Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gynyddu’r gweddill sydd ar gael yn eich cyfrif banc, un dewis yw gosod ystafell sbâr. Trwy gofrestru ar gynllun Gosod Ystafell, nid yn unig rydych chi’n mwynhau’r incwm ychwanegol o’r rhent, ond hefyd mae hyd at £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pwy sy’n gymwys ar gyfer cynllun Gosod Ystafell?
- Dewis bod i mewn neu dynnu’n ôl o’r cynllun
- Y cynllun Gosod Ystafell a budd-daliadau
- Darparu prydau bwyd a gwasanaethau
- Os oes angen talu treth
- Rhedeg busnes
- Manteision ac anfanteision cynllun Gosod Ystafell
- Pwysigrwydd cadw cofnodion
- Cyn i chi gymryd lletywr i mewn
- Ffyrdd eraill o gynyddu eich incwm
Pwy sy’n gymwys ar gyfer cynllun Gosod Ystafell?
Mae cynllun Gosod Ystafell yn gynllun dewisol sydd ar gael i berchnogion preswyl neu denantiaid sy’n gosod llety wedi’i ddodrefnu i letywr yn eu prif gartref.
Mae’n caniatáu i chi ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth neu £3,750 os ydych chi’n gosod ar y cyd.
Does dim rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref i gymryd mantais o’r cynllun. Os ydych chi’n rhentu gallwch hefyd osod ystafell ar brydles i letywr cyhyd ag y bo eich prydles chi eich hun yn caniatáu i chi wneud hynny.
Dewis bod i mewn neu dynnu’n ôl o’r cynllun
Os yw’r swm rydych chi’n ei ennill o osod ystafell yn llai na throthwy’r cynllun Gosod Ystafell, yna mae eich rhyddid rhag treth yn awtomatig a does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
Os ydych chi’n ennill mwy na’r trothwy, yna mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen dreth (hyd yn oed os nad ydych chi’n arfer gwneud hynny). Gallwch wedyn wneud un o’r canlynol:
- Dewis bod i mewn yn y cynllun – os felly dylech adael i Gyllid a Thollau EM wybod hyn ar eich ffurflen enillion trethadwy a hawlio eich lwfans di-dâl.
- Peidio â dewis bod i mewn ynddo – os felly dylech gofnodi’r incwm ac unrhyw dreuliau cysylltiedig ar dudalennau eiddo eich ffurflen enillion trethadwy.
I ofyn am gael ffurflen dreth wedi ei hanfon atoch os nad ydych chi’n cael un fel arfer, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Does dim ffurflen benodol i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM nad ydych eisiau bod yn rhan o’r cynllun. Os ydych chi’n ennill mwy na’r trothwy neu rydych yn barod yn llenwi ffurflen enillion trethadwy, y cyfan rydych chi’n wneud yw datgelu yr incwm a’r treuliau eiddo ar osod perthnasol wrth lenwi eich ffurflen enillion trethadwy.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM i ofyn am ffurflen dreth
Y cynllun Gosod Ystafell a budd-daliadau
Gall y cynllun Gosod Ystafell fod yn ffordd wych o ategu at eich incwm a darparu llety i letywyr. Serch hynny, gallai’r incwm yr ydych chi’n ei dderbyn effeithio ar rai budd-daliadau prawf modd
Credyd Cynhwysol a’r cynllun Gosod Ystafell
Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw arian y byddwch chi’n ei dderbyn gan yr is-denantiaid a phreswylwyr o dan y cynllun gosod ystafell yn cael ei gyfrif fel incwm, hyd at y lwfans di-dreth o £7,500. Golyga hyn ei fod yn ffordd wych i ategu at eich incwm.
Serch hynny, os ydych chi’n rhentu ystafell sbâr fe fyddwch chi’n amodol ar y dreth ystafell wely.
Gallwch ddarganfod fwy o wybodaeth am breswylwyr a’u heffaith ar eich ceisiadau budd-daliadau ar wefan y Ganolfan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Gostyngiad y Dreth Gyngor a’r cynllun Gosod Ystafell
Pe byddech chi’n byw ar eich pen eich hun ac yn gymwys i Ostyngiad y Dreth Gyngor person sengl o 25% a’ch bod chi’n penderfynu rhentu ystafell, ni fyddwch chi’n gymwys mwyach am y gostyngiad
Budd-dal Tai a’r cynllun Gosod Ystafell
Os ydych yn denant tai cymdeithasol oedran gweithio mae sut y bydd Gosod Ystafell yn effeithio ar eich Budd-dal Tai yn dibynnu ar sut y mae’r person sy’n rhentu’r ystafell yn cael ei ystyried.
Preswylwyr: Os, ynghyd â’r ystafell, yr ydych chi’n darparu bwyd wedi’i baratoi, mae’r rhentwr yn cael ei ystyried yn breswylydd. Mae £20 cyntaf yr incwm rhent yr wythnos yn cael ei ddiystyru ynghyd â hanner y swm sy’n weddill o rent yr ydych chi’n ei dderbyn.
Er enghraifft, os yw’r rhent yn £50 yr wythnos, mae £20 yn cael ei ddiystyru yn awtomatig, ynghyd â £15 o’r taliad rhent o £30 sy’n weddill.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n derbyn incwm o £15 yr wythnos, a allai effeithio ar y swm y byddwch chi’n ei dderbyn mewn Budd-dal Tai.
