I gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r cap ar bris ynni Ofgem yn golygu na ddylai biliau ynni cartref gyda defnydd ar gyfartaledd fod yn fwy na £1,834.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa help sydd ar gael ar gyfer biliau cynyddol?
- Taliadau Costau Byw 2023/24
- Os ydych chi'n defnyddio olew, nwy petrolewm hylifedig neu danwydd oddi ar y grid
- A ddylwn i newid cyflenwyr am fargen rhatach?
- Sut allaf arbed arian ar fy miliau ynni?
- Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
- Cymorth arall
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni’n mynd i’r wal?
Mae cap ar brisiau Ofgem yn £1,834 y flwyddyn erbyn hyn a bydd yn newid i £1,928 y flwyddyn ar 1 Ionawr 2024. Mae hyn yn seiliedig ar gartref gyda defnydd nodweddiadol ar gyfradd amrywiol safonol eu darparwr, efallai y byddwch yn talu mwy neu lai na hwn, yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Mae'r Gwarant Pris Ynni yn cwmpasu cwsmeriaid ynni domestig ledled y DU. Os nad ydych yn elwa o'r cap prisiau oherwydd eich bod yn defnyddio tanwydd oddi ar y grid, yn rhan o rwydwaith gwres neu'n byw mewn cartref parc, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol a daeth hynny i ben ym mis Mai.
Pa help sydd ar gael ar gyfer biliau cynyddol?
Er bod prisiau cyfanwerthu ynni yn gostwng, mae costau byw yn parhau i fod yn uchel. Mae yna ychydig o gynlluniau'r llywodraeth y gallech fod yn gymwys i'w cael i helpu i leihau’r effaith o gostau byw cynyddol.
Taliadau Costau Byw 2023/24
Bydd tri Thaliad Costau Byw yn cael eu hanfon allan dros 2023/24 ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd, yn ogystal â thaliadau ychwanegol i bensiynwyr a phobl sydd ag anableddau. Gallai’r rhain eich helpu gyda biliau ynni uchel. Fel y Taliadau Costau Byw blaenorol, bydd y rhain yn mynd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ac ni fydd angen i chi wneud cais amdanynt. Gall unrhyw negeseuon yn gofyn i chi wneud cais am Daliad Costau Byw fod yn sgam.
Rydych yn debygol o fod yn gymwys os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn;
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliad Anabledd Oedolion (yn yr Alban)
- Taliad Anabledd Plant (yn yr Alban)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Symudedd Pensiwn y Rhyfel
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gweini Cyson
Os nad ydych yn cael y budd-daliadau hyn ac yn byw ar incwm isel, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt a faint y gallech ei gael gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau.
Bydd tri Thaliad Costau Byw yn cael eu gwneud i bobl sy'n cael y budd-daliadau hyn:
- £300 – ail daliad costau byw – rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023
- £250-600 Taliad Tanwydd Gaeaf a Thaliad Costau Byw i Bensiynwyr cyfun
- £299 – trydydd taliad costau byw – yn ystod Gwanwyn 2024.
Cafodd y Taliad Byw cyntaf – (£301) - ei wneud rhwng 25 Ebrill 2023 - 17 Mai 2023. Cafodd y Taliad Anabledd – (£150) - ei dalu rhwng 20 Mehefin 2023 a 4 Gorffennaf 2023.
Am fwy o help gyda chostau byw, mae gan Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth awgrymiadau arbed ynni a gwybodaeth am y taliadau a'r cymorth ychwanegol y gallech fod â hawl iddynt.
Os ydych chi'n defnyddio olew, nwy petrolewm hylifedig neu danwydd oddi ar y grid
Cafodd cartrefi nad ydynt ar y grid nwy ac sy’n defnyddio tanwyddau eraill fel nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu olew gwresogi taliad ychwanegol o £200, i wneud yn iawn am gost gynyddol tanwydd, drwy Ddebyd Uniongyrchol, credyd.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig clyfar, dylai’r taliad o £200 fod wedi cael ei gredydu gan eich darparwr ynni’n awtomatig.
