Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cefnogaeth i roi cymorth i chi gadw’ch swydd pan fyddwch yn sâl neu’n anabl

Os ydych wedi datblygu cyflwr iechyd neu wedi dod yn anabl, mae’n debyg y byddwch yn dymuno gwybod a allwch gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, gweithio oriau mwy hyblyg, neu wneud addasiadau i’ch swydd neu i’ch gweithle. Dyma grynodeb o’ch hawliau cyfreithiol yn y gwaith a chefnogaeth i’ch cadw mewn gwaith.

Eich hawliau cyfreithiol fel gweithiwr anabl

Mae gan bob cyflogai hawliau. Er enghraifft, mae gennych hawl i gael gwyliau â thâl a chael eich talu’r isafswm cyflog cenedlaetholYn agor mewn ffenestr newydd o leiaf.

Os ydych yn weithiwr anabl, mae gennych hawliau ychwanegol yn y gwaith.

Beth yw eich hawliau fel gweithiwr anabl?

Yn gyfreithiol:

  • ni all eich cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn gan eich bod yn anabl
  • mae rhaid i’ch cyflogwr gadw’ch swydd yn agored ar eich cyfer ac ni all roi pwysau arnoch i adael y swydd wrth eich bod yn anabl bellach
  • mae rhaid i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol yn eich gweithle, i’ch swydd, neu i amodau a thelerau eich cyflogaeth.

Ar gyfer pwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?

Mae’n bosibl y bydd yr hawliau ychwanegol hyn yn gymwys i chi, hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn unigolyn anabl.

Er enghraifft os oes gennych gyflwr corfforol fel:

  • canser,
  • MS neu HIV,
  • neu salwch meddwl fel iselder.

Mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys i unrhyw unigolyn sydd ag ‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor’ ar ei allu i gynnal gweithgareddau beunyddiol.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n gymwys fel amhariad corfforol neu feddyliol, gofynnwch i gynghorwr profiadol fel un o Gyngor ar Bopeth.

Addasiadau rhesymol

Mae rhaid i’ch cyflogwr wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad ydych yn cael eich rhoi mewn sefyllfa o anfantais yn y gweithle.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • darparu gwasanaethau ychwanegol, fel rhywun i ddehongli
  • addasu’r gweithle, er enghraifft drwy ddarparu rampiau
  • oriau gweithio hyblyg, amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau neu ragor o gyfnodau o’r gwaith
  • rhoi dyletswyddau amgen i chi neu eich symud i weithle mwy addas
  • defnyddio cyfarpar a addasir yn arbennig - er enghraifft eich cyfrifiadur, bysellfwrdd, ffôn, cadair neu ddesg.

Cyn gofyn i’ch cyflogwr am addasiadau o’r fath, mae’n syniad da canfod beth oedd pobl eraill yn eich sefyllfa yn cael yn ddefnyddiol.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y gall fod o gymorth.

Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr wneud popeth a ofynnwch amdano. Mae rhaid i’r addasiad fod yn ‘rhesymol’ ac os bydd rhywbeth yn rhy ddrud efallai na fydd yn gymwys felly.

Dewch o hyd i ddolenni i grwpiau anabl a sefydliadau penodol:

• Yng Nghymru neu Loegr, ar wefan ScopeYn agor mewn ffenestr newydd 

• Yn yr Alban, ar Disability Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd 

• Yn y Gogledd, ar Disability ActionYn agor mewn ffenestr newydd 

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod gwneud addasiadau rhesymol

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod gwneud addasiadau rhesymol y gofynnoch amdanynt, defnyddiwch y gwefannau a restrir uchod i gael cyngor ar sut i ddatrys y broblem.

Os na fyddwch yn llwyddiannus, gallwch mynd â phethau ymhellach.

Amser i ffwrdd o’r gwaith

Tâl Salwch Statudol

Os ydych wedi datblygu anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu na allwch weithio, efallai y gallwch gael Tâl Salwch Statudol.

Dyma’r isafswm yr ydych yn gymwys i’w gael.

Mae gan rai cyflogwyr eu cynllun tâl salwch eu hunain sydd yn fwy hael.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol

Os na allwch weithio wedi 28 wythnos gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch a allech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan GOV.UK

Absenoldeb Anabledd

Nid yw’n ofynnol i’ch cyflogwr adael i chi gael absenoldeb salwch ychwanegol â thâl gan fod eich amser i ffwrdd yn gysylltiedig ag anabledd.

Serch hynny, gallwch ofyn iddynt:

  • ymestyn eich tâl salwch
  • gynnig ‘Absenoldeb Anabledd’ â thâl i chi
  • adael i chi gymryd yr amser ychwanegol i ffwrdd fel gwyliau blynyddol.

Nid yw pob cyflogwr yn cynnig absenoldeb anabledd. Mae’r rhai sydd yn ei gynnig yn ei gofnodi ar wahân i’ch absenoldeb salwch.

Gallwch ddefnyddio eich absenoldeb anabledd:

  • i’ch galluogi i wella o’r driniaeth
  • i gymryd amser i ffwrdd am driniaeth neu asesiad
  • i gymryd amser heb ei drefnu i ffwrdd o’r gwaith mewn perthynas â’ch anabledd neu’ch cyflwr, a fyddai wedi ei gofnodi fel absenoldeb salwch fel arall.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y gallent fedru negodi eich Absenoldeb Anabledd gyda’ch cyflogwr ar eich rhan.

Os ydych yn disgwyl am addasiadau rhesymol gael eu cwblhau

Os ydych yn absennol o’r gwaith wrth i’ch cyflogwr drefnu addasiadau rhesymol gael eu gwneud, dylid cofnodi hyn fel ‘absennol o’r gwaith’.

Dychwelyd i’r gwaith yn raddol

Mae cynyddu eich oriau gweithio, neu weithio o adref cyn i chi ddychwelyd i’r swyddfa yn ddwy ffordd gyffredin o roi cymorth i bobl ddod yn ôl i weithio ar ôl bod ar absenoldeb salwch.

Mae’r dychwelyd i’r gwaith yn raddol hwn yn cyfrif fel addasiad rhesymol.

Gallwch ei drefnu’n uniongyrchol â’ch cyflogwr, gyda chyngor gan eich:

  • meddyg teulu
  • nyrs, neu
  • therapydd galwedigaethol.

Y cynllun Mynediad at Waith

Gall grant Mynediad at Waith gael ei ddefnyddio i dalu am gymorth ymarferol i’ch helpu i ddiogelu’ch swydd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon mae yna system wahanol – darganfyddwch fwy ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd.

Gall yr arian gael ei ddefnyddio i dalu am bethau fel:

  • prynu offer arbenigol newydd
  • addasu’r offer a ddefnyddiwch yn y gwaith
  • gwneud addasiadau fel gallwch weithio o gartref
  • rhoi cymorth gyda chostau teithio os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i’r gwaith
  • cael gweithiwr cymorth neu anogwr gwaith i roi cymorth i chi yn eich gweithle.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, darganfyddwch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle ar wefan maximus Yn agor mewn ffenestr newydd neu Able FuturesYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am iechyd meddwl a’r gweithle, ewch i wefan minding your head Yn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy am Fynediad at Waith ar wefan GOV.UK

Os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl ac yn absennol o’r gwaith neu’n cael anhawster yn y gwaith, mae cymorth ar gael gan wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl y Gweithle.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r cynllun Mynediad at Waith.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.