Mae cael babi yn gyffrous ac yn gostus ond mae nifer o fudd-daliadau a hawliau ar gael i roi hwb i gyllideb eich teulu.
Os ydych chi’n feichiog, gallwch gael presgripsiynau am ddim a gofal deintyddol y GIG gyda Thystysgrif Eithrio Mamolaeth.
Gallwch hefyd wneud cais am fwy na £1,000 y flwyddyn os oes gennych un plentyn, a £800 ychwanegol ar gyfer plant ychwanegol os ydych yn ennill llai na £50,000. Mae’r adran hon yn manylu ar eich opsiynau os oes gan eich teulu incwm isel neu os ydych yn chwilio am gymorth ariannol yn ystod neu ar ôl eich beichiogrwydd.