Mae gennych chi hawliau penodol o ran y cynhyrchion ariannol rydych yn eu defnyddio. Os aiff rhywbeth o'i le neu os gwerthwyd rhywbeth anaddas i chi, mae yna bethau y gallwch eu gwneud.
Mae'r adran hon yn rhoi arweiniad i chi ar ddelio â chynhyrchion a gafodd eu cam-werthu i chi, sut y gallwch chi ddatrys problem a chwyno, a sut i fynd ati i gael unrhyw iawndal a allai fod yn ddyledus i chi.