Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sgamiau Credyd Cynhwysol

Mae pobl yn cael eu targedu gan sgamwyr sy'n cynnig benthyciadau a grantiau'r llywodraeth sy'n gysylltiedig â hawliadau Credyd Cynhwysol. Os byddwch yn dioddef, bydd angen ad-dalu'r arian hwn. Darganfyddwch sut y gallech gael eich targedu, sut i osgoi sgam a beth gallwch ei wneud os oes angen help arnoch i wneud cais am grant neu fenthyciad gan y llywodraeth.

Beth yw sgam Credyd Cynhwysol?

Y brif ffordd y gall sgam Credyd Cynhwysol ddigwydd yw os bydd rhywun yn cynnig gwneud cais am Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol ar eich rhan ac yn cymryd peth o’r arian hwnnw fel ffi.

Yn aml byddant yn eich temtio drwy awgrymu mai arian am ddim ydyw gan y llywodraeth.

Gall Taliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol fod hyd at fis llawn o daliad Credyd Cynhwysol, gyda thwyllwyr yn cymryd cyfran helaeth ohono  am eu gwasanaethau – 40% neu ragor.

Sut gallai twyllwr Credyd Cynhwysol gysylltu â chi?

Mae nifer o ffyrdd y gallai twyllwr Credyd Cynhwysol gysylltu â chi.

Mae rhai pobl wedi rhoi gwybod am rywun yn dod atynt wedi gwisgo’n drwsiadus ac yn honni eu bod yn gweithio i’r Ganolfan Byd Gwaith.

Mae eraill wedi cael cyswllt ar-lein drwy grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon uniongyrchol a hysbysebion.

Mae pobl wedi cael cyswllt ar-lein hefyd gan bobl sy’n honni bod ganddynt ffrind sy’n gweithio mewn Canolfan Gwaith a fydd yn medru prosesu neu gymeradwyo’r cais ar eich rhan.

Mae gan rai o’r cwmnïau hyn broffiliau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau proffesiynol yr olwg, gyda geirdaon a logos y llywodraeth.

Pam na ddylech adael i rywun gwneud cais ar eich rhan?

Nid oes angen talu rhywun i wneud cais am daliad ymlaen llaw ar eich rhan. A bydd dwy broblem ddifrifol eraill yn codi os gadewch i rywun wneud hynny.

Yn gyntaf, bydd rhaid i chi ad-dalu’r holl daliad ymlaen llaw i’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys yr arian y cododd y twyllwr arnoch fel ffi.

Daw hwn allan o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i’r dyfodol, a allai olygu y byddwch yn brin o arian.

Yn ogystal, os bydd angen taliad ymlaen llaw arnoch, wrth dalu rhywun i wneud cais ar eich rhan, byddwch yn colli rhan o’r arian y gallech ei gael.

Gall hefyd greu problemau difrifol os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol eto a gallech fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth na’r disgwyl.

Sut i osgoi sgam Credyd Cynhwysol

Gallwch ond cael taliad ymlaen llaw os ydych yn disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, felly gallai’r modd y cewch eich targedu fod ychydig yn wahanol.

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn barod ond yn dal i ddisgwyl am eich taliad cyntaf, bydd twyllwyr yn gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar eich rhan a chymryd peth o’r arian fel ffi.

Byddant yn gofyn i chi am eich manylion mewngofnodi Credyd Cynhwysol ac yn honni bod ganddynt allu i gael rhyw fath o fynediad at wybodaeth fewnol, fel ffrind yn gweithio yn y Ganolfan Byd Gwaith a all gymeradwyo’r taliadau hyn yn gyflym.

Os ydych yn cael budd-daliadau’n barod

Os ydych yn cael budd-daliadau’n barod, ond nid Credyd Cynhwysol, bydd twyllwyr yn gyntaf yn cynnig gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar eich rhan. Neu efallai byddent yn honni y gallant wneud cais am fenthyciad neu grant, ond mewn gwirionedd yn cyflwyno cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant.

Os rhowch ganiatâd i rywun wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar eich rhan, bydd y budd-daliadau hyn yn dod i ben ac, yn ddibynnol ar eich sefyllfa, gallech fod hyd yn oed yn fwy ar eich colled nag rydych nawr oherwydd y modd y cyfrifir taliadau Credyd Cynhwysol.

I wneud hyn, bydd twyllwyr yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn iddynt fedru gwneud cais ar-lein. Er enghraifft, gallent ofyn am dystiolaeth o bwy ydych, manylion cyfrif banc a rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn hawlio unrhyw fudd-daliadau ar hyn o bryd

Ni all rai pobl hawlio Credyd Cynhwysol.Er enghraifft  myfyrwyr, neu bobl sy’n cael y Premiwm Anabledd Difrifol o’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a phobl sydd â mwy na £16,000 mewn cynilion.

Fodd bynnag, mae’r bobl hyn hefyd yn cael eu targedu gan dwyllwyr Credyd Cynhwysol.

Mae twyllwyr yn debygol o wneud i hyn ymddangos fel arian am ddim ac y bydd angen cyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol ar eich rhan ac efallai na fyddwch yn gymwys i’w gael.

Os bydd angen i chi gyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith os bydd angen i chi wneud cais am daliad ymlaen llaw tra y byddwch yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a byddant yn dweud wrthych sut i wneud hynny.

Gofynnir i chi hefyd i ddod mewn i’ch canolfan gwaith leol gyda thystiolaeth o bwy ydych cyn gwneir y taliad i chi.

Cael y cymorth cywir i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Daliad Ymlaen Llaw

Os bydd angen help arnoch i ymgeisio am Gredyd Cynhwysol, neu Daliad Ymlaen Llaw, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth.

Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol, a gallwch gael help yn eich ardal leol. Mae ar gael i bawb ac mae'n ddefnyddiol os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Beth i’w wneud os ydych wedi cael eich targedu gan sgam Credyd Cynhwysol

Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os na chawsoch eich twyllo, gallwch roi gwybod am hyn i Action Fraud ar 0300 123 2040. Neu rhowch wybod amdano ar Action Fraud

Dylech hefyd roi gwybod i’ch Canolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl.

Os cawsoch eich targedu neu eich twyllo ar ôl i rywun gysylltu â chi ar-lein, dylech ddefnyddio’r offeryn rhoi gwybod ar Twitter, Facebook, Instagram neu Snapchat. Wrth roi gwybod iddynt, gallech atal rhywun arall rhag cael ei sgamio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.