Cynlluniwr Cyllideb
Bydd ein cyfrifiannell cyllideb am ddim yn eich helpu i wybod yn union ble mae'ch arian yn cael ei wario, a faint sydd gennych yn dod i mewn. Mae gwybod sut i reoli cyllideb – cadw cofnod o ble mae pob punt yn cael ei wario - yn gam cyntaf gwych i ddechrau eich cynilion, dod allan o ddyled neu baratoi ar gyfer ymddeoliad. Gall ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim helpu.
Byddwn yn rhoi i chi:
- lle i gofnodi'ch holl wariant, fell na fyddwch yn anghofio unrhyw beth
- dadansoddiad o'ch cyllid yn ôl categori
- awgrymiadau wedi'u personoli pan fyddwch wedi gorffen.
Cael mynediad i’ch cynllun cyllideb sydd wedi ei arbed
Nawr rydym wedi symud at HelpwrArian, gallwch fod yn sicr ein bod wedi cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Gallwch gael mynediad o hyd at eich cynllun cyllideb sydd wedi ei arbed gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Gwasanaeth Cynghori Ariannol – ar y sgrin nesaf dewiswch Cael Mynediad i’ch Cynllun Cyllideb sydd wedi ei arbed.