Ydych chi ar fin cychwyn ar y daith ysgariad neu ddiddymiad, neu hanner ffordd trwy'r broses? Yna gall ein gwasanaeth apwyntiadau pwrpasol eich helpu gyda beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch pensiwn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gall y broses ysgaru/diddymu fod yn gymhleth, yn anodd yn emosiynol ac yn straen i bawb sy'n gysylltiedig. Gall fod yn arbennig o anodd os oes nifer o feysydd y mae anghydfod yn eu cylch, fel:
- gwarchodaeth plant
- ymrwymiadau ariannol presennol
- dosbarthiad eiddo ac asedau a rennir.
Gall cael arweiniad diduedd ac annibynnol gennym wneud y broses yn llawer haws i'w rheoli, yn emosiynol ac yn ymarferol.
Mae ein gwasanaeth yn rhoi cyfle i chi drafod eich sefyllfa gydag un o'n harbenigwyr pensiwn. Byddant yn eich helpu i'ch tywys trwy'ch opsiynau.
Beth fydd yr apwyntiad yn ei gwmpasu?
Bydd yr apwyntiad yn ymdrin ac yn esbonio’r:
- opsiynau pensiwn sydd ar gael i chi yn ystod ysgariad/diddymiad
- hyn y bydd angen i chi feddwl amdano a'r pethau y bydd angen i chi eu gofyn
- camau nesaf, gan gyfeirio at sefydliadau defnyddiol a sut i gael gafael ar gyngor ariannol rheoledig, pe bai ei angen arnoch.