Pan fyddwch wedi gwahanu oddi wrth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil, efallai y bydd rhaid i chi gael yswiriant bywyd ychwanegol, newid eich ewyllys neu gael un newydd, i amddiffyn eich teulu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Trefnu yswiriant bywyd
Mae'n bwysig darganfod a oes angen yswiriant bywyd arnoch, neu a yw'r yswiriant sydd gennych yn ddigon o yswiriant. Os oedd gennych chi a'ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) forgais â'ch gilydd, efallai y byddech hefyd wedi cael polisi yswiriant bywyd ar y cyd i fynd ag ef.
Pan fyddwch yn gwahanu, ni allwch rannu polisi yswiriant bywyd – mae rhaid i un ohonoch ei gymryd drosodd neu mae angen ei ganslo. Mae hynny'n golygu y gallai'r partner arall fod heb yswiriant bywyd.
Os oes gennych blant neu unrhyw un arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol ar ôl i chi wahanu, neu os oes gennych forgais ar y cyd â phartner newydd, mae'n werth ystyried cymryd yswiriant bywyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant bywyd – dewis polisi
Diogelu taliadau cynhaliaeth plant a chynhaliaeth priod / lwfans cyfnodol
Ystyriwch gymryd yswiriant bywyd i gwmpasu bywyd eich cyn-bartner os ydych yn derbyn cynhaliaeth priod (lwfans cyfnodol yn yr Alban) a/neu daliadau cynhaliaeth plant ganddynt.
Gallech chi neu'ch cyn-bartner lunio polisi sy'n talu cyfandaliad, neu un sy'n talu incwm i chi am gyfnod penodol o amser (efallai nes bod y taliadau i fod i ddod i ben).
Gelwir yswiriant bywyd sy’n talu incwm yn hytrach na chyfandaliad yn yswiriant ‘budd incwm teulu’.
Adolygu buddion marw mewn gwasanaeth
Efallai y bydd eich gweithle yn talu cyfandaliad pe byddech farw tra'ch bod yn gyflogedig.
Fel rheol mae rhaid i chi ddweud pwy hoffech i dderbyn y cyfandaliad hwn. Yn aml, eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yw hwn.
Gwiriwch a ydych am newid hynny ar ôl i chi wahanu.
Pam dylech adolygu’ch ewyllys presennol?
Nes bod eich ysgariad neu ddiddymiad wedi’i derfynu, bydd eich ewyllys presennol o hyd yn ddilys. Pan fyddwch wedi ysgaru neu pan fydd eich partneriaeth sifil wedi’i diddymu (archddyfarniad absoliwt) ni fydd unrhyw arian neu eiddo rydych wedi gadael i’ch cyn-ŵr, gwraig neu bartner sifil yn mynd iddynt.
Mewn rhai achosion, bydd rhaid i un briod dalu cynhaliaeth neu daliadau cyfnodol i’r cyn-bartner priod yn dilyn yr ysgariad. Yn yr achos yma, mae’r cyn-briod o hyd yn “ddibynnydd” ac felly efallai bydd angen newid eich ewyllys presennol i adlewyrchu hwn; neu gall cyn-briod wneud cais i’r llysoedd ar sail nad yw’r ewyllys yn gwneud darpariaeth ariannol resymol iddynt.
Gallai peidio â newid eich ewyllys olygu y bydd unrhyw rodd a roddwyd iddynt, yn mynd yn syth i’r person sydd i fod i dderbyn un rhywbeth yn eich ewyllys nad yw’n cael ei adael i berson dynodedig (y buddiolwr gweddilliol amgen). Os nad oes un, bydd eich ystâd yn cael ei basio ymlaen gan ddefnyddio rheolau diewyllysedd.
Ond os nad oes gennych gytundeb ariannol ffurfiol, gall cyn-bartner wneud cais o dan y Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth am Deulu a Dibynyddion) 1975 am gyfran o’r etifeddiant, os nad ydynt wedi ail-briodi ac os ydy’r cais yn cael ei wneud o fewn chwe mis o’r grant profiant.
I osgoi hyn, gallech gael gorchymyn cydsynio, sy’n nodi sut yr ydych yn bwriadu gwahanu’ch asedau a’ch cyllid wrth ddod â’r briodas i ben ac a wneir trwy gytundeb.
Os ydych wedi enwi’ch cyn-bartner neu bartner sifil fel ymddiriedolwr neu ysgutor o’ch ewyllys, bydd yr ysgariad, yn y rhan fwyaf o achosion, yn dirymu eu penodiad.
Gall hwn adael eich ewyllys heb ysgutorion os mai’r unig ysgutor oedd eich cyn-bartner, neu heb ddigon o ysgutorion os oedd eich cyn-bartner yn un o ddau ysgutor a bod yr ystâd angen mwy nag un ysgutor. Gall hwn greu cymhlethdod ychwanegol yn dilyn eich marwolaeth.
Hyd yn oed os nad oedd eich cyn-bartner yn ysgutor i’ch ewyllys, os nad oes gennych un neu fwy ysgutor ar ôl i’r ysgariad ddod i ben, mae risg y bydd eich cyn-bartner (os ydy e/hi yn warcheidwad eich plant ifanc dan oed) yn gallu cymryd rheolaeth dros eich ystâd os yw’n cael ei adael i’r plant hynny.
Mae gweddill eich ewyllys o hyd yn ddilys. Er enghraifft, rydych wedi gadael arian i deulu’ch cyn-bartner, byddent dal yn derbyn yr etifeddiant os ydych chi’n marw heb greu ewyllys newydd.
Ystyriwch greu ewyllys dros-dro tra bod eich ysgariad neu ddiddymiad yn parhau.
Os ydych yn priodi eto neu’n ffurfio partneriaeth sifil, bydd unrhyw ewyllys sydd gennych fel arfer yn cael ei ganslo’n awtomatig.
Os ydych yn marw heb greu ewyllys newydd, bydd eich arian a’ch eiddo yn cael eu pasio ymlaen gan ddefnyddio rheolau diewyllysedd. Efallai na fydd hwn yn adlewyrchu eich dymuniadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhoi trefn ar eich materion ariannol
Newid eich ewyllys
Mae’n syniad da i greu ewyllys newydd yn syth ar ôl eich ysgariad i sicrhau bod eich asedau yn cael eu dosbarthu yn y modd y dymunwch.
Os ydych ond am wneud mân newidiadau, yn lle creu ewyllys newydd, gallech ychwanegu rhywbeth a elwir yn ‘godisil’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Newid eich ewyllys
Os ydych am wneud newidiadau mawr i'ch ewyllys - fel gadael arian neu feddiannau i rywun arall - mae'n debyg eich bod yn well eich byd llunio un newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud y bydd yr ewyllys newydd hwn yn dirymu unrhyw ewyllysiau cynharach.
Darganfyddwch sut i lunio ewyllys yn ein canllawiau:
Ewyllys gwneud eich hun: beth sydd eisiau i chi ei wybod
Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu’ch ewyllys
Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys manteision ac anfanteision
Pam mae angen ewyllys arnoch
Os nad oes gennych ewyllys mae’n werth meddwl am lunio un.
Os nad oes gennych ewyllys pan fyddwch farw, caiff eich arian a’ch eiddo eu trosglwyddo yn unol â’r gyfraith.
Gall hyn arwain at rai trefniadau cymhleth, er enghraifft rhwng teuluoedd cyntaf ac ail. Ac efallai nad ydych eisiau hynny.
- Gallai eich plant etifeddu popeth os na fyddwch yn priodi neu'n ymuno â phartneriaeth sifil.
- Os ydych yn ailbriodi neu'n ymuno â phartneriaeth sifil newydd, gallai'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil newydd dderbyn peth neu'r cyfan o'ch arian a'ch eiddo.
- Os ydych yn byw gyda phartner newydd heb briodi neu ymuno â phartneriaeth sifil ni fyddai ganddynt hawl awtomatig i etifeddu, os nad oes gennych ewyllys.