd fwyaf cyffredin a geir yn yr IUT oedd cyferbyniad lliw annigonol, yr ydym wedi sôn amdano uchod.
Nid yw rhai technolegau cynorthwyol a ddefnyddir i addasu ymddangosiad sgrin yn gweithio pan fydd darllenydd y sgrin ymlaen. Gall hyn achosi problemau i rai pobl sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol i'w helpu i ganfod a deall cynnwys.
Mae rhai tudalennau'n cynnwys rhestrau hir o ddolenni neu flociau mawr o destun, y gall rhai pobl eu cael yn llethol. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i rai pobl, fel pobl â dyslecsia neu anhwylderau sylw, amsugno a deall y cynnwys. Er nad yw hyn yn dod o dan unrhyw feini prawf llwyddiant WCAG 2.1, mae System Concepts yn argymell “torri cynnwys i fyny a’i gwneud yn hawdd sgimio ei ddarllen” (www.system-concepts.com/insights/accessible-content-for-cognitive-impairments). Rydym yn bwriadu rhannu rhestrau hir o ddolenni a blociau mawr o destun, i'w gwneud yn haws i'w sgimio i'w darllen.
Gall y cefndir gwyn greu llewyrch i rai defnyddwyr ac mae dull tywyll gyda thestun gwyn yn creu llewyrch i ddefnyddwyr eraill. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl ddarllen a deall y cynnwys. Er nad yw hyn yn dod o dan unrhyw feini prawf llwyddiant WCAG 2.1, mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynghori defnyddio “cefndir ysgafn (nid gwyn)” (www.bdadyslexia.org.uk/advice/employers/creating-a-dyslexia-friendly-workplace/dyslexia-friendly-style-guide). Rydym yn bwriadu ymchwilio i'r mater hwn ymhellach ac ystyried newid ein cefndir gwyn i liw ysgafn iawn.
Mae rhai defnyddwyr o'r farn bod lliw testun "pinc" (magenta) yn anodd ei ddarllen yn erbyn cefndir gwyn y dudalen. Er bod y cyfuniad lliw hwn yn pasio gwirio cyferbyniad (https://webaim.org/resources/contrastchecker/?fcolor=C82A87&bcolor=FFFFFF), byddwn yn ystyried cynyddu'r cyferbyniad ychydig, fel y gallwn gadw “edrychiad” cyffredinol y magenta wrth wneud y testun hwn yn fwy darllenadwy i ddefnyddwyr o'r fath.
Mae'r testun lleiaf sy'n gyffredin trwy'r wefan i gyd yn rhy fach i rai defnyddwyr ei ddarllen. Rhaid i'r defnyddwyr hyn ei gynyddu gan ddefnyddio swyddogaeth “chwyddo’r” porwr. Rydym yn ymwybodol bod gwahaniaeth mawr mewn maint rhwng y testun lleiaf a mwyaf ar y wefan, a byddwn yn edrych i mewn i gynyddu'r maint lleiaf ychydig.
Mae rhai ‘’popups’’ a baneri yn amharu’n barhaus i'r rhyngweithio. Mae un (“Chwilio amdanom? Nawr, ein bod yn HelpwrArian”) yn rhwystro rhai defnyddwyr ffonau clyfar rhag mynd heibio iddo; mae un arall (“Oes gennych chi gwestiwn pensiwn?”) yn ymddangos ar bob tudalen newydd y mae'r defnyddiwr yn llywio iddi, hyd yn oed ar ôl i'r defnyddiwr ei chau ar dudalen a welwyd o'r blaen. Byddwn yn dod o hyd i achosion atalyddion rhyngweithio o'r fath a byddwn yn cymryd camau i'w hatal rhag rhwystro cynnydd y defnyddiwr.