- Mae’r llywodraeth hefyd wedi ymestyn y £400 o gymorth i gartrefi na allant gael mynediad i’r taliad Cynllun Cymorth Biliau Ynni o gyflenwr trydan domestig, er enghraifft os ydych yn byw mewn cartref parc, yn defnyddio ynni oddi ar y grid neu gyda gwres cymunedol.
- Am syniadau ar ffyrdd o leihau costau, gweler ein canllaw Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig
Os ydych chi ar fesurydd rhagdaliedig
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig traddodiadol, dylech fod wedi derbyn £400 o gymorth trwy gael taleb neu Special Action Message (SAM) y mis am chwe mis i'w defnyddio tuag at ychwanegiadau. Anfonwyd y talebau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd gan eich cwmni ynni ar ffeil.
Caeodd y cynllun ar 30 Mehefin 2023 ac nid oedd hyd at un o bob pedwar taleb wedi cael ei ddefnyddio erbyn mis Ebrill. Os ydych ar fesurydd rhagdaledig ac na dderbynioch daleb na SAM, cysylltwch â'ch cyflenwr i wirio bod eich manylion cyswllt yn gyfredol.
Bydd y Cap Prisiau Ynni’n cael ei gymhwyso'n awtomatig gan eich cyflenwr. Nid oes angen gwneud cais ac nid oes angen unrhyw dalebau arnoch.
Mae prisiau ar gyfer mesuryddion rhagdaledig wedi'u gostwng i fod yr un fath â'r rhai ar gyfer pobl ar y Warant Prisiau Ynni sy'n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, gan arbed £45 y flwyddyn i gartrefi cyffredin.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau
Mae’r gostyngiad yn awtomatig. Felly os ydych yn cael neges yn dweud wrthych fod angen i chi wneud cais amdano, neu’n gofyn am eich manylion banc neu gerdyn credyd, gall hwn fod yn sgam. Gallwch roi gwybod am negeseuon rydych yn meddwl sy’n amheus i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
A ddylwn i newid cyflenwyr am fargen rhatach?
Os yw'ch cytundeb sefydlog wedi dod i ben neu os ydych wedi cael eich symud i gyflenwr newydd, mae'n demtasiwn chwilio am gwmni ynni newydd lle gallwch wneud arbedion. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r cynigion bargen sefydlog sy'n rhatach na'r cap ar brisiau ar gyfer cwsmeriaid presennol,
Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd pobl yn gallu newid i dariffau sy'n is na'r cap ar brisiau yn fuan, felly gwiriwch gyda'ch cyflenwr a chadwch lygad allan am fargeinion gwell trwy ddefnyddio gwefannau cymharu a byddwch yn barod i newid pan fydd cynigion ar gael.
Sut allaf arbed arian ar fy miliau ynni?
Pethau syml fel sicrhau eich bod yn dadgysylltu plwg gwefrwyr ffôn, peidio â gadael dyfeisiadau ar ‘standby’ a defnyddio bylbiau golau ynni effeithlon yw’r camau cyntaf. Cofiwch, os ydych yn defnyddio mwy, byddwch chi’n talu mwy.
Gallwch hefyd wella effeithlonrwydd ynni eich cartref gyda gwydro dwbl ac inswleiddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
Wrth i gostau ynni cynyddu, bydd eich taliadau misol yn cynyddu hefyd. Fodd bynnag, os ydych yn meddwl bod y taliadau y gofynnir i chi eu gwneud yn ormodol ac mae llawer o gredyd yn eich cyfrif yn barod, gallwch ofyn i’ch cyflenwyr ei newid. Mae côd Ofgem am gyflenwyr sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn nodi dylent osod Debyd Uniongyrchol teg a gallu esbonio i chi pam fod y swm yn rhesymol. Os na allant, gallwch ofyn i’ch cyflenwr ad-dalu rhai o’ch credyd.
Mae gan MoneySavingExpert cyfrifiannell i’ch helpu cyfrifo beth ddylai eich taliad misol fodYn agor mewn ffenestr newydd
Mae biliau ynni gaeaf fel arfer llawer yn uwch na rhai’r haf, felly yn lle codi tâl am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio pob mis bydd cyflenwyr yn aml yn cymryd eich defnydd blynyddol a’i rhannu i 12 rhan, fel bod y gost wedi lledaenu’n fwy gyfartal. Gall hyn esbonio pam ofynnir i chi dalu am fwy nag ydych yn ei ddefnyddio.
