Mae undebau credyd yn fentrau cydweithredol cymunedol ar gyfer cynilion a benthyciadau, lle mae aelodau’n cronni eu cynilion i roi benthyg i’w gilydd a gallent helpu i redeg yr undeb credyd. Mae menter cydweithredol yn sefydliad sy’n eiddo i’r aelodau sy’n defnyddio ei wasanaethau ac yn cael eu rhedeg ganddynt. Mae pob undeb credyd yn cynnig cyfrifon cynilo a benthyciad tra gall rhai (undebau credyd mwy fel arfer) gynnig cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol.
Beth yw undebau credyd?
Mae undebau credyd yn sefydliadau cyllid cymunedol sy'n cael eu rhedeg gan ac ar gyfer eu haelodau.
Mae sawl prif nodwedd i undeb credyd:
- Mae rhaid i bobl sy’n cynilo neu’n benthyca trwy un gael bond cyffredin. Efallai eu bod yn byw yn yr un ardal, yn gweithio i’r un cyflogwr neu fod â'r un proffesiwn. Gallant hefyd fod yn aelodau o’r un eglwys neu undeb llafur.
- Maent yn cael eu rhedeg ar sail ‘nid er elw’. Yn lle talu elw i gyfranddalwyr, maent yn defnyddio’r arian maent yn ei wneud i wobrwyo eu haelodau a gwella eu gwasanaethau.
- Gallant fod yn fawr neu’n fach; mae gan rai filoedd o aelodau tra bod eraill yn llawer llai.
- Fel cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, diogelir eich arian o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) - hyd at £85,000, neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd.
Pam mynd i undeb credyd?
Mae undebau credyd yn gweithredu â thri phrif nod :
- darparu benthyciadau ar gyfraddau isel
- annog pob aelod i gynilo'n rheolaidd
- helpu aelodau sydd angen cyngor a chymorth ariannol.
Mae hefyd gap ar faint o log y gallant ei godi ar eu benthyciadau o 3% y mis neu 42.6% y flwyddyn APR. Y cap yng Ngogledd Iwerddon yw 1% y mis, neu 12.68% y flwyddyn APR .
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo undebau credyd
Benthyca trwy undeb credyd
Mae’r arian sydd gan yr undeb mewn cynilion a chyfrifon cyfredol yn cael ei fenthyca i aelodau eraill sydd angen benthyg arian ar gyfradd fforddiadwy.
Yn y DU, mae undebau credyd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus.
Benthyciadau
I gael benthyciad gan undeb credyd, efallai y bydd angen i chi fod yn aelod am gyfnod penodol o amser, neu eisoes wedi cronni rhywfaint o gynilion mewn cyfrif undeb credyd.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae cap ar faint o log y gall undebau credyd ei godi ar eu benthyciadau o 3% y mis neu 42.6% y flwyddyn APR. Y cap yng Ngogledd Iwerddon yw 1% y mis, neu 12.68% y flwyddyn APR.
Nid oes unrhyw daliadau cudd gyda benthyciadau undeb credyd a dim cosbau os ydych chi’n ad-dalu’r benthyciad yn gynnar .
Fel ag unrhyw fenthyciwr, bydd disgwyl i chi ad-dalu'ch benthyciad fel y cytunwyd.
Gall y rhan fwyaf o undebau credyd fenthyca am hyd at ddeng mlynedd ar y mwyaf ar fenthyciad heb ei warantu a hyd at 35 mlynedd ar fenthyciad wedi'i warantu (lle byddant yn benthyca yn erbyn rhywbeth fel eich eiddo neu gar). Ni fydd pob undeb credyd yn cynnig benthyciadau tymor hwy.
Gwnewch gais i’ch undeb credyd lleol i ddarganfod pa fath o fenthyciadau a chyfraddau llog sydd ar gael
Sut i fenthyca gan undeb credyd
Y cam cyntaf yw dod o hyd i undeb credyd y gallwch ymuno ag ef a dod yn aelod.
Gallwch ddod o hyd i undeb credyd yn eich ardal trwy ddefnyddio’r gwefannau canlynol:
Ym Mhrydain, Find Your Credit UnionYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, Irish League of Credit UnionsYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i ad-dalu’ch benthyciad
Gallwch dalu’ch benthyciad yn ôl mewn sawl ffordd wahanol, er efallai na fydd rhai undebau credyd yn cynnig pob dull. Gallwch wneud hyn:
- trwy wneud taliadau wyneb yn wyneb
- trwy Debyd Uniongyrchol o’ch cyfrif banc
- trwy eich cyflogau yn y gwaith - os oes gan eich cyflogwr gysylltiadau â’r undeb credyd, gallwch dalu'ch benthyciad yn ôl trwy gael arian wedi’i dynnu’n syth o’ch cyflog
- trwy Paypoint – mae rhai undebau credyd yn rhoi cardiau Paypoint y gallwch eu defnyddio i ad-dalu’ch benthyciad yn eich siopau lleol
- trwy daliadau uniongyrchol o’ch budd-daliadau – mae rhai undebau credyd yn cymryd taliadau budd-dal fel Budd-dal Plant yn uniongyrchol ac yn didynnu’ch ad-daliad misol o’ch benthyciad o’ch hawl.