Baich anghymesur
Mae'r wefan hon yn cynnwys offer sydd wedi eu hymgorffori sy'n cael eu cynnal ar ein sylfaen cod etifeddiaeth. Mae'r rhan fwyaf o'r materion hygyrchedd a restrir yma yn ymwneud â'r cynnwys hwnnw. Hyd yn hyn, nid ydym wedi cael yr adnoddau na'r cyllid i ailadeiladu'r offer o fewn MoneyHelper.org.uk. Mae gennym gynllun ar gyfer ailadeiladu'r offer hyn i wella defnyddioldeb i'n defnyddwyr pan ddaw adnoddau a chyllid ar gael. Ar ôl asesu costau cydymffurfio mewn perthynas â'r offer hynny, rydym yn deall y byddai cydymffurfio ar hyn o bryd yn unol â rheoliad yn gosod baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd. Cyn cyhoeddi cynnwys newydd fel dogfen PDF neu Word, byddwn yn sicrhau bod y fformat amgen hwnnw'n angenrheidiol, yn unol â chyngor gan GDS
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Cafodd y wefan hon archwiliad hygyrchedd trydydd parti llawn fis Ebrill 2021, ail archwiliad rhannol fis Mehefin 2021, phrofion defnyddioldeb cynhwysol trydydd parti fis Mai 2021, ac archwiliad arall fis Gorffennaf 2021. Paratowyd y datganiad hygyrchedd hwn i adlewyrchu canlyniadau'r asesiadau hynny, ac hefyd cymryd i ystyriaeth y materion rydym wedi'u datrys cyn yr archwiliad mwyaf diweddar.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 27/05/2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 25/10/2021.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf trwy archwiliad ar 07/07/2021 a thrwy brofion defnyddioldeb cynhwysol (IUT) ar 25/10/2021. Cynhaliwyd yr archwiliad a'r profion gan Nexer Digital Ltd
Archwiliad hygyrchedd
Dewiswyd y tudalennau i'w harchwilio ar sail y siwrneiau’r defnyddwyr canlynol:
- Cysylltu â HelpwrArian
- Dod o hyd i wybodaeth am bensiynau a hunanasesu eu pensiwn eu hunain
- Ymchwilio i wybodaeth lefel uchel am fuddion pensiynau
- Trefnu apwyntiad ffôn â Pension Wise
- Dod o hyd i ganllawiau a fideos pellach gan HelpwrArian
- Cyrchu a defnyddio’r templedi llythyrau sydd ar gael
- Sampl ychwanegol o dudalennau (Datganiad Hygyrchedd, Polisi Cwcis), fel y’i harweinir gan Fethodoleg Gwerthuso Hygyrchedd Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Gwefan (WCAG-EM) (www.w3.org/WAI/test-evaluate/conformance/wcag-em)
Asesodd yr archwiliad y tudalennau a'r swyddogaethau canlynol:
- Hafan
- Canlyniadau chwilio
- Elfen “siarad â ni’n fyw”
- Ffurflen cyswllt (ffurflen Microsoft)
- Cyrchfan pensiynau
- Teclyn cyfrifiannell pensiynau
- Cyrchfan budd-daliadau
- Cyrchfan Pension Wise
- Trefnu apwyntiad Pension Wise am ddim
- Sut i drefnu apwyntiad dros y ffôn
- Sut i lenwi ffurflen dreth hunanasesu
- Templedi llythyrau
- Dogfennau Word
- Dogfennau Excel
- Datganiad hygyrchedd
- Polisi cwcis
Defnyddiodd yr archwiliad Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.1, lefelau A ac AA, i bennu pa mor hygyrch yw'r tudalennau a ddewiswyd.
Profi defnyddioldeb cynhwysol
Roedd profion Hydref 2021 hefyd yn cynnwys profion defnyddioldeb cynhwysol, proses empirig sy'n cynnwys pobl ag anableddau, sgiliau digidol amrywiol, ac anghenion mynediad technoleg penodol. Defnyddiodd y profion hyn y tasgau canlynol:
- Dod o hyd i a defnyddio'r ''Teclyn Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio''
- Dod o hyd i a defnyddior ''Teclyn Cyfrifiannell Treth Stamp'', ''Cyfrifiannell Treth Trafodion Tir ac Adeiladau'' neu ''Cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir''
- Llywio a chwilio (Cardiau siop coronafeirws)
- Dod o hyd i ''Cysylltu â ni am arweiniad ar bensiynau'' a “Siarad â ni yn fyw”
- Dod o hyd i Pension Wise a threfnu apwyntiad
Datgelodd y profion rai materion hygyrchedd nad ydynt yn mapio'n uniongyrchol i feini prawf WCAG 2.1 ond sy'n effeithio ar allu pobl ag anableddau a/neu anghenion mynediad i ddefnyddio'r wefan, ac rydym wedi'u rhestru yn y datganiad hwn.