Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol ac yn cael trafferth talu’ch morgais, efallai y gallech gael help gan y llywodraeth i dalu’r llog arno. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI).
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)?
- A allaf gael SMI?
- Yr hyn a gewch
- Am ba hyd gallwch gael SMI?
- Os ydych am symud cartref
- Trosglwyddo benthyciad SMI
- Sut mae llog yn cael ei godi ar eich benthyciad SMI?
- Ad-dalu benthyciad SMI
- Beth sy’n digwydd os nad oes ddigon o ecwiti yn fy nghartref i ad-dalu’r benthyciad?
- Yn lle cael benthyciad SMI a all fy menthyciwr morgais fy helpu?
- Defnyddio’ch cynilion i ad-dalu benthyciad SMI
- Gofyn i deulu neu ffrindiau am help i ad-dalu’r benthyciad SMI
- Gofyn i undeb credyd, banc neu gymdeithas adeiladu am fenthyciad
- Symud i eiddo arall
- A ddylwn gael benthyciad SMI?
- Sut i wneud cais am SMI
Beth yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)?
Pwysig
Byddwch yn gallu parhau i hawlio SMI am gyfnod byr os bydd angen i chi gael rhywun i wneud penderfyniadau ariannol ar eich rhan. Er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Bydd Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) yn cael ei dalu fel benthyciad. Bydd angen ei ad-dalu pan fyddwch farw, yn gwerthu eich cartref neu’n trosglwyddo perchnogaeth o eiddo.
A allaf gael SMI?
I gael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais, mae rhaid i chi fod yn ddi-waith neu wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ac yn cael:
- Credyd Cynhwysol
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ag Incwm, neu
- Gredyd Pensiwn.
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, mae cyfnod aros o dri chyfnod asesu (tua thri mis) cyn y gallwch gael eich taliad SMI cyntaf.
Os ydych ar fudd-dal oedran gweithio arall mae cyfnod aros o dri mis o’r amser rydych yn gwneud cais am SMI tan eich taliad cyntaf.
Os ydych ar Gredyd Pensiwn, gallwch gael cymorth yn syth.
Gall eich cais SMI gael ei ôl-ddyddio hyd at y dyddiad daethoch yn gymwys amdano, felly mae’n werth gwneud gwiriad budd-daliadau neu geisio cyngor budd-daliadau arbenigol os nad ydych yn sicr.
Yr hyn a gewch
Beth allai effeithio faint o SMI rwyf yn ei gael?
Os oes gennych oedolion yn byw gyda chi sydd ddim yn talu rhent, gallai leihau maint y gall eich benthyciad SMI fod. Nid yw hyn yn cynnwys eich partner ond gall gynnwys plant sydd wedi tyfu i fyny.
I gyfrifo faint o SMI y gallech fod â hawl iddo os ydych yn byw gydag unrhyw oedolion eraill, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau am ddim
Ffeithiau allweddol am y benthyciad SMI
- Nid oes angen talu ffi i sefydlu’r benthyciad.
- Nid oes rhaid i chi gael gwiriad credyd i gael y benthyciad ac ni fydd ei gymryd fel arfer yn effeithio ar eich cyfraddau credyd.
- Yn wahanol i fenthyciad arferol, nid oes rhaid i chi wneud taliadau rheolaidd - oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.
- Ychwanegir llog at y cyfanswm sy’n ddyledus gennych, hyd nes y telir y benthyciad yn ôl neu caiff ei glirio.
- Ni chewch fenthyciad fel mater o drefn - mae rhaid i chi ddewis cymryd un.
- Mae’r taliad SMI fel arfer yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’ch benthyciwr morgais.
- Mae’r benthyciad wedi’i warantu yn erbyn eich cartref. Pan werthwch eich cartref neu drosglwyddo perchnogaeth y cartref i rywun arall, mae rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad allan o unrhyw ecwiti sy’n weddill unwaith yr ad-delir eich morgais.
