P’un a oes gennych anghenion gofal neu anabledd, mae’n bwysig gwybod pa fudd-daliadau a hawliau anabledd y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer a sut i wneud cais amdanynt.
Gall gofalu am aelod o’r teulu sydd ag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl, neu broblem cyffuriau neu alcohol fod yn ymrwymiad enfawr. Yn ffodus, mae yna gymorth ariannol a gwasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael a sut i wneud cais am rai budd-daliadau’n dibynnu ar eich amgylchiadau.