Os ydych o gwmpas neu’n uwch na’r oedran ymddeol, mae nifer o fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt.
Ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y bydd gennych hawl i arian ychwanegol i helpu gyda’ch gwresogi yn y gaeaf, tocynnau trafnidiaeth am ddim a budd-daliadau eraill.
Mae’r adran hon yn rhoi rhestr o fudd-daliadau y gallwch eu hawlio o bosibl a sut i ddarganfod a ydych yn gymwys, felly ni fyddwch yn colli allan ar unrhyw gymorth.