Mae ein hadran ysgariad a gwahanu yma i roi'r holl arweiniad rydych ei angen o ran rheoli eich cyllid yn ystod perthynas sy'n chwalu.
Nid oes gwahaniaeth beth yw eich sefyllfa. Efallai eich bod yn ysgaru neu'n gwahanu; bod gennych blant neu ddim; yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu; neu'n byw yn Lloegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon. Mae gennym ganllawiau a fydd yn ymdrin â'ch sefyllfa benodol.