SMI ar gyfer gwelliannau cartref
Gallwch hefyd gael SMI i helpu i dalu llog ar fenthyciad rydych wedi’i gymryd i gwmpasu:
- Atgyweiriadau neu welliannau hanfodol i’ch cartref. Er enghraifft insiwleiddio, atgyweirio diffygion peryglus neu addasu’ch cartref os oes rhywun yn eich cartref yn sâl neu’n anabl.
- Prynu cyfran eich cyn bartner yn eich cartref os ydych wedi gwahanu.
Am ba hyd gallwch gael SMI?
Nid oes cyfyngiad ar am ba hyd gallwch hawlio SMI.
Os ydych am symud cartref
Os ydych yn gwerthu’ch cartref neu’n trosglwyddo perchenogaeth, bydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad gyda llog.
Fodd bynnag, mae’n bosib trosglwyddo benthyciad SMI i eiddo gwahanol heb orfod ei ad-dalu os ydych yn gwerthu’r cartref yr ydych yn byw ynddo ac yn prynu a symud i eiddo arall.
Er mwyn trosglwyddo’r SMI i’r eiddo newydd, mae’n rhaid cwrdd â’r meini prawf canlynol:
- rhaid i chi hysbysu DWP eich bod yn gwerthu a gwneud cais i drosglwyddo’r SMI
- rhaid i’r trawsgludwr neu’r cyfreithiwr rhoi ymgymeriad ysgrifenedig
Gallwch hefyd ychwanegu’r costau cyfreithiol sy’n ymwneud â throsglwyddo’ch cais i eiddo newydd i werth eich benthyciad SMI.
Trosglwyddo benthyciad SMI
Os ydych yn cael benthyciad SMI a bod eisiau symud tŷ arnoch, neu fod perchnogaeth eich eiddo’n cael ei drosglwyddo, bydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad SMI â llog.
Fodd bynnag os nad ydych am wneud hwn fedrwch drosglwyddo eich benthyciad SMI i eiddo arall.
Darganfyddwch fwy am beth sydd ynghlwm ar wefan ShelterOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd
Sut mae llog yn cael ei godi ar eich benthyciad SMI?
Gan fod yr help yr ydych wedi’i dderbyn nawr yn fenthyciad, bydd rhaid i chi dalu llog arno. Po hiraf y cewch help, y mwyaf o log a godir arnoch. Mae hyn yn cael ei gyfrifo’n ddyddiol a gall newid. Fodd bynnag, ni all newid fwy na dwywaith mewn unrhyw flwyddyn.
Mae’r gyfradd llog yn 3.03% ar hyn o bryd (o 01 Ionawr 2023)
Ad-dalu benthyciad SMI
Ychwanegir llog at eich benthyciad SMI bob mis a all godi neu ostwng.
Y llog a godir yw ‘cyfansawdd’. Mae hyn yn golygu y bydd llog pob mis yn cael ei gynnwys yng nghyfanswm y ‘balans’ i gyfrifo llog y mis nesaf.
Gallwch ddewis ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg. Er enghraifft, os byddwch yn dod o hyd i waith â thâl ac yn gallu fforddio ad-dalu. Fel rheol, yr isafswm y gallwch ei ad-dalu bob tro yw £100.
Fel arfer bydd angen ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch farw, yn gwerthu eich cartref neu’n trosglwyddo perchnogaeth.
Bydd rhaid i chi hefyd ad-dalu’r benthyciad os ydych yn symud tŷ ac yn methu trosglwyddo’r benthyciad i’r eiddo newydd.
Os byddwch farw a’ch tŷ yn trosglwyddo i’ch priod neu bartner sifil, gellir ad-dalu’r benthyciad yn hytrach pan fydd ef neu hi’n marw.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cymryd yn ôl swm y benthyciad sydd arnoch o’r arian yn eich ystad o werthiant eich cartref.
Beth sy’n digwydd os nad oes ddigon o ecwiti yn fy nghartref i ad-dalu’r benthyciad?
Pan werthir eich cartref, os nad oes digon o arian yn weddill ar ôl ad-dalu’ch morgais (ecwiti) i dalu’r benthyciad SMI yn ôl, bydd y swm sy’n weddill yn cael ei glirio. A bydd y DWP yn ystyried y benthyciad fel un a dalwyd yn ôl yn llwyr.
