Gall colli eich swydd fod yn sioc a all droi eich bywyd (a'ch cyllid) wyneb i waered. Rydym wedi llunio rhywfaint o ganllawiau hawdd eu darllen i'ch helpu chi trwy'r amser anodd hwn.
Mae gennym ganllaw i'ch helpu chi os nad ydych wedi colli'ch swydd eto ond am ddeall beth allai ddigwydd a beth yw eich opsiynau.
Ac os ydych chi eisoes wedi mynd trwy ddiswyddiad, mae gennym ganllaw i'ch helpu i ddeall tâl diswyddo ac awgrymiadau i'ch helpu i gyllidebu pan nad ydych chi'n gweithio.