Darganfyddwch sut i reoli’ch arian a meddwl am eich sefyllfa ariannol wrth fynd trwy ysgariad. Mae’r gyfrifiannell hefyd yn cynnwys manylion ble i gael help proffesiynol petai arnoch ei angen.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Defnyddio’r Gyfrifiannell ysgariad ac arian
Os ydych yn meddwl am gael ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil, gall ein cyfrifiannell roi syniad i chi o’ch sefyllfa ariannol cyn cytundeb ysgariad posibl. Bydd hefyd yn eich helpu i gyfrifo beth sydd gennych, beth sy’n ddyledus gennych a sut y gallwch rannu eich asedau ac arian.
Gwybodaeth bwysig am y Gyfrifiannell ysgariad ac arian
Beth rydych angen ei wybod i gwblhau’r Gyfrifiannell ysgariad ac arian:
- gwerth unrhyw eiddo ac asedau rydych yn berchen arnynt
- faint rydych angen ei dalu i glirio’ch morgais
- unrhyw ddyledion sydd gennych – er enghraifft cardiau credyd a benthyciadau.
- Mae’r daenlen hon yn unol ag Telerau ac Amodau HelpwrArian ac ni ddylai gymryd lle cyngor proffesiynol.
- Mae eich ymweliad yn anhysbys a’ch gwybodaeth yn gyfrinachol. Ni chesglir unrhyw fanylion personol gennym.
- Gallwch ddefnyddio ffigyrau manwl neu fras - ac nid oes rhaid i chi roi manylion eich partner. Os mai ffigyrau bras y byddwch yn eu rhoi, cewch ddarlun cyffredinol o’ch sefyllfa ariannol a’ch cytundeb ysgariad posibl.