Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?

Os na allwch weithio neu’n gweithio oriau gostyngol oherwydd salwch neu anabledd - mae cymorth ariannol ar gael. Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP), a delir gan eich cyflogwr. Os yw hyn wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gallu ei hawlio, efallai gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. 

Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?

Tâl Salwch Statudol

Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol o £109.40 yr wythnos (2023-24) am hyd at 28 wythnos os:

  • rydych yn gyflogedig ond ddim yn gallu gweithio.
  • roedd eich enillion cyfartalog am y ddau fis cyn i chi roi’r gorau i weithio o leiaf £123 yr wythnos.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd

Os yw’ch Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gymwys ar ei gyfer, (er enghraifft, oherwydd eich bod yn hunangyflogedig) efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd (ESA).

Telir hyn os na allwch weithio neu ond yn gallu gweithio ychydig o oriau yn unig oherwydd salwch neu anabledd. I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am y dwy i dair blynedd diwethaf.

Credyd Cynhwysol

Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr â Thâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Efallai y byddwch yn cael mwy o arian os ydych yn gwneud cais am y ddau, yn enwedig os ydych yn talu rhent neu os oes gennych blant i’w cynnal.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a chredydau treth. Ni allwch bellach wneud cais newydd amdanynt .

Os ydych eisoes yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn ac angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd salwch neu anabledd, bydd y budd-daliadau hyn yn dod i ben a bydd unrhyw gefnogaeth rydych ei angen am gostau ychwanegol, fel tai neu fagu plant yn cael ei dalu fel rhan o Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a budd-daliadau anabledd eraill

Telir Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os cewch anhawster wrth gwblhau tasgau dyddiol neu symud o gwmpas.

Nid yw’n destun prawf modd, sy'n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych chi.

Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid eich bod:

  • rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth
  • wedi cael yr anawsterau hyn am dri mis ac yn disgwyl iddynt barhau am o leiaf naw mis arall (oni bai bod gennych gyflwr terfynol).

Mae PIP yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion. Os ydych yn gwneud cais newydd fe ofynnir i chi wneud cais am PIP. Yn Yr Alban mae PIP wedi cael ei disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP).

Os ydych eisoes yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP pan ddaw'r amser i symud i ADP. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Faint yw PIP ac ADP?

Gallech gael rhwng £26.90 a £172.75 yr wythnos (2023-24), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnoch chi. 

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

Dim ond ar gyfer plant o dan 16 oed y gallwch wneud cais newydd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA).

Nid yw’n destun prawf modd sy’n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych. 

Faint yw DLA?

Gallai’ch plentyn gael rhwng £26.90 a £172.75 yr wythnos (2023/24), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnynt.

Lwfans Gweini

Gallech fod yn gymwys am Lwfans Gweini os:

  • rydych angen cymorth gyda gofal personol
  • rydych angen goruchwyliaeth i’ch cadw’n ddiogel
  • rydych yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac nad ydych wedi hawlio DLA/PIP yn flaenorol.

Cymorth gyda chostau tai

Os ydych yn rhentu

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn methu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai mwyach a bydd rhaid iddynt hawlio elfen costau tai Credyd Cynhwysol yn lle hynny. 

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu os ydych yn cael y premiwm anabledd difrifol, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai. 

Os ydych yn berchennog cartref

Efallai y gallech gael help tuag at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Telir SMI yn uniongyrchol i’r darparwr benthyciadau 13 wythnos wedi i chi wneud cais am y tro cyntaf am y budd-dal hwn. Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn gallwch fod yn gymwys am SMI yn syth. 

Mae’n cael ei dalu fel benthyciad. Bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl un ai pan werthwch eich tŷ, neu’n wirfoddol pan fyddwch yn gallu - er enghraifft, pan ddychwelwch i’r gwaith. 

Help gyda’r Dreth Cyngor

Os ydych ar incwm isel neu mae rhywun sy’n byw gyda chi’n anabl, efallai y gallech gael cymorth gyda thaliadau Treth Cyngor neu Ardrethi.

Os oes angen eiddo mwy o faint neu un sydd wedi'i addasu arnoch oherwydd anabledd sydd gennych chi neu rywun rydych yn byw gyda nhw, efallai y bydd gennych hawl i dalu llai o Dreth Cyngor neu Ardrethi. Yng Nghymru,  Lloegr, a’r Alban, efallai y gallwch dalu Treth Cyngor am fand is na'r eiddo rydych yn byw ynddo. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn eiddo Band B oherwydd bod angen y lle arnoch i fynd o gwmpas yn eich cadair olwyn, efallai bydd dim ond angen i chi dalu Treth Cyngor Band A.

Yng Ngogledd Iwerddon gallwch gael gostyngiad o 25% ar eich Ardrethi os yw'ch cartref wedi'i addasu i gwrdd ag anghenion person sy’n anabl.