Gallwch sicrhau bod eich biliau mor gywir â phosibl gan gymryd darlleniadau mesurydd yn rheolaidd, os oes gennych fesurydd deallus mae’r darlleniadau’n cael eu danfon yn awtomatig.
Cymorth arall
Gallwch ddod o hyd i gynlluniau, grantiau a budd-daliadau a fydd yn helpu gyda chost biliauYn agor mewn ffenestr newydd a gosod mesurau arbed ynni ar wefan Ofgem.
Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch pa gymorth ariannol ychwanegol y gallech ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd gan Home Energy Scotland.
Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch pa gymorth ariannol ychwanegol y gallech ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd gan y Gronfa Cymorth Dewisol. I gael awgrymiadau arbed ynni a grantiau gwella cartrefiYn agor mewn ffenestr newydd ewch i nyth.llyw.cymru.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae gan nidirect awgrymiadau i arbed ynniYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddiwch y rhestr wirio hon i gadw costau i lawr:
- cymharwch brisiau a pheidiwch â bod ofn bargeinio
- ystyriwch ymuno neu sefydlu clwb olew i gael gostyngiadau pellach
- gofynnwch am opsiynau talu hyblyg
- prynwch yn ystod y misoedd cynhesach
- cadwch eich tanc mewn cyflwr da
- gosodwch foeler effeithlon.
Hawliwch yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt (yn enwedig Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol) oherwydd bydd y rhain yn rhoi pasbort i chi i fwy o help, gan gynnwys Gostyngiad Cartref Cynnes gwerth £150 y flwyddyn.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni’n mynd i’r wal?
Tra ei fod yn brin i gyflenwr ynni mawr fynd i’r wal, mae llawer o gwmnïoedd ynni bach wedi mynd i’r wal yn ddiweddar.
Os bydd hyn yn digwydd, mae ‘rhwyd ddiogelwch Ofgem’ yn sicrhau nad ydych yn cael eich gadael heb ynni. Mae'r rhwyd ddiogelwch yn eich symud yn awtomatig i fargen newydd gyda chyflenwr ynni gwahanol.
Os yw eich cyflenwr ynni wedi stopio masnachu, mae’n bwysig peidio â newid yn syth. Yn lle hynny, arhoswch nes bydd eich darparwr newydd yn cysylltu â chi. Ofgem fydd yn dewis eich cyflenwr newydd, a gall hynny gymryd sawl wythnos.
Os ydych eisoes yn y broses o newid, bydd eich newid yn dal i fynd drwodd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd darlleniad mesurydd fel eich bod yn barod ar gyfer pan fydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi.
Mae hefyd yn werth cadw hen filiau ynni ac aros nes bod eich cyflenwr newydd wedi’i benodi cyn canslo unrhyw Ddebyd Uniongyrchol.
Darganfyddwch fwy ar Gyngor ar Bopeth am yr hyn y gallwch ei wneud os yw eich cyfrif mewn dyled neu mewn credyd pan fydd eich cyflenwr yn mynd i’r walYn agor mewn ffenestr newydd
Beth os oes arnaf arian neu fy mod mewn credyd a bod fy nghyflenwr yn mynd i'r wal?
Bydd unrhyw gredyd ar eich cyfrif yn cael ei ddiogelu. Trosglwyddir y balans i’ch cyflenwr newydd, a fydd yn talu unrhyw gredyd sy’n weddill i chi – llai unrhyw ynni rydych wedi’i ddefnyddio ond heb gael bil amdano.
Mae’n bwysig nad ydych yn newid tariff neu gyflenwr nes bod eich cyfrif yn cael ei symud i’r cyflenwr newydd. Efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach cael unrhyw arian sy’n ddyledus i chi os byddwch yn newid cyn i hyn ddigwydd.
Os oes arnoch arian a bod eich cyflenwr yn mynd i’r wal, bydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo i’r darparwr newydd a bydd yn rhaid i chi dalu o hyd.
Darganfyddwch fwy ar Ofgem ar sut rydych yn cael eich diogelu a beth sydd angen i chi ei wneud fel cwsmerYn agor mewn ffenestr newydd