Cyfrifiannell cynilo
Mae'n wych eich bod yn edrych i gynilo! Un peth am gynilo yw y gall fod yn anodd gwybod faint i'w gynilo neu faint o amser y bydd yn ei gymryd. Felly rydym wedi llunio ein cyfrifiannell cynilio i fynd i'r afael â'r ddwy broblem hynny.
Bydd yn eich helpu i:
- Weithio allan faint o amser y bydd yn ei gymryd i gynilo am rywbeth, os ydych yn gwybod faint y gallwch ei gynilo yn rheolaidd.
- Neu os ydych angen rhywbeth erbyn dyddiad penodol, gallwn ddweud wrthych faint rydych angen ei gynilo yn rheolaidd.
- Sut i gadw'ch cynilion ar y trywydd iawn trwy roi rhai awgrymiadau defnyddiol i chi.