Mae costau biliau cartref yn parhau i gynyddu ledled y DU, ond mae yna dal rhai ffyrdd hawdd i dorri costau. Gall cartref cyffredin arbed cannoedd o bunnoedd pob blwyddyn gan ddilyn ein hawgrymiadau.
Lleihau eich bil ffôn cartref a band eang
Mae llawer o gyflenwyr i’w cael ac mae'n hawdd torri eich biliau ffôn a band eang misol. Darganfyddwch sut yn ein canllaw Sut i leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd.
Mae’n bwysig i ystyried costau eich llinell daear wrth edrych ar gostau band eang - gan fod nifer o fargeinion sy’n ymddangos yn rhad yn gwneud i chi gymryd rhent llinell ddrud. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen llinell dir arnoch i gael band eang.
Ni fu erioed yn haws i newid eich darparwr ffôn cartref a band eang. A gallwch arbed cannoedd o bunnoedd i’ch hun ar eich biliau. Darganfyddwch fwy am hanfodion newid.
Sicrhewch fil ffôn symudol rhatach
A yw eich contract ffôn symudol yn dod i ben? A ydych yn ceisio dod o hyd i'r ffordd rataf o gael y ffôn ddiweddaraf?
Dyma ychydig o awgrymiadau i gadw'ch biliau'n isel:
- Defnyddiwch offer ar-lein i ddadansoddi'ch biliau ac argymell contract
- Trafodwch gyda chyflenwyr - cofiwch mai chi sydd wrth y llyw
- Defnyddiwch wefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i'r cynnig gorau i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol, a rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd ei ddefnyddio am ddim.
Torri cost eich bil dŵr
Mae'r bil dŵr blynyddol ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr yn £473, yn ôl Ofwat, yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr . Ac er na allwch newid cyflenwr dŵr, mae yna ffyrdd o arbed arian ar filiau.
Er enghraifft, gallech:
- osod mesurydd dŵr am ddim
- cael llai o faths a newid i gawodydd
- newid i ben cawod mwy effeithlon.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr.
Help gan y llywodraeth i leihau eich biliau ynni
Mae prisiau nwy a thrydan yn cael eu rheoli gan Gap ar Brisiau Ynni Ofgem. Mae hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gall eich cyflenwr ei godi arnoch am bob uned o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio.
Mae'n werth gwirio a allwch gael biliau ynni rhatach trwy newid cyflenwr neu dariff (y fargen rydych chi arni).
Gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:
Mae’r gwefannau cymharu a restrir uchod ond yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, os ydych yng Ngogledd Iwerddon gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y cyflenwyr gallwch newid iddynt ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer mae'n rhatach talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, yn hytrach nag arian parod neu siec.
Am fwy o gymorth ariannol a ffyrdd o wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gweler ein canllaw Sut i leihau eich biliau ynni.
Gostyngiad Cartref Cynnes
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartref CynnesYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cartrefi incwm isel gostyngiad o £150 i helpu gyda biliau ynni. Mae’r cynllun ar agor am geisiadau rhwng mis Hydref a mis Mawrth pob blwyddyn, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’ch darparwr ynni.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Mae hwn yn daliad di-dreth o hyd at £300 i helpu pobl a anwyd ar neu cyn 25 Medi 1957 i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae rhai pobl yn ei alw'n lwfans tanwydd y gaeaf.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr
Byddwch ond yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (gwerth hyd at £300) os:
- ydych dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, ac
- yn hawlio budd-dal prawf modd fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio'n gyflym a ydych yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau neu grantiau.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Dim ond os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn hawlio budd-dal prawf modd y byddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf.
Fodd bynnag, bydd pensiynwyr yng Ngogledd Iwerddon nad ydynt bellach yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael taliad untro o £100 yn lle hynny. Bydd hyn yn cael ei dalu'n awtomatig cyn diwedd mis Mawrth 2025.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Os ydych chi'n byw yn yr Alban byddwch yn cael taliad cyfatebol y gaeaf hwn os ydych chi'n gymwys. Bydd y taliad yn awtomatig, sy'n golygu nad oes rhaid i chi wneud hawliad. Byddwch wedi derbyn llythyr yn cynnwys manylion eich taliad.
