Cael cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys yw’r dull mwyaf cyffredin o’i wneud a’r dull drytaf gan amlaf. Ond gall gwybod ei fod wedi cael ei wneud yn iawn osgoi llawer o boendod i’r rhai fydd yma wedi i chi fynd, a rhoi tawelwch meddwl i chi.
Faint yw cost cael cyfreithiwr i greu ewyllys?
Mae’r ateb yn amrywio yn ddibynnol ar ba mor gymhleth yw’ch materion ac os yw’r cwmni wedi ei leoli mewn dinas.
Dyma amcan o gostau llunio ewyllys gan gyfreithiwr:
- Gall ewyllys syml gostio rhwng £150 a £2,408. Felly, gallai chwilio am y cynnig gorau a dod hyd i rywun gyda phris is arbed cannoedd o bunnoedd i chi.
- Gall ewyllys cymhleth gostio rhwng £162 a £477. Efallai y bydd yn fwy cymhleth os ydych wedi ysgaru ac mae gennych blant.
- Am ewyllys arbenigol sy’n cynnwys ymddiriedolaethau neu eiddo tramor, neu os ydych eisiau cyngor ar gynllunio treth, disgwyliwch dalu isafswm o sawl cant punt.
- Fel arfer bydd ewyllys drych fel arfer yn costio llai na’u gwneud yn unigol. Maent yn werth eu hystyried os ydych chi a chymar neu bartner eisiau ewyllysiau sydd fwy neu lai’r un fath (drych).
Gwnewch yn siŵr bod y gost a ddyfynnir i chi yn cynnwys TAW. Mae’r prisiau uchod yn cynnwys TAW.
Ceir tystiolaeth gan y Bwrdd Gwasanaethau CyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd i awgrymu arbedion mawr posibl o chwilio am y fargen orau ar gyfer gwasanaethau ewyllys. Unwaith y byddwch wedi cael un pris, cysylltwch ag ambell un arall i weld a allant ei wella.
Gallai chwilio am y cynnig gorau arbed cannoedd o bunnoedd i chi.
Ceisiwch ddod o hyd i wasanaeth y credwch fydd yn cynnig gwasanaeth o safon am bris da.
Pam defnyddio cyfreithiwr?
Ystyriwch o ddifrif defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Mae’ch ewyllys yn cynnwys unrhyw ddymuniadau a allai gael eu camddeall neu sydd ychydig yn gymhleth.
- Mae gennych asedau tramor megis tŷ haf neu gyfrifon banc.
- Rydych yn rhedeg busnes gan ddisgwyl iddo ffurfio rhan o’ch ystâd.
- Bydd angen i chi dalu Treth Etifeddiaeth – telir hyn ar ystadau gwerth mwy na £325,000 ar gyfer unigolyn neu hyd at £650,000 ar gyfer pâr priod.
- Mae eich sefyllfa deuluol yn un cymhleth - efallai bod gennych blant gyda chyn bartner, neu eich bod am wneud trefniadau arbennig ar gyfer plant neu oedolyn anabl yn eich teulu.
- Gall llawer o bobl sy'n credu bod ganddynt faterion syml ac felly angen ewyllys syml yn unig, mewn gwirionedd, fod ag amgylchiadau cymhleth sydd angen ateb mwy arbenigol.
Manteision defnyddio cyfreithiwr
Byddwch yn barod
Meddyliwch beth rydych yn dymuno ei adael yn eich ewyllys a phwy ddylai ei gael cyn i chi ymweld â’ch cyfreithiwr. Bydd yn arbed amser ac arian i chi.
Mae’r manteision o ddefnyddio cyfreithiwr yn cynnwys:
- Rydych wedi’ch diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae cyfreithwyr wedi eu rheoleiddio gan y Solicitors Regulation Authority (SRA). Os oes gennych unrhyw broblem gallwch wneud cwyn, i’r cwmni cyfreithwyr. Os nad yw'r cwmni cyfreithwyr yn delio â cwyn yn foddhaol, gallwch fel arfer mynd at yr Ombwdsmon Cyfreithiol. Mae yna hefyd grwpiau achrededig fel Solicitors For the Elderly (SFE), cymdeithas genedlaethol o gyfreithwyr annibynnol sy'n arbenigo mewn cyfraith cleientiaid hŷn.
- Gallwch fod yn fwy hyderus na fydd unrhyw gamgymeriadau. Gallai problemau cyffredin gydag ewyllysiau, megis defnyddio’r tystion anghywir neu anghofio arwyddo’r ewyllys, olygu bod yr ewyllys yn ddiwerth pan fyddwch yn marw. Dylai defnyddio cyfreithiwr leihau’r risg i’r math yma o beth ddigwydd.
- Mae’r pethau cymhleth wedi eu gwneud ar eich cyfer chi. Mae’r gyfraith ynglŷn ag etifeddiaeth (gan gynnwys Treth Etifeddiaeth ac ymddiriedolaethau) yn gymhleth. Bydd cyfreithwyr yn gyfarwydd â’r gyfraith ac yn medru rhoi cymorth i chi wneud y dewisiadau mwyaf effeithiol.
- Bydd eich ewyllys yn cael ei storio yn ddiogel. Os bydd cyfreithiwr yn rhoi cymorth i chi ysgrifennu eich ewyllys, byddant yn cadw’r un wreiddiol i chi mewn storfa sydd yn ddiogel rhag tân ac yn rhad ac am ddim.
Pethau i fod yn wyliadwrus ohonno
- Nid yw bob cyfreithiwr yn arbenigwr neu’n dewis arbenigo mewn ysgrifennu ewyllys. Felly dewiswch gyfreithiwr sydd yn gwneud hynny.
- Gall cyfreithwyr bod yn ddrud, o’i gymharu â chwmnïau ysgrifennu ewyllys.
- Siopwch o gwmpas. Ceisiwch ffonio o leiaf dri chwmni i gael dyfynbrisiau, a gwnewch ymchwil eich hun ar bob un i weld beth mae cwsmeriaid eraill yn eu dweud amdanynt.
Beth i’w ddisgwyl gan eich cyfreithiwr
Dylai eich cyfreithiwr:
- gofyn cwestiynau manwl am eich amgylchiadau chi a’ch teulu, a’ch iechyd.
- egluro unrhyw ddewisiadau i roi cymorth i chi wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch ewyllys
- roi cyngor sydd yn gyfrinachol a rhoi’r flaenoriaeth i’ch buddiannau chi
- ysgrifennu a gwirio eich ewyllys yn unol â’ch cyfarwyddiadau.
Sicrhau eu bod hefyd yn rhoi amlinelliad clir yn fuan iawn yn y broses o’r costau a’r dull o’u cyfrifo.
Cyfreithwyr fel ysgutorion
Gallwch ddewis penodi’r cyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol sy’n llunio’ch ewyllys i hefyd gweithio fel eich ysgutor proffesiynol. Golyga hyn y byddant yn delio â threfniadau’ch ystâd wedi i chi farw.
Ond byddwch yn ofalus. Gall cyfreithwyr sy'n gweithredu fel ysgutorion proffesiynol fod yn ddrud iawn (fel y gall cyfrifwyr a banciau), a chostio llawer mwy na chwmnïau sy'n arbenigwyr profiant a gweinyddu ystadau. Cymerwch amser i wirio a deall eich opsiynau cyn penodi ysgutorion proffesiynol.
Os ydych chi am ddefnyddio cyfreithiwr i fod yn ysgutor proffesiynol i chi, gofynnwch bob amser sut y codir tâl arnoch - bydd rhai cyfreithwyr yn cymryd canran o'ch ystâd i dalu am unrhyw filiau. Bydd eraill yn codi tâl am eu hamser. Gofynnwch iddyn nhw a fyddant yn gweithio ar sail ffi sefydlog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ysgutor eich ewyllys
Defnyddio cyfreithwyr am ddim trwy elusennau
Mae yna nifer o elusennau sy’n cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllys yn rhad ac am ddim. Byddwch yn ymwybodol, gall yr elusen ddisgwyl neu annog rhodd gennych, a elwir yn 'legacy'.
Mae yna nifer o fentrau hefyd sydd yn eich galluogi i gael cyfreithiwr i baratoi ewyllys yn rhad ac am ddim neu am gyfraniad a gynigir.
Y mwyaf o’r cynlluniau ysgrifennu hyn yw:
- ’Free Wills Month’ (yng Nghymru a Lloegr). Cynhelir hyn ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mawrth a Hydref, mewn rhannau penodol o Gymru a Lloegr. Darganfyddwch fwy ar wefan Free Wills Month
- ’Will Aid’. Cynhelir hwn ym mis Tachwedd, gyda thua 1,000 o gyfreithwyr yn cymryd rhan. Mae’n rhaid i chi fwcio ymlaen llaw fel arfer, gan fod cyfyngiad ar y nifer o leoedd ar y cynllun ac mae’n brysur. Argymhellir isafswm rhodd hefyd. Darganfyddwch fwy ar wefan Will Aid
- Mae nifer o elusennau ac undebau llafur yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim, yn y gobaith y byddwch yn gadael rhywfaint o arian iddynt. Efallai y bydd y rhain yn ateb da os oes gennych faterion syml iawn, ond efallai na fyddant yn darparu mynediad at help gan gyfreithiwr cymwysedig am amgylchiadau mwy cymhleth. Os ydynt yn argymell cyfreithiwr, ceisiwch gael ddyfynbris gan un neu ddau gyfreithiwr amgen am y gwaith.
- Mae rhai cynhyrchion yswiriant yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim fel rhan o’r yswiriant rydych wedi’i brynu. Os oes gennych yswiriant cartref neu yswiriant bywyd, edrychwch i weld os oes gwasanaeth ysgrifennu ewyllys wedi’i gynnwys am ddim.
Cyn i chi weld cyfreithiwr
Arbedwch amser ac arian trwy feddwl beth yr hoffech ei gynnwys yn eich ewyllys cyn i chi ymweld â’ch cyfreithiwr. Efallai y byddwch hefyd eisiau siarad â'ch teulu am eich bwriadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllunio beth i'w adael yn eich ewyllys
Dod o hyd i gyfreithiwr
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys yn eich ardal trwy chwilio yn y cyfeirlyfrau a ddarperir gan gymdeithasau cyfraith y DU:
- Yng Nghymru a Lloegr: Cymdeithas y Gyfraith
- Yn yr Alban: Cymdeithas y Gyfraith yn yr Alban
- Yng Ngogledd Iwerddon: Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon
Eich opsiynau os nad ydych yn dymuno defnyddio cyfreithiwr
Nid yw’n ofynnol i chi ddefnyddio cyfreithiwr os nad ydych yn dymuno gwneud hynny – mae yna ddulliau eraill o baratoi eich ewyllys.
Gallech arbed arian trwy ddefnyddio gwasanaeth ysgrifennu ewyllys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwasanaeth ysgrifennu ewyllys - manteision ac anfanteision
Neu os yw eich ewyllys yn mynd i fod yn syml, efallai y gallwch ei hysgrifennu eich hun.