Gwasanaeth gan MoneyHelper yw Pension Wise, wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Rydym yn cynnig arweiniad diduedd, am ddim i rai dros 50 oed. Byddwn yn esbonio'r opsiynau i gymryd arian o'ch cronfeydd pensiwn.
Yn eich apwyntiad Pension Wise, bydd ein harbenigwyr pensiynau yn egluro sut mae pob opsiwn yn gweithio a’r pethau eraill sydd angen i chi feddwl amdanynt. Byddant hefyd yn egluro sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu ac yn rhoi gwybodaeth am sut i fod yn wyliadwrus o sgamiau.
Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus am gymryd arian o’ch cronfeydd pensiwn.
Mae apwyntiadau’n para tua 60 munud.
Gallwch gael apwyntiad os:
- rydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, ac
- mae gennych gronfa bensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio yn y DU (gallai hwn fod yn bensiwn personol neu yn y gweithle).
Does dim ots pa mor fach yw eich cronfa bensiwn.
Os ydych o dan 50 neu dim ond â phensiwn budd-dal wedi’i ddiffinio, ni fyddwch yn gallu cael apwyntiad Pension Wise, ond gallwn barhau i’ch helpu
Ffoniwch ni am ddim ar 0800 011 3797 neu ddefnyddio ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i helpu.
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm (llinell gymorth) 9am i 5pm (gwe-sgwrs). Ar gau ar wyliau banc.