Bydd hyn yn cael ei ddisodli yn y pen draw gan Daliad Gwresogi Gaeaf Oed Pensiwn.
Sut mae Taliad Tanwydd y Gaeaf yn gweithio?
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a phwy sy'n byw yn eich cartref.
Os ydych wedi cael y taliad o'r blaen, dylech ei gael eto heb orfod hawlio, os ydych yn bodloni'r meini prawf.
Dylech hefyd ei gael yn awtomatig os ydych yn bodloni'r meini prawf oedran a phreswylio, ac yn cael unrhyw un o'r ystod eang o fudd-daliadau'r llywodraeth. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar incwm (JSA)
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
Os ydych yn gymwys, byddwch wedi derbyn llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn cadarnhau faint o arian y gallwch ei ddisgwyl. Os gwnaethoch gais am Gredyd Pensiwn yn ddiweddarach ac yn gymwys, byddwch yn cael eich taliad yn nes ymlaen. Os ydych yn byw gyda rhywun, dim ond un ohonoch fydd yn cael y taliad hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch yn gymwys.
Bydd y llythyr hefyd yn esbonio sut y gallwch ddiweddaru unrhyw wybodaeth anghywir, fel eich manylion banc.
Tua thair wythnos ar ôl i chi gael y llythyr - i'r rhan fwyaf o bobl bydd hyn wedi bod ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr - bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc dewisol.
Y cyfeirnod talu ar eich datganiad banc fydd 'Tanwydd Gaeaf DWP'.
Darganfyddwch fwy am Daliad Tanwydd y GaeafYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK .
Os oes angen i chi wneud cais, ffoniwch linell gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160 .
Cronfa Cymorth i Aelwydydd
Os ydych ar incwm isel ac angen help gyda chostau hanfodion, efallai y bydd y Gronfa Cymorth i Aelwydydd yn gallu helpu.
Mae angen i chi wneud cais drwy'ch cyngor lleol.
Rhoddir cefnogaeth fesul achos a gallai gynnwys:
- hanfodion sy'n gysylltiedig â chadw'n gynnes ac yn lân, fel cynhyrchion mislif, dillad cynnes, blancedi neu sebon
- darparu offer, fel oergelloedd, rhewgelloedd, poptai neu gogyddion araf
- helpu i osod mesurau effeithlonrwydd ynni neu inswleiddio
- help gyda biliau band eang neu ffôn
- costau cludiant hanfodol, fel atgyweirio ceir neu dalu am betrol
- talebau bwyd i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon:
Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.
Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am changes to the Social FundYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.
A ydych yn talu gormod o Dreth Cyngor?
Yn ôl MoneySavingExpert, mae canoedd o filoedd o gartrefi yn y band Treth Cyngor anghywir. Felly, mae’n werth sicrhau nad ydych yn gordalu.
Ni ddylai gymryd mwy na deg munud i ddarganfod. Ac efallai gallwch arbed cannoedd o bunnoedd a chael ad-daliad.
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad Treth Cyngor.
Hefyd gwiriwch a ydych yn gymwys am ostyngiad o hyd at 50% o’ch bil Treth Cyngor, os ydych:
- yn byw ar eich pen eich hun
- ond yn byw gyda phlant o dan 18 oed, neu
- mae gennych amgylchiadau arbennig eraill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw llawn i Dreth Cyngor.
Tori costau gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus
P'un a ydych yn gyrru neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n debyg bod costau teithio yn cyfrif am lawer o'ch gwariant misol.
Fodd bynnag, mae digon o ffyrdd o dorri costau teithio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- dod o hyd i yswiriant car rhatach
- prynu tanwydd rhatach
- archebu tocynnau trên ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cwtogi ar gostau car a theithio.
Talwch eich biliau mewn pryd
Gall ffioedd talu hwyr ddileu arbedion, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn talu'ch biliau mewn pryd.
Dyma rai awgrymiadau i helpu i aros ar ben eich biliau:
- talu am filiau rheolaidd yn fisol trwy Debyd Uniongyrchol.
- siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau: