Os ydych yn rhedeg allan o arian neu’n wynebu cost annisgwyl y mae angen i chi dalu nawr, mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddod o hyd i sefydliadau sy’n cynnig ystod o gymorth ymarferol sydyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian abwyd?
Help gyda bwyd a chostau hanfodol
Os nad oes gennych arian i dalu am fwyd a hanfodion, gall eich banc bwyd lleol rhoi cyflenwad ychydig ddiwrnodau o fwyd, talebau ar gyfer nwy a thrydan os ydych ar fesurydd rhagdaledig, nwyddau ymolchi ac eitemau babi.
Cael eich atgyfeirio i gael mynediad at fanc bwyd
Fel arfer bydd angen i chi gael eich atgyfeirio i fanc bwyd cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gallwch gael atgyfeiriad gan:
- eich meddyg teulu neu ymwelwr iechyd
- eich gweithiwr cymorth
- eich cyngor lleol
- eich gweithiwr cymdeithasol
- elusen leol, fel Cyngor ar Bopeth
- yr heddlu, ac
- ysgol eich plentyn.
Gallwch gael atgyfeiriad am eich hunain ac unrhyw aelodau teulu rydych yn byw gyda nhw, gan gynnwys eich partner. Pan mae sefydliad yn eich atgyfeirio i fanc bwyd, byddent yn rhoi taleb i chi a’n dweud wrthych ble mae’r banc bwyd.
- os ydych yn byw yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yn Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd yn Advice NI
- yn eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Mynd i’r banc bwyd y cawsoch eich atgyfeirio ato
Gallwch gymryd y daleb i’r banc bwyd i’w gyfnewid am fwyd a hanfodion.
Os oes gennych daleb ond na allwch deithio, efallai gall eich banc bwyd agosaf anfon y nwyddau atoch. Cysylltwch â nhw i ddarganfod a yw hyn yn bosibl.
Mae gan rhai banciau bwyd derfyn ar y nifer o weithiau y gallwch ei ddefnyddio. Os ydych yn gweld eich hun yn dibynnu arnynt yn rhy aml, gallant eich helpu i ddod o hyd i gymorth arall.
Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i’ch banc bwyd agosaf:
- Food Aid NetworkYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer rhestr o fanciau bwyd annibynol
- Trussel TrustYn agor mewn ffenestr newydd sy’n cynnal rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y DU.
Mae ein blog Beth i’w wneud os na allwch fforddio bwyd hefyd yn esbonio ffyrdd i gael bwyd am ddim o archfarchnadoedd a phrydau am ddim
Darganfyddwch Sut i gael arian argyfwng o’r llywodraeth
Sut i gael arian argyfwng o’r llywodraeth
Os na allwch fforddio bwyd neu hanfodion neu rydych wedi dioddef o drychineb fel tân neu lifogydd, gall eich cyngor lleol eich helpu. Nid oes angen i chi fod ar fudd-daliadau, ond mae’n rhaid eich bod ar incwm isel.
Gwneud cais am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld os gallwch wneud cais am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd sy’n helpu pobl sy’n cael trafferth gyda biliau a threuliau bob dydd fel:
- biliau nwy neu drydan
- biliau rhyngrwyd neu ffôn symudol
- dillad
- costau teithio hanfodol fel trwsio car, prynu beic neu dalu am danwydd.
I ddod o hyd i’ch cyngor lleol rhowch eich cod post yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gwneud cais am Gyngor Lles Lleol
Os ydych yn wynebu argyfwng fel peiriant golchi wedi torri neu mae angen help sydyn gyda bwyd, dillad a biliau ynni ac rydych yn fregus, efallai y bydd help lleol ar gael. Gelwir hyn yn gyngor lles lleol.
Os ydych yn gwneud cais, caiff benderfyniad ei wneud i ddarparu help neu beidio a bydd faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol.
- os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles a dod o hyd i help sydd ar gael yn eich ardal ar End Future PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Discretionary SupportYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd dod o hyd i help sydd ar gael yn eich ardal ar End Future PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch Arian o’r llywodraeth os ydych yn barod ar fudd-daliadau
Arian gan y llywodraeth os ydych eisoes ar fudd-daliadau
Hyd yn oed os ydych eisoes yn cael budd-daliadau mae’n werth gwirio ddwywaith eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Gwiriwch eich budd-daliadau
Efallai byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau nad oeddech yn gwybod amdanynt.
- defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio
- ar gyfer gwiriad budd-daliadau llawn gan arbenigwr yn agos atochYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Advicelocal.
Cael Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, mae yna gymorth argyfwng ar gael, yn dibynnu ar eich sefyllfa. Efallai y gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu. Gall Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciadau Trefnu helpu i dalu am bethau fel:
- eitem untro, er enghraifft, newid oergell sydd wedi torri
- treuliau sy’n ymwneud â gwaith, er enghraifft, prynu gwisg neu offer
- treuliau annisgwyl
- atgyweiriadau i’ch cartref
- treuliau teithio
- treuliau mamolaeth
- treuliau angladd
- costau symud tŷ neu flaendal rhent
- eitemau hanfodol, fel dillad.
Mae ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw yn eich helpu i ddarganfod sut mae’n gweithio, os ydych yn gymwys, a sut i wneud cais.
Cael cymorth gyda Help for Households
Os ydych ar incwm isel neu ar fudd-daliadau penodol, gall ymgyrch Help for Households y llywodraeth eich helpu i gael:
- y Taliad costau byw
- cymorth gyda biliau ynni
- cymorth os ydych yn anabl neu mae gennych gyflwr iechyd
- cymorth gyda chostau cartref
- cymorth gyda chostau gofal plant
- cymorth gyda’ch incwm
- costau teithio
- cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Gwelwch ba gymorth gallwch ei gael gyda Help for Households ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch Help gyda chostau babi
Help gyda chostau babi
Os ydych yn poeni am sut i dalu am fformiwla, bwyd neu hyd yn oed cewynnau, mae yna help ar gael.
Ymunwch â chynlluniau Cychwyn Iach/Best Start Foods
Os ydych yn feichiog neu’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 4 oed, efallai y gallwch ymuno â’r cynllun Cychwyn IachYn agor mewn ffenestr newydd. Cerdyn sydd wedi’i lwytho gyda chredyd yw hwn a gallwch ei ddefnyddio mewn archfarchnadoedd tuag at:
- fformiwla, llaeth
- ffrwythau a llysiau.
Mae’r cerdyn yn cael ychwanegiad bob pedwar wythnos os ydych yn gymwys.
Yn Yr Alban, mae cynllun tebyg o’r enw Best Start FoodsYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer plant sydd o dan 3 oed.
Mae yna lawer o fudd-daliadau a hawliadau ar gael os ydych yn feichiog neu mae gennych fabi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Os yw’ch plant yn yr ysgol, mae gennym flog ar sut i gael prydau ysgol am ddim
Cael atgyfeiriad i ddefnyddio eich banc babi lleol
Os ydych yn cael trafferth i gael yr hanfodion ar gyfer eich babi, gall banc babi helpu. Gallant gynnig:
- offer babi
- dillad a nwyddau ymolchi
- llaeth fformiwla
- bwyd babi
- cewynnau, a chadachau, neu
- deganau.
Mae gan bob banc rheolau eu hunain ond fel arfer bydd angen cael atgyfeiriad i gael mynediad gan:
- bydwraig
- gweithiwr cymorth teulu
- ymwelwr iechyd
- banc bwyd
- gweithiwr cymdeithasol, neu
- ganolfan plant.
Gallwch ddod o hyd i’ch banc babi lleol gan:
- chwilio ar-lein
- gofyn i wasanaethau atgyfeirio
- defnyddio’r map rhyngweithiol ar Little VillageYn agor mewn ffenestr newydd
- defnyddio eich cod post ar NetmumsYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch Help os ydych mewn perygl sydyn o ddigartrefedd
Help os ydych mewn perygl sydyn o ddigartrefedd
Mae yna sawl sefydliad a all eich helpu, gan gynnwys eich cyngor lleol. Cysylltwch â nhw os gallwch fod mewn perygl o ddigartrefedd.
Cael help nawr
Os ydych yn cael eich bygythio gyda gorchymyn troi allan ac angen help argyfwng, cysylltwch â:
Cael cyngor o’ch Advicelocal agosaf
Gallwch hefyd gael cyngor diduedd ac am ddim o’ch Advicelocal agosaf i helpu gyda phroblemau gyda’ch:
- budd-daliadau
- treth cyngor
- tai
- cyflogaeth
- anabledd a gofal cymdeithasol, a
- lloches a mewnfudo.
