Os ydych yn chwilio am waith, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael rhywfaint o gyngor neu hyfforddiant gyrfaoedd neu help â'ch CV neu gyfweliadau. Mae'r canllaw hwn yn amlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys mentrau'r llywodraeth i gael gwared ar rai o'r rhwystrau y mae ceiswyr gwaith anabl yn eu hwynebu.
Ble i gael cyngor gyrfaoedd
Os nad ydych yn siŵr pa fath o waith byddech yn ei hoffi neu eisiau darganfod mwy am yrfa benodol, siaradwch ag ymgynghorydd gyrfaoedd.
Cyngor gyrfaoedd gan eich ysgol neu awdurdod lleol
Os ydych yn 13-19 oed a bod gennych anhawster dysgu a/neu anabledd, mae rhaid i'ch ysgol gynnig cyngor gyrfaoedd wyneb yn wyneb i chi.
Mae hyn yn berthnasol p'un a oes gennych Ddatganiad o Anghenion Addysgol (SEN) ai peidio.
Cysylltwch â'ch ysgol a gofynnwch am gael siarad â'r cynghorydd gyrfaoedd.
Os ydych o dan 25 oed, dylai eich awdurdod lleol roi cyngor gyrfaoedd i chi os oes gennych Asesiad Anhawster Dysgu Adran 139A.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd i'ch helpu i wneud penderfyniadau am hyfforddiant a gwaith.
Os ydych yn 13-18 oed gallwch eu ffonio a gofyn am alwad yn ôl, ebostio cwestiwn iddynt neu ddefnyddio eu gwasanaeth gwesgwrs neu ystafell sgwrsio gymedroledig.
Darganfyddwch fwy o opsiynau i bobl ifanc gysylltu â hwy ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol
Os ydych yn 19 oed neu'n hŷn a bod gennych anabledd, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd, gallwch hefyd gael o leiaf tair sesiwn o gyngor wyneb yn wyneb.
Ffoniwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar Ffôn 0800 100 900 i wneud apwyntiad â chynghorydd lleol.
Os ydych chi dros 19 oed, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol
Siaradwch ag Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl
Gall Ymgynghorwyr Gwaith i’r Anabl eich cynghori ar chwilio am waith, hyfforddiant a sgiliau newydd, a chynlluniau'r llywodraeth.
Gallant hefyd ddweud wrthych am gyflogwyr sy'n gyfeillgar i anabledd yn eich ardal.
Gofynnwch i siarad ag Ymgynghorydd Gwaith i'r Anabl yn Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
Chwiliwch am gyflogwyr sy'n gyfeillgar o ran anabledd
Pan fyddwch yn edrych trwy hysbysebion swyddi ac yn llenwi ffurflenni cais, edrychwch am y symbol ‘dau dic’ sy’n golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl.
Os yw hysbyseb swydd yn arddangos y symbol, byddwch yn sicr o gael cyfweliad os ydych yn cwrdd â'r amodau sylfaenol ar gyfer y swydd.
Darganfyddwch fwy am y cynllun Dau Dic ar wefan GOV.UK
Help i wneud ceisiadau am swyddi
A ddylech sôn am eich anabledd wrth wneud cais am swydd?
Nid oes rhaid i chi sôn am eich anabledd pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, ond os penderfynwch beidio â gwneud hynny, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cwyn am wahaniaethu os nad oedd eich cyflogwr yn ymwybodol.
Mae'n syniad da cynllunio sut a phryd rydych yn mynd i ddweud wrth gyflogwr am eich anabledd.
Meddyliwch sut y gallwch drafod eich anabledd yn gadarnhaol a chanolbwyntio bob amser ar sut mae'ch sgiliau a'ch galluoedd yn gweddu i'r swydd.
Darganfyddwch fwy am sut mae'r gyfraith yn amddiffyn gweithwyr anabl ar wefan GOV.UK
Gwybodaeth ddefnyddiol am CVs a gwneud ceisiadau am swyddi
Darganfyddwch fwy am wneud ceisiadau am swyddi os ydych yn anabl ar wefan GOV.UK
Mwy am geisiadau a chyfweliadau ar wefan Disability Rights UK
Defnyddiwch yr adeiladwr CV ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol
Darganfyddwch fwy am sut mae cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol i recriwtio ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Rhaglen Gwaith ac Iechyd
Mae'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd yn gynllun gwirfoddol y gall pobl anabl ei ddefnyddio i ddychwelyd i'r gwaith. Mae'n cael ei redeg gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Gall y rhaglen eich helpu i ddod o hyd i swydd a magu hyder drwy:
- hyfforddiant
- hyfforddi cyfweliadau
- datblygu sgiliau.
Gofynnwch i Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl yn y Ganolfan Gwaith neu'ch anogwr gwaith am sut i wneud cais.
Darganfyddwch fwy am y Rhaglen Gwaith ac Iechyd ar wefan GOV.UK
Mynediad at Waith
Os oes angen cefnogaeth arnoch i fynychu cyfweliad, fel cyfieithydd ar y pryd, neu bris tacsi i gyrraedd yno, efallai y gallwch gael grant Mynediad at Waith ar gyfer hyn.
Gallwch hefyd wneud cais i Fynediad at Waith i gefnogi cyflwr iechyd meddwl.
Gofynnwch i Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl yn y Ganolfan Gwaith neu'ch anogwr gwaith am sut i wneud cais.
Darganfyddwch fwy am Fynediad at Waith ar wefan GOV.UK
Pan gewch swydd, gall Mynediad at Waith hefyd ddarparu arian i chi dalu am bethau fel offer a gwasanaethau arbenigol i'ch helpu i aros yn y gwaith.
Darllenwch ein canllaw Cefnogaeth i roi cymorth i chi gadw’ch swydd pan fyddwch yn sâl neu’n anabl
Hyfforddiant
Os ydych am wella'ch sgiliau presennol neu ddatblygu rhai newydd, gofynnwch i'ch Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl yn y Ganolfan Gwaith am gyfleoedd hyfforddi.
Efallai y gallwch gofrestru ar:
- Cynllun prentisiaeth – lle gallwch gael cymhwyster ochr yn ochr â phrofiad ymarferol a hyfforddiant yn y gwaith.
- Cwrs hyfforddi preswyl wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddod o hyd i waith os ydych yn anabl ac wedi bod yn ddi-waith am amser hir.