Os ydych wedi mynd yn sâl neu’n anabl ac yn gorfod stopio eich astudiaethau dros dro, mae’n bosibl cymryd seibiant heb orfod rhoi’r ffidil yn y to yn gyfan gwbl. Ac os ydych yn meddwl dechrau cwrs newydd, gallwch wneud cais am help ariannol â’r costau ychwanegol o fod yn fyfyriwr anabl.
Cymryd seibiant o’ch astudiaethau
Os oes angen i chi gymryd hyd at 60 diwrnod o absenoldeb
Os ydych yn mynd yn sâl neu’n anabl yng nghanol cwrs ac na allwch astudio, rhowch wybod i’ch prifysgol neu goleg cyn gynted â phosibl.
Gallwch fod yn absennol o’ch cwrs am 60 diwrnod heb ei fod yn effeithio ar eich hawl i gael cymorth ariannol fel myfyriwr.
Beth sy’n digwydd ar ôl 60 diwrnod o absenoldeb?
Ar ôl 60 diwrnod, fel arfer mae’ch prifysgol neu goleg yn hysbysu darparwr eich cymorth ariannol a maent yn stopio’ch taliadau benthyciad neu grant.
Os nad ydych am adael eich cwrs ac rydych yn wynebu caledi eithafol oherwydd nad yw’ch rhandaliadau benthyciad a grant yn cael eu talu, gallwch:
- siarad â darparwr eich cyllid am randaliadau benthyciad estynedig
- siarad â’ch prifysgol neu goleg – efallai gallent eich helpu gyda chyllid caledi.
Gall eich corff ariannu benderfynu ymestyn y cymorth sydd ar gael i chi os ydych angen stopio’ch astudiaethau dros dro neu eu hailadrodd oherwydd afiechyd.
Cyllid myfyrwyr
Mae’r help ariannol sydd ar gael i chi’n amrywio gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw a ble rydych yn astudio.
Mae benthyciadau a grantiau yn cael eu torri i lawr i’r prif feysydd canlynol:
- benthyciad Ffioedd Dysgu – sy’n talu ffioedd eich cwrs
- benthyciad Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr llawn amser yn unig) – sy’n helpu gyda chostau byw fel llety, llyfrau a biliau
- grant Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr llawn amser y gwnaeth eu cyrsiau ddechrau cyn 1 Awst 2016 yn unig) – sydd hefyd yn helpu gyda chostau byw
- cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr anabl (gweler isod).
Nid oes rhaid ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth, ond mae rhaid ad-dalu’r benthyciadau.
O’r flwyddyn academaidd 2016/17 disodlwyd Grantiau Cynhaliaeth gan system fenthyca. Mae hyn yn golygu bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau.
Amcangyfrifwch faint o gyllid y gallech ei dderbyn trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell cyllid myfyrwyr ar wefan GOV.UK
I ddarganfod am y cymorth ariannol sydd ar gael yn yr ardal lle rydych yn byw, darllenwch ein canllaw Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach
Cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr anabl
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl wedi ei lunio i helpu gyda’r costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fod yn fyfyriwr anabl.
Er enghraifft:
- prynu cyfarpar arbenigol, fel meddalwedd cyfrifiadur
- talu am helpwyr anfeddygol, fel rhywun i gymryd nodiadau neu i ddarllen
- helpu gyda chostau teithio oherwydd eich anabledd.
Gallwch wneud cais am un os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn anabl
- mae gennych gyflwr iechyd meddwl
- mae gennych gyflwr iechyd hirdymor
- mae gennych anhawster dysgu, fel dyslecsia.
Telir Lwfans Myfyriwr Anabl ar ben eich cyllid myfyriwr arall. A nid oes rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Mae’r hyn a gewch yn dibynnu ar eich anghenion unigol – nid ar eich incwm nac eich rhieni na’ch bartner.
Os ydych yn byw yn Lloegr
Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yng Nghymru
Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (Opens in a new window)
Os ydych yn byw yn yr Alban
Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Student Awards Agency for Scotland
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Student Finance NI
Cyllid gan ymddiriedolaethau elusennol
Os na allwch gael yr arian rydych ei angen er mwyn gwneud cwrs gan gorff ariannu neu’r wladwriaeth, efallai gallech wneud cais i ymddiriedolaeth i ariannu’ch astudiaethau.
Mae pwy maent yn penderfynu dyfarnu arian iddynt yn amrywio o ymddiriedolaeth i ymddiriedolaeth. Felly mae angen i chi dreulio amser yn mynd trwy’r rheolau ar gyfer pob un.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Darganfyddwch fwy am gyllid addysgol gan ymddiriedolaethau elusennol ar wefan Disability Rights UK
Gwasanaethau cymorth anabledd ac addasiadau rhesymol
Mae gan bob coleg a phrifysgol swyddog neu adran sy’n gyfrifol am wasanaethau myfyrwyr anabl.
Mae’n syniad da i gysylltu â hwy cyn penderfynu ble rydych am astudio, yna eto cyn i chi gychwyn eich cwrs.
Hefyd, dylech siarad â hwy os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol i’ch cwrs neu le astudio er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl hygyrch i chi.
Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am y fath addasiadau. Gallant gynnwys:
- darllenydd neu sgrifellwr mewn arholiadau
- trefniadau llety penodol
- mynediad i’r holl gyfleusterau yn y coleg a’r campws
- technoleg gynorthwyol, fel cyfarpar cyfrifiadurol a meddalwedd arbenigol.
Darganfyddwch fwy am addasiadau ar gyfer myfyrwyr anabl ar wefan Disability Rights UK
Mwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr anabl
Gwelwch restr lawn o daflenni ffeithiau addysgol ar wefan Disability Rights UK
Am fwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr anabl, ewch i wefan UCAS