Cyfrifiannell budd-daliadau
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd neu os ydych chi wedi cael newid mewn amgylchiadau ac nad ydych yn siŵr o’r gefnogaeth y mae gennych hawl i’w gael nawr, gall ein cyfrifiannell budd-daliadau helpu.
Atebwch bedwar cwestiwn syml i gael amcangyfrif cyflym o faint y gallech roi hwb i’ch incwm bob mis.
Ar ôl hynny, dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd i roi mwy o fanylion a chael rhestr o’r budd-daliadau, y taliadau neu’r talebau y gallech fod yn gymwys iddynt a sut y gallwch eu hawlio.
Gallai hawlio budd-daliadau olygu eich bod yn cael Taliadau Costau Byw y llywodraeth, arian tuag at eich biliau gwresogi gyda Gostyngiad Cartrefi Cynnes, prydau ysgol am ddim a grantiau i helpu gyda thalu am wisg ysgol.
Mae unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn y cyfrifiannell yn gyfrinachol ac nid ydym yn ei chadw na’i rhannu ag unrhyw un arall.
Mae ein cyfrifiannell budd-daliadau i’w ddefnyddio fel canllaw yn unig. Gall y cyfrifiannell rhoi manylion i chi am y budd-daliadau yr ydych yn eu hawlio’n barod. I gael archwiliad budd-daliadau llawn gan arbenigwr yn agos atoch chi, ewch i Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd
Wedi’i bweru gan InbestYn agor mewn ffenestr newydd
Rydym yn cynnal cynllun peilot Cyfrifiannell Budd-daliadau gydag Inbest. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyfrifianellau budd-daliadau a gynigir gan ddarparwyr eraill, megis y rhai a restrir ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd