Os ydych yn cael budd-daliadau ac mae rhywbeth yn eich bywyd yn newid, efallai bydd yn golygu bod y swm fydd gennych i fyw arno yn lleihau. Gall hyn arwain at bwysau ar gyllideb eich cartref a phryderon ynghylch dyledion. Darganfyddwch beth gallwch ei wneud i gael dau ben llinyn ynghyd yn y byrdymor, yna edrychwch ar ffyrdd hirdymor i reoli eich arian.
Toriadau mewn cymorth Tai
Os yw’ch Budd-dal Tai neu elfen costau tai eich Credyd Cynhwysol wedi’i dorri, efallai oherwydd y cap budd-daliadau neu ystafell wely sbâr, yna mae’n bosibl eich bod yn poeni am fethu â thalu’ch rhent. Neu efallai fod gennych ôl-ddyledion rhent yn barod.
Mae budd-dal tai yn un o chwe budd-dal sy'n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf i?
Cysylltwch â’ch landlord
Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent - siaradwch â’ch landlord i weld a oes unrhyw ddewisiadau ar gael i chi.
A ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol? Yna efallai y bydd eich cyngor neu gymdeithas dai yn siarad â chi am drosglwyddo i gartref llai - os oes rhai ar gael. A gallant eich cynghori ynghylch a allai unrhyw gymorth ariannol ychwanegol fod ar gael i chi.
Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth i helpu i ychwanegu at eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn y tymor byr gyda Thaliad Tai Dewisol
Maent ar gael i bobl sy’n wynebu diffyg rhwng eu budd-daliadau a chostau tai.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i wneud cais am Daliad Tai Dewisol.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Tai Dewisol ar wefan Turn2Us
Darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Ystyriwch gael lojar
Efallai bod rhentu eich ystafell sbâr yn bosibilrwydd.
Os penderfynwch fynd i lawr y llwybr hwn, mae rhai pethau y dylech wybod:
- O gael lojar ni fyddech yn cael eich ystyried fel rhywun ag ystafell sbâr pan ddaw yn fater o asesu eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.
- Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, ni chyfrifir unrhyw arian rydych yn cael gan is-denantiaid a lojars o dan gynllun rhentu ystafell yn incwm hyd at y lwfans di-dreth o £7,500. Mae hyn yn golygu ei bod yn ffordd i ychwanegu at eich incwm.
- Fodd bynnag, os ydych ar Fudd-dal Tai, heblaw am yr £20 yr wythnos cyntaf, mae’r arian ychwanegol rydych yn debygol o’i gael mewn rhent yn debygol o gael ei dynnu - bunt am bunt - o’ch budd-daliadau.
- Bydd rhaid i chi wirio bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi is-logi ystafell.
- Efallai na fydd eich yswiriant cynnwys yn ddilys os byddwch yn cymryd lojar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi’ch yswiriwr os ydych yn dal wedi’ch yswirio.
Darganfyddwch fwy am rentu ystafell yn eich cartref ar wefan GOV.UK
Gweithredwch yn gyflym os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent eisoes, mae rhaid i chi siarad â’ch landlord yn syth.
Efallai y gallwch ddod i gytundeb â hwy lle cewch dalu’r arian sy’n ddyledus gennych fesul tipyn.
Os ydych angen cyngor ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord, neu os ydych yn poeni am golli’ch cartref, gallwch ffonio Shelter neu Gyngor ar Bopeth. Neu Housing Advice NI yng Ngogledd Iwerddon.
- Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cewch gyngor rhad ac am ddim gan Shelter. Darganfyddwch fwy ar wefan Shelter
- Neu galllwch siarad â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cewch gyngor ar wefan Housing Advice NI
Treth Gyngor
Mae gan gynghorau lleol eu Cynlluniau Gostyngiad y Dreth Gyngor eu hunain.
Mewn rhai ardaloedd ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth tuag at eich bil Treth Gyngor. Ond mewn ardaloedd eraill mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu canran ohono.
Darganfyddwch fwy am gynllun eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y cyfraddau ar wefan NIDirect
Gwiriwch fod y bil a anfonwyd i chi’n gywir
Mae’n werth gwirio bod eich cyngor yn codi’r swm cywir o Dreth Gyngor arnoch.
Dylech wirio bod eich cartref wedi’i osod yn y band cywir ac a ydych yn gymwys am unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.
Darllenwch ein canllaw Sut i arbed arian ar eich bil Treth Gyngor
Gofynnwch i’ch cyngor am ledaenu’r taliadau dros 12 mis
Gallwch ddewis lledaenu’ch taliadau dros 12 mis yn lle 10. Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn iddynt am sefydlu taliadau misol.
Darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch Treth Gyngor
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch taliadau Treth Gyngor. Mae mwy o wybodaeth yn adran ‘Toriadau Budd-daliadau Tai’ y canllaw hwn, uchod.
Os yw’ch budd-daliadau wedi’u torri o ganlyniad i sancsiwn
Os yw’ch budd-daliadau wedi’u sancsiynu mae pethau y gallwch eu gwneud. Gallwch:
- gwirio bod y sancsiwn yn gywir a’i herio os nad yw
- ymgeisio am daliad caledi o’ch Canolfan Byd Gwaith leol
- cael cymorth gyda chostau hanfodol gan eich cynllun lles lleol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a beth i’w wneud amdanynt
Cyngor am ddim ar ddyledion
Os ydych yn poeni am fynd i ddyled â biliau neu am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.
Help gyda chyllidebu
Ystyriwch faint sydd gennych i fyw arno
Amcangyfrifwch faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Yna rhestrwch eich holl alldaliadau.
Ystyriwch faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu am y pethau sylfaenol?
Cofiwch mai biliau fel eich rhent neu forgais, eich Treth Gyngor a’ch biliau nwy a thrydan a ddylai fod yn flaenoriaeth gyntaf i chi.
Gwiriwch i weld os gallwch wneud unrhyw arbedion
A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwariant? A oes unrhyw filiau lle rydych yn ystyried ei bod yn bosibl y gallech gael bargen well?
Darllenwch ein Hawgrymiadau ar arbed arian i wirio a oes unrhyw arbedion y gallwch eu gwneud.
I gael awgrymiadau ymarferol, arbed arian bob dydd, edrychwch ar ein Canllawiau Fy Arian.