Gall pobl â namau meddyliol difrifol gael eu heithrio rhag talu Treth Cyngor. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun gyda rhywun sydd wedi'i eithrio rhag talu Treth Cyngor yna byddwch yn gallu hawlio gostyngiad person sengl ar eich Treth Cyngor yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae gan bob cyngor lleol ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei hun, felly mae’r help a gewch yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Cymru a Lloegr

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i fwy am ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Yr Alban

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddod o hyd i fwy am ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Gogledd Iwerddon

Bydd angen i chi wneud cais am Rhyddhad Ardrethi yn lle.

Budd-daliadau eraill y gallwch fod â hawl iddynt

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Os achoswyd eich anabledd neu’ch salwch yn y gwaith, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i gyflogwr neu’n cymryd rhan mewn hyfforddiant cymeradwy. Ni fyddwch yn gallu gwneud cais amdano os oeddech yn hunangyflogedig.

Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae eich cyflwr yn effeithio arnoch.

Nid yw’n destun prawf modd felly fe allech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych. 

Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn gallu gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gallu ychwanegu ato gyda Chredyd Pensiwn.

Fodd bynnag, os ydych mewn cwpl a dim ond un ohonoch sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle Credyd Pensiwn nes i'r ddau ohonoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes gennych incwm neu gynilion

Nid yw budd-daliadau sy’n eich helpu gyda’r gofal ychwanegol o fod yn sâl neu’n anabl yn destun prawf modd.  Mae’r rhain yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Gweini. Mae hyn yn golygu na chânt eu heffeithio gan eich incwm a chynilion.

Mae budd-daliadau eraill fel Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn yn cael eu heffeithio gan eich incwm a chynilion – a rhai eich partner neu briod hefyd. 

Hyd yn oed os oes gennych incwm a/neu gynilion, mae’n werth gwirio’r budd-daliadau i weld beth allech fod â hawl iddo.

Budd-daliadau i ofalwyr

Os bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn gofalu amdanoch mae cymorth ar gael iddo ef neu hi. 

Cymorth gyda symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas

Cynllun Motability

Ar gyfer pwy mae e?

Pobl sy’n cael elfen symudedd gyfradd uwch o Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol. Gall y cynllun ddarparu car, cadair olwyn fodur neu sgwter. 

Mwy o wybodaeth

Sut i wneud cais

Ffoniwch Motability ar 0300 456 4566

Y Cynllun Bathodyn Glas

Ar gyfer pwy mae e?

Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn helpu’r rhai sydd ag anawsterau symudedd difrifol, sydd yn ei chael hi’n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barcio’n agos i’w cyrchfan. Mae taliadau a rheolau hawl ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yn amrywio ledled y DU.

Sut i wneud cais

Cymorth a chyngor am fudd-daliadau salwch ac anabledd

Mae llawer iawn o help am ddim ar gael os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael neu os ydych angen help i wneud cais.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau rhaid i chi egluro eich cyflwr. Fel arall, efallai na fyddwch yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo. 

Penodi rhywun i ymdrin â’ch cais budd-dal salwch ac anabledd ar eich rhan

Os na allwch reoli eich budd-daliadau eich hun, gall unigolyn neu sefydliad wneud hyn ar eich rhan.

Yr enw a roddir ar hyn yw penodai. Maent yn dod yn gyfrifol am ddelio â’ch budd-daliadau o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os oes gennych anabledd dysgu gallwch ofyn i ‘Dosh Financial Advocacy’ am gymorth gyda’ch budd-daliadau fel eich eiriolwr a phenodai.

Mae’n sefydliad di-elw, a hefyd yn cynnig cyfres o ffeithlenni ar gyfer gofalwyr teuluol ar reoli arian. 

Help gyda chostau iechyd GIG

Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, waeth beth yw’ch oed ac amgylchiadau.

Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael rhai budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau iechyd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • costau deintyddol
  • cost gofal llygaid
  • presgripsiynau’r GIG
  • cael cymorth gyda chostau teithio i apwyntiadau ysbyty.

Os ydych yn poeni am dalu am ffioedd meddygol fel presgripsiynau, deintydd, optegydd – mae help wrth law, os ydych yn gwybod ble i chwilio.

Gwiriwch os gallwch gael help am ddim gan ddefnyddio’r cyfrifiannell GIGYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych ar incwm isel, dylech hefyd wirio os ydych yn gymwys am help gyda’ch costauYn agor mewn ffenestr newydd

Hyd yn oed os nad ydych ar incwm isel gallwch leihau eich costau gyda chynlluniau fel y prescription “season ticket”Yn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch am gael help gyda chostau deintyddolYn agor mewn ffenestr newydd a ffioedd optegyddYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd siarad â’ch fferyllydd am help – efallai y gallent eich cyfeirio at help tymor byr neu efallai byddent yn ymwybodol o help sydd ar gael yn lleol. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.