Yn lle cael benthyciad SMI a all fy menthyciwr morgais fy helpu?
Os ydych yn cael problemau â gwneud eich ad-daliadau morgais, dylech gysylltu â’ch benthyciwr i ddarganfod pa gymorth y gallant ei gynnig. Gallai hyn gynnwys ‘gwyliau’ talu byr neu ohirio i’ch helpu chi i ddod dros argyfwng dros dro neu estyniad o dymor eich morgais.
Gallech hefyd edrych i mewn i opsiynau sydd gennych i newid morgeisi i gael cyfradd llog well.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Gwyliau talu morgais
Sut mae ailforgeisio yn gweithio?
Ôl-ddyledion morgais neu broblemau wrth dalu’ch morgais
Defnyddio’ch cynilion i ad-dalu benthyciad SMI
Bydd faint o gynilion sydd gennych yn effeithio’r budd-daliadau a gewch i fod yn gymwys am SMI. Felly, mae rhaid bod gennych lai nag £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau – neu £10,000 os ydych yn cael Credyd Pensiwn.
Oes gennych rhwng £6,000 ac £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau? Neu rhwng £6,000 a £10,000 os ydych yn cael Credyd Pensiwn)? Yna gallai faint o fudd-dal a gewch nawr gael ei leihau.
Os defnyddiwch unrhyw gynilion i glirio’ch benthyciad SMI, gallai’r swm a gewch mewn budd-daliadau gynyddu – os bydd eich cynilion yn lleihau dan £6,000.
Gofyn i deulu neu ffrindiau am help i ad-dalu’r benthyciad SMI
Os oes gennych deulu neu ffrindiau sydd â’u hincwm eu hunain, efallai y gallwch ofyn iddynt i fenthyca’r arian i chi er mwyn ad-dalu’r benthyciad SMI.
Gallai hynny fod yn ddewis doeth os na fydd yr unigolyn sy’n benthyca’r arian i chi yn codi unrhyw log arnoch.
Ond dylech ystyried yn ofalus cyn i chi fenthyca arian gan deulu neu ffrindiau. A byddwch yn siwr y gallwch ad-dalu’r hyn a wnaethoch ei fenthyg o fewn cyfnod o amser a gytunwyd arno. Os na allwch wneud hynny, gallai effeithio ar y berthynas sydd gennych â’r unigolyn hwnnw neu honno.
Gofyn i undeb credyd, banc neu gymdeithas adeiladu am fenthyciad
Gallech ofyn i undeb credyd, banc neu gymdeithas adeiladu am fenthyciad. Gallech wedyn ei ddefnyddio i ad-dalu’ch benthyciad SMI.
Ni fydd benthyciad gan undeb credyd, banc neu gymdeithas adeiladu wedi ei warantu yn erbyn eich cartref. Felly nid ydych mewn perygl o golli’ch cartref os na allwch dalu’r ad-daliadau’n brydlon.
Cofiwch hefyd y byddai rhaid i chi gael gwiriad credyd. A bod benthyciad gan undeb credyd, banc neu gymdeithas adeiladu yn debygol o fod â chyfradd uwch o log na’r benthyciad SMI.
Symud i eiddo arall
Gallech werthu’ch cartref a symud i dŷ rhatach. Byddai hyn yn golygu y gallech gael morgais llai – neu efallai ni fydd angen morgais arnoch o gwbl.
Cofiwch ystyried y costau eraill o symud tŷ, fel Treth Stamp, ffioedd cyfrieithiol a chostau symud.
A ddylwn gael benthyciad SMI?
Cyn i chi benderfynu ai benthyciad SMI yw’r dewis gorau i chi a’ch teulu, byddai’n syniad da cael cyngor.
Gallwch gael cyngor ar dai gan y sefydliadau hyn hefyd:
- Cyngor ar Bopeth
- Shelter
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, Housing Advice NI
Sut i wneud cais am SMI
Darganfyddwch fwy am wneud cais newydd am SMI ar wefan GOV.UK