Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu CThEM am eich budd-daliadau neu gredydau treth, mae’n bwysig dilyn y drefn gywir. Dyma grynodeb o’r hyn sydd angen i chi ei wneud a phryd. 

Gofyn am ailystyriaeth orfodol

Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad am fudd-daliadau gan DWP neu CThEM gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto.

Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun arall yn edrych ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid.

Mae rhaid i chi fynd trwy’r cam hwn cyn y gallwch apelio.

Fel arfer, mae rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad sydd ar eich llythyr penderfyniad. Neu’r neges yn eich cyfrif ar-lein os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os byddwch yn colli’r terfyn amser, nid oes rhaid i’r adran sy’n gwneud y penderfyniad dderbyn eich cais am ailystyriaeth orfodol oni bai bod gennych reswm da iawn. Er enghraifft roeddech yn yr ysbyty, neu fod perthynas agos wedi marw.

Sut i ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol

Gallwch ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol trwy:

  • ffonio, gan ddefnyddio’r rhif sydd ar y llythyr penderfyniad
  • ysgrifennu llythyr
  • cwblhau’r ffurflen CRMR1
  • ysgrifennu neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Eglurwch pam rydych yn credu bod eu penderfyniad yn anghywir. Ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych os credwch y bydd hynny’n helpu’ch achos.

Sut i ofyn i CThEM am ailystyriaeth orfodol

Rydych yn gofyn i CThEM am ailystyriaeth orfodol trwy:

  • ffonio, gan ddefnyddio’r rhif ar y llythyr penderfyniad
  • ysgrifennu llythyr
  • llenwi ffurflen CH24A ar gyfer penderfyniad Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad
  • llenwi ffurflen WTC / AP (neu ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein) – ar gyfer penderfyniad credydau treth.

Pan fydd y penderfyniad wedi cael ei ailystyried

Pan fydd DWP neu CThEM wedi edrych ar eich penderfyniad eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen atoch a elwir yn hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.

Sut i apelio

Gallwch ddim ond apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal pan fyddwch wedi cael yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol.

Mae rhaid i chi apelio o fewn mis i’r dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol. 

Apelio yn erbyn penderfyniad DWP

I apelio mae rhaid i chi anfon y canlynol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen):

  • copi o’r hysbysiad ailystyriaeth orfodol
  • ffurflen SSCI  - lawrlwythwch hi o wefan GOV.UK 

Ceisiwch gymorth a chyngor arbenigol

Os ydych am barhau ag apêl, mae’n syniad da cael ychydig o gymorth arbenigol, er enghraifft,  gan Gyngor ar Bopeth neu eich Canolfan Gyfreithiol leol. 

Sut i herio penderfyniad gan eich awdurdod lleol

A ydych am herio penderfyniad gan eich cyngor ynghylch eich Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Gyngor? Bydd rhaid i chi gysylltu â’ch cyngor i gwestiynu ei benderfyniad a dilyn ei weithdrefn apelio. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.