Teclyn Llywio Ariannol
Os oes gennych bryderon ariannol oherwydd coronafeirws, ni ydych ar eich pen eich hun. Gall ein Llywiwr Ariannol roi arweiniad i chi yn seiliedig ar eich sefyllfa benodol.
P'un a yw'ch incwm i lawr a'ch bod yn poeni am eich cyllid yn y dyfodol, rydych wedi colli'ch swydd neu'n wynebu cael eich diswyddo, neu'n hunangyflogedig ac yn methu â gwneud eich swydd, gall Llywiwr Ariannol helpu.
Darganfyddwch:
- pa faterion y mae'n rhaid i chi ddelio â nhw'n gyntaf
- ffyrdd o aros ar ben eich biliau
- sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo
- ble i gael help ychwanegol.
Ac os ydych yn ddigon ffodus i fod wedi cynilo rhywfaint o arian, gallwn hefyd eich helpu i wybod beth i'w wneud i wneud y mwyaf o'r cynilion hynny.