Gall cael taliad diswyddo helpu i leddfu’r ergyd o golli’ch swydd. Ond gall penderfynu beth i’w wneud gyda’ch pecyn colli swydd eich drysu’n llwyr. Beth bynnag benderfynwch chi, mae'n bwysig i beidio â gadael y cyfandaliad mewn cyfrif cyfredol nad yw’n talu unrhyw log.
Yn gyntaf – gwiriwch ai chi biau’r arian i gyd
Hyd yn oed os oes arian yn eich cyfrif, mae'n bwysig i beidio â chymryd yn ganiataol bod eich cyflogwr wedi cyfrifo’r dreth yn gywir.
- Efallai bod arnoch chi dreth ychwanegol ar eich taliad – fel arfer dim ond os yw’n uwch na £30,000. Felly cyn gwario’r arian ar bethau eraill, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM (CThEM) i sicrhau nad oes arnoch unrhyw dreth. Mae manylion cyswllt CThEM ar wefan GOV.UK
- Bydd y dreth fydd yn ddyledus gennych yn dibynnu ar eich incwm o bob ffynhonnell am y flwyddyn gyfan. Felly efallai na fydd hi’n bosibl gwybod ar hyn o bryd a fydd yn ofynnol i chi dalu treth ychwanegol. I fod yn ddiogel, mae’n well rhoi arian o’r neilltu rhag ofn.
Defnyddiwch eich cyfandaliad fel incwm rheolaidd
Hyd yn oed os yw’r arian ar gyfer ei ddefnyddio bob dydd, ni fyddwch ei angen i gyd ar unwaith. Mae’n well ei adael mewn cyfrif cynilo mynediad rhwydd neu gyfrif cyfredol sy’n talu llog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo dim rhybudd
Gall eich tâl diswyddo gael ei ddefnyddio hefyd fel cronfa argyfwng ar gyfer costau annisgwyl. Os oes rhaid i chi ddefnyddio’r arian, ceisiwch gynilo rhagor ynddo unwaith y dychwelwch i’r gwaith.
Does dim rheolau penodedig ynglŷn â pha mor fawr y dylai’r gronfa fod, ond mae’r mwyafrif o bobl yn anelu at swm sy’n gyfartal â thri i chwe mis o wariant.
Parhewch i wneud taliadau ar hanfodion ychwanegol
Os yw eich pecyn cyflogaeth yn cynnwys pethau ychwanegol, fel yswiriant iechyd preifat neu lwfans car, efallai byddwch eisiau cyllidebu ar eu cyfer, neu ystyried gwneud hebddynt.
Clirio dyledion
Mae’r llog a godir ar ddyledion bron bob amser yn uwch na’r llog a delir ar gynilion. Felly mae wastad yn gwneud synnwyr i’w talu i ffwrdd. Mae eithriadau
- os oes gennych ddyled di-log (neu rad iawn), neu
- os oes cosbau am ad-dalu’n gynnar.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud ynglŷn â’ch dyled os byddwch yn colli’ch swydd
Talu i mewn i’ch pensiwn
Efallai yr hoffech roi rhywfaint o'ch tâl diswyddo yn eich pensiwn, ond mae rhai pethau y mae'n rhaid i chi eu hystyried, gan gynnwys pa fath o bensiwn sydd gennych a faint rydych am ei roi ynddo.
Dysgwch fwy am eich opsiynau pensiwn os ydych wedi'ch diswyddo (Opens in a new window)
Buddsoddi mewn ffyrdd eraill
Mae llawer o bobl sydd ddim angen eu harian diswyddo yn syth yn penderfynu ei gynilo neu ei fuddsoddi.
Bydd penderfynu ble rydych chi am gynilo neu fuddsoddi yn dibynnu ar:
- pa mor hir rydych yn bwriadu cynilo
- pa mor gyflym y byddwch angen cael gafael ar eich arian
- a faint ydych chi’n barod i’w fentro.
Os, er enghraifft, y cewch gyfandaliad o £20,000, efallai y dymunwch gadw peth ohono ar gyfer defnydd bob dydd a buddsoddi’r gweddill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
A ddylwn gynilo neu fuddsoddi fy arian?
Ydych chi angen ymgynghorydd ariannol?
Dechrau eich busnes eich hun
Gallai colli’ch swydd fod y cyfle y buoch yn disgwyl amdano. Ond nid ar chwarae bach mae sefydlu’r busnes y buoch yn dyheu amdano.
Mae’n bwysig i gynllunio, paratoi a gwneud gymaint o ymchwil ag y gallwch cyn ymrwymo unrhyw arian.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
Cael hyfforddiant
Gallai talu am ailhyfforddi i gynyddu eich sgiliau eich gwneud yn fwy cymwys i’ch cyflogi yn y dyfodol. Neu gallai roi’r hyder i chi ddechrau rhywbeth hollol newydd.
Ond cofiwch y gallai hyfforddiant olygu nad ydych ar gael i weithio ac effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.