Wyddech chi fod hawlio Budd-dal Plant yn golygu y gallech chi gael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth? Efallai mai ymddeol yw’r peth olaf ar eich meddwl wrth i chi ofalu am fabi newydd, ond gallai’r hyn a wnewch yn awr gael effaith sylweddol ar eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol.
Diogelu eich Pensiwn gan y Wladwriaeth
Nid oes neb yn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn fel mater o drefn pan fyddant yn ymddeol.
Byddwch ond yn cael y swm llawn os byddwch wedi talu - neu wedi cael eich credydu â - chyfraniadau Yswiriant Gwladol am 35 o flynyddoedd. Fel arfer byddwch yn cronni blwyddyn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy dalu trethi ar eich cyflog, ond pan fyddwch yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol nes bydd eich plentyn ieuengaf yn 12 oed, hyd yn oed os nad ydych yn ennill.
Ychwanegir y credydau fel mater o drefn i’ch cyfrif Yswiriant Gwladol pan hawliwch Fudd-dal Plant - felly nid oes angen i chi wneud dim.
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Pensiwn newydd y Wladwriaeth
Swm llawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth ar gyfer 2023/24 fydd £203.85 yr wythnos.
Beth yw Budd-dal Plant?
Taliad rheolaidd gan y llywodraeth yw Budd-dal Plant i roi cymorth gyda’r cost o fagu plentyn.
Gallwch hawlio Budd-dal Plant am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdanynt os ydynt:
- dan 16 oed
- dan 20 oed ac yn parhau mewn hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Yn y flwyddyn dreth 2023/24 gallech gael:
- £24.00 yr wythnos am eich plentyn cyntaf
- £15.90 yr wythnos am unrhyw blant eraill
Nid oes treth i’w thalu os nad yw yr un o’r rhieni’n ennill mwy na £50,000 y flwyddyn.
Os byddwch yn ennill mwy na hyn, bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol. Gelwir hyn yn ‘Daliad Budd-dal Plant Incwm Uchel’.
Os bydd y naill ohonoch yn ennill dros £60,000, gallwch ddewis peidio â chael y taliadau – ac osgoi'r dreth – ond parhau i gael y hawliadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-dal Plant ar gyfer pobl sy'n ennill £50,000+
Sut i hawlio Budd-dal Plant
Lawrlwythwch ffurflen gais (CH2) o wefan GOV.UK
Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i rywbeth gan eich bod chi neu’ch partner yn ennill mwy na’r terfyn di-dreth o £50,000 – mae dal werth hawlio. Mae hyn er mwyn i chi beidio â cholli allan ar gredydau Yswiriant Gwladol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i hawlio Budd-dal Plant
Os ydych yn ofalwr maeth
Os ydych yn ofalwr maeth cofrestredig, bydd angen i chi wneud cais i CThEM am gredydau Yswiriant Gwladol.
Lawrlwythwch ffurflen gais o wefan GOV.UK
Trosglwyddo Credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn gweithio ac yn cael Budd-dal Plant – efallai’ch bod yn cronni mwy o gredydau Yswiriant Gwladol nac sydd eu hangen mewn gwirionedd.
Y newyddion da yw y gallwch eu trosglwyddo i’ch partner os nad ydynt yn gweithio neu eu bod ar incwm isel a ddim yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gallwch hawlio ar gyfer trosglwyddo credydau bob blwyddyn ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
I drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol, lawrlwythwch ffurflen gais o wefan GOV.UK
Credydau teidiau a neiniau
Gallwch hefyd drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol i rywun arall yn eich teulu – er enghraifft:
- brawd neu chwaer
- taid neu nain, neu
- aelod uniongyrchol arall o’r teulu
os ydynt yn gofalu am eich plentyn (dan 12 oed) am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Nid oes dim angen iddyn nhw fod yn ofalwyr plant cofrestredig.
Yr enw cyffredin ar y rhain yw ‘credydau teidiau a neiniau’.
I hawlio credydau teidiau a neiniau, lawrlwythwch ffurflen gais o wefan GOV.UK
Sut i gael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’n hawdd edrych faint o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych - a faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gall y rhain ei roi i chi.
Hefyd gallwch gyfrifo faint yn fwy o flynyddoedd – os o gwbl – rydych eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.