Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl

Mae grant yn rhodd ariannol nad oes rhaid i chi ei ad-dalu. Mae llawer o elusennau ac ymddiriedolaethau yn y DU yn darparu grantiau i helpu lleihau costau ychwanegol iechyd gwael ac anabledd. Dysgwch ba grantiau sydd ar gael a sut i wneud cais. 

Pryd i wneud cais am grant anabledd

Bydd y rhan fwyaf o elusennau yn disgwyl eich bod wedi gwneud cais am holl fudd-daliadau’r wladwriaeth, cymorth gan yr awdurdod lleol, a chymorth arall mae gennych hawl iddynt cyn mynd atynt i gael grant.

Felly sicrhewch eich bod wedi gwirio eich hawliau. Darllenwch ein canllawiau isod neu siarad ag ymgynghorydd budd-daliadau neu anabledd i wneud yn siŵr. 

Chwilio am grant anabledd

Defnyddiwch yr offeryn Chwilio am Grant gan Turn2Us

Mae gan wefan Turn2us offeryn Chwilio am Grantiau am ddim sy’n gadael ichi chwilio am grantiau yn seiliedig ar eich amgylchiadau a’ch anghenion.

Nodwch eich cod post, eich oedran a’ch rhyw i gael rhestr lawn. Yna gallwch gyfyngu eich canlyniadau i’ch cyflwr meddygol neu anabledd.

Defnyddiwch yr offeryn Chwilio am Grant ar wefan Turn2us

Chwilio am grant anabledd yn ôl categori

Mae gwefan Grantiau Anabledd yn rhestru’r grantiau sydd ar gael yn ôl categori. Mae hyn yn golygu gallwch chwilio am grantiau mewn cyfarpar, tai, neu wyliau, er enghraifft.

Darganfyddwch fwy ar wefan Grantiau Anabledd

Chwiliwch am grantiau os ydych ar incwm isel

Mae MoneySavingExpert wedi creu rhestr o grantiau, rhai ohonynt wedi eu hanelu at oedolion a phlant anabl.

Darganfyddwch fwy am ‘gael gafael ar grantiau’ ar wefan MoneySavingExpert

Gwneud cais am grant anabledd

Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r grantiau rydych am wneud cais amdanynt, cysylltwch â’r cyrff dyfarnu a llenwi’r ffurflenni cais.

Darllenwch y telerau ac amodau i sicrhau eich bod yn deall yn llawn a ydych yn gymwys cyn i chi wneud cais.

Efallai y bydd angen ichi ddarparu adroddiad gan weithiwr proffesiynol, fel therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol, neu gynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch eich cyllid.

Os ydych angen help gyda’r gwaith papur, efallai y gallai sefydliad eirioli fel yr Older People’s Advocacy Alliance helpu.

Darganfyddwch fwy ar wefan yr Older People’s Advocacy Alliance

Darllenwch awgrymiadau ar wneud cais am grant ar wefan Scope

Grantiau eraill a allai fod ar gael

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, gallai fod yn werth chweil i edrych am grantiau nad ydynt ar gyfer pobl anabl yn benodol.

Er enghraifft, gallech chwilio am grantiau ar gyfer pobl ar incwm isel neu ar gyfer pobl sy’n byw yn eich ardal.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.