Rhowch god post ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd a dewiswch bwnc cyngor i ddod o hyd i ddolenni at wybodaeth sydd wedi’i theilwra ar gyfer eich ardal chi.
Help os ydych mewn perthynas cam-drin domestig neu ariannol
Os nad ydych mewn perygl sydyn, mae yna lawer o sefydliadau a all rhoi help a chyngor i chi
Cael help a chyngor
- Dewch o hyd i restr o sefydliadau a all rhoi help a chyngor i chi yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel.
- Darganfyddwch sut i wahanu eich cyllid, parhau i wneud taliadau hanfodol ac agor cyfrifon newydd yn eich enw chi yn ein canllaw Cymryd rheolaeth yn ôl ar ôl cam-drin ariannol.
- Os ydych wedi methu taliadau a’n cael trafferth gyda dyledion o ganlyniad i gam-drin ariannol, dewch o hyd i’ch gwasanaeth dyled lleol gyda’n teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion.
Os ydych chi neu’ch plant mewn perygl sydyn deialwch 999 i ffonio’r heddlu
Os na allwch siarad, deialwch 999 ac yna 55
Darganfyddwch Grantiau a help arall
Grantiau a help arall
Cael mwy o arian gan elusennau lleol neu’ch undeb credyd lleol. Gallwch gael help gyda threuliau sy’n ymwneud â swydd a dod o hyd i gymorth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Elusennau a sefydliadau lleol
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusennau a sefydliadau lleol, na fydd angen i chi ei dalu’n ôl.
- Defnyddiwch declyn chwilio am grantiau ar Turn2USYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i elusennau a all helpu
- Cofrestrwch am Borth Lightning ReachYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i a gwneud cais am gymorth gan sawl ddarparwr.
- Os ydych yn gwsmer Anglian Water, gwiriwch a ydych yn gymwys i’w gwasanaeth Extra Care SupportYn agor mewn ffenestr newydd sy’n helpu gyda thariffau dŵr gostyngol a help arall.
Gwneud cais i’ch undeb gredyd lleol
Os oes angen i chi fenthyg arian yn gyflym, gallwch wneud cais i’ch undeb credyd lleol i ddarganfod pa fathau o fenthyciadau a chyfraddau llog sydd ar gael. Gall ein canllaw Benthyg gan undeb credyd eich helpu i ddarganfod sut mae’n gweithio a sut i ddod o hyd i un.
Cysylltwch â llinell gymorth Help through Hardship
Os ydych yn poeni am arian a’n cael trafferth i fforddio’r hanfodion, gallwch ffonio llinell gymorth Help through HarshipYn agor mewn ffenestr newydd. Mae’n wasanaeth ffôn am ddim sy’n cael ei chynnal gan Trussell Trust a Chyngor ar Bopeth.
Help gyda chostau wrth chwilio am swydd neu ddechrau gwaith
Os ydych yn chwilio am swydd a’n cael Credyd Cynhwysol, gofynnwch eich anogwr gwaith sut y gallant eich cefnogi. Gall y Gronfa Cymorth Ddewisol eich helpu i dalu am:
- ddillad gwaith
- costau teithio a thanwydd
- offer arbenigol, a
- chostau gofal plant.
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Gymorth Ddewisol ar Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
Help os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl
Gall problemau arian ddod yn llethol yn gyflym gan effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol eich helpu:
- i ddelio â dyled
- gyda beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan gredydwr
- i ddarganfod sut i reoli eich arian os ydych yn yr ysbyty
- i gael rhywun i’ch helpu i reoli eich arian
- i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallwch fod yn gymwys iddynt os oes gennych iechyd meddwl gwael
- i ddarganfod ble i gael help os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl.
Darganfyddwch Ble gallaf gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Ble gallaf gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim neu gymorth yn y llys
Advicelocal
Mae gan Advicelocal restr estynedig o ble i gael cyngor cyfreithiol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd gan asiantaeth cyngor annibynnol lleol a chenedlaethol. Mae’n cynnwys:
- budd-daliadau lles
- tai
- cyflogaeth
- Treth Cyngor
- lloches a mewnfudo.
Law Centres Network
Mae gan y Law Centres Network gyfeiriadur o ganolfannau cyfraithYn agor mewn ffenestr newydd lleol yn Lloegr ar gyfer pobl na all fforddio cyfreithiwr. Mae yna hefyd gyfeiriadur o wasanaethau cyngor cyfreithiol eraill os nad oes ganolfan cyfraith yn eich ardal.
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir