Mae nifer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Ymddeol yn hwyrach neu oedi cymryd eich cronfa pensiwn
Nid oes rhaid i chi ddechrau cymryd arian allan o’ch cronfa bensiwn pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y mae eich darparwr pensiwn wedi’i gofnodi i chi ymddeol. Gallwch adael eich arian wedi’i fuddsoddi yn eich cronfa hyd nes y byddwch ei angen.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeol yn hwyrach neu oedi cymryd eich cronfa bensiwn
Incwm ymddeol gwarantedig (blwydd-daliadau)
Gallwch ddewis cymryd 25% o’ch cronfa yn ddi-dreth. Yna gallwch ddefnyddio gweddill eich cronfa i brynu blwydd-dal sy’n gwarantu incwm am weddill eich oes - waeth pa mor hir y byddwch yn byw. Gallwch hefyd gael incwm gwarantedig am gyfnod penodol
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi'i egluro
Incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)
Gallwch gymryd hyd at 25% o’ch cronfa yn ddi-dreth, a chadw gweddill eich cronfa wedi’i buddsoddi i roi incwm rheolaidd i chi. Chi sy'n penderfynu faint i'w dynnu allan a phryd. Gallwch sefydlu incwm rheolaidd os dewiswch. Bydd pa mor hir y bydd yn para yn dibynnu ar berfformiad eich buddsoddiadau a faint rydych yn ei gymryd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw incwm ymddeol hyblyg?
Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
Gallwch gymryd symiau llai o arian allan o’ch cronfa bensiwn- hyd nes y byddwch yn rhedeg allan. Nid yw eich swm di-dreth 25% yn cael ei dalu mewn cyfandaliad - rydych yn ei gael dros gyfnod o amser. Mae 25% o bob cyfandaliad yn ddi-dreth, ac mae'r gweddill yn cael ei drethu fel enillion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
Cymryd eich pensiwn cyfan ar yr un tro
Gallwch gymryd eich cronfa gyfan - 25% yn ddi-dreth, mae’r gweddill yn drethadwy.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich pensiwn cyfan ar yr un tro
Cymysgu eich opsiynau
Nid oes rhaid i chi ddewis dim ond un o'r opsiynau hyn yn unig, gallwch ddewis cymysgu gwahanol opsiynau. Gall hyn roi hyblygrwydd i chi weddu i wahanol anghenion ar wahanol adegau yn ystod eich ymddeoliad.
Er enghraifft, fe allech ddefnyddio un opsiwn ar ddechrau eich ymddeoliad - fel incwm ymddeol hyblyg. A gallwch ddefnyddio opsiwn arall yn nes ymlaen - fel blwydd-dal i gael incwm ymddeol gwarantedig.
Os oes gennych gronfa fawr, efallai y gallwch ei rannu i ddarparu rhywfaint o incwm ymddeol gwarantedig a gadael rhywfaint wedi'i fuddsoddi.
Os oes gennych fwy nag un cronfa bensiwn, fe allech ddewis gwahanol opsiynau ar gyfer pob cronfa.
Gallwch hefyd gadw cynilo i mewn i bensiwn os ydych eisiau, a chael rhyddhad treth hyd at 75 oed.
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynhyrchion sy'n cymysgu dau opsiwn neu fwy.