Os ydych yn byw gydag anabledd neu salwch, neu'n gofalu am rywun sydd, gall meddwl am arian beri pryder, yn enwedig os ydych wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio, torri'ch oriau yn ôl neu os ydych yn wynebu bywyd ar incwm is.
Yn yr adran hon rydym yn rhoi arweiniad i chi am y gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu chi i ymdopi'n well yn ariannol ac arwain bywyd mwy annibynnol trwy addasu'ch cartref neu wneud teithio'n haws.
Rydym hefyd yn edrych ar bethau o ddydd i ddydd i'ch helpu chi, p'un a yw hynny'n awgrymiadau ar gael morgais neu yswiriant, neu grantiau a hawliadau i'ch cefnogi chi mewn gwaith neu astudio.