Is-denantiaid: Os mai dim ond yr ystafell yr ydych chi’n ei darparu a dim prydau, mae’r preswylydd yn cael ei alw yn is-denant. Mae’r £20 cyntaf o incwm rhent yr wythnos yn cael ei ddiystyru, ond mae’r swm sy’n weddill i gyd yn cael ei ystyried yn incwm.
Os yw hyn yn wir, os yw’r rhent yn £50 yr wythnos, mae £20 yn cael ei ddiystyru, ond bydd yr £30 sy’n weddill yn cael ei ystyried yn incwm ac fe allai effeithio ar y swm y byddwch chi’n ei dderbyn mewn Budd-dal Tai.
Os ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai, ac yn rhentu eich unig ystafell sbâr ni fydd y dreth ystafell wely yn effeithio arnoch chi. Os oes gennych chi ystafelloedd sbâr pellach, byddech chi’n amodol ar y dreth honno
Budd-daliadau prawf modd eraill a’r cynllun Gosod Ystafell
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau prawf modd eraill megis Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn, gallai unrhyw incwm y byddwch chi’n ei dderbyn o rentu’ch ystafell effeithio ar y budd-daliadau hyn.
Darparu prydau bwyd a gwasanaethau
Efallai y byddwch yn dymuno codi tâl am wasanaethau ychwanegol wrth gymryd lletywr i mewn, fel darparu prydau bwyd neu wasanaeth golchi dillad.
Mae’n rhaid i’r arian rydych chi’n ei gael am y gwasanaethau hyn gael eu hychwanegu at y rhent rydych chi’n ei gael er mwyn cyfrifo cyfanswm eich incwm cyfan. Os yw eich incwm cyfan yn fwy na £7,500 am y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), ac y mae eich incwm cyfan yn fwy na’r Lwfans Personol unigol, bydd arnoch angen talu peth treth.
Darganfyddwch fwy am y Lwfans Personol ar wefan Cyllid a Thollau EM
Os oes angen talu treth
Os yw eich incwm gan eich lletywr yn fwy na £7,500 ar gyfer y flwyddyn dreth, mae gennych ddau ddewis:
- Talu treth ar yr union elw o’r eiddo (a gyfrifir fel incwm a geir ar ôl tynnu treuliau cyfreithlon). Mae hyn yn gytundeb arferol ar gyfer busnes gosod.
- Talu treth ar yr incwm crynswth (cyn treth) gan dynnu’r trothwy di-dreth ond heb lwfans ar gyfer treuliau.
Y ffordd symlaf o weld beth i’w wneud yw cyfrifo eich treuliau. Os ydynt yn fwy na’r trothwy di-dreth o £7,500, yna bydd hi’n well arnoch chi os ewch am y dewis cyntaf. Os ydynt yn llai na’r trothwy, yna ewch am ddewis dau.
Does dim rhaid i chi aros gydag un ffordd bob blwyddyn. Gallwch newid o flwyddyn i flwyddyn cyhyd â’ch bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Rhedeg busnes
Os ydych chi’n rhedeg gwesty, gwely a brecwast neu’n darparu gwasanaethau fel arlwyo a glanhau fel rhan o’r busnes gosod, gallwch gymryd rhan yn y cynllun Gosod Ystafell o hyd.
Darllenwch y canllaw ‘Rent a Room for traders’ ar wefan GOV.UK
Manteision ac anfanteision cynllun Gosod Ystafell
Mantais fwyaf y cynllun yw y gallwch ennill £7,500 y flwyddyn yn hollol ddi-dreth.
Fodd bynnag, i rai pobl, gall y fantais gael ei gorbwyso gan y ffaith na allwch chi hawlio treuliau sy’n gysylltiedig â’r gosod.
Felly os oes rhaid i chi wario arian yn atgyweirio traul yn eich eiddo neu newid boeler wedi torri, ni fyddwch yn gallu didynnu unrhyw faint o’r costau hynny yn erbyn incwm os ydych chi’n gosod eich eiddo dan gynllun Gosod Ystafell.
Bydd yn rhaid i chi benderfynu drosoch chi eich hun a fydd hi’n well arnoch chi i mewn neu allan o’r cynllun Gosod Ystafell.
Enghraifft
Mae Frank yn gosod ystafell yn y cartref y mae’n berchen arno am rent o £200 yr wythnos. Mae hyn yn rhoi incwm blynyddol o £10,400 iddo – sy’n fwy na lwfans Gosod Ystafell.
Os yw’n aros yn y cynllun Gosod Ystafell, bydd yn cael ei drethu ar ei gyfradd treth uchaf ar yr incwm uwchben £7,500. Felly os yw’n drethdalwr cyfradd sylfaenol bydd hynny’n golygu talu 20% ar £2,900 (£10,400-£7,500). Canlyniad hyn fyddai bil treth o £580.
Fodd bynnag, gallai dynnu’n ôl o’r cynllun a thrin ei incwm fel incwm gosod cyffredin. Golyga hyn y gall ddidynnu treuliau a dim ond ei elw terfynol fydd yn cael ei drethu.
Dros y flwyddyn mae treuliau Frank yn gyfanswm o £2,000. Unwaith y bydd hynny’n cael ei ddidynnu o gyfanswm ei rent, mae’n gadael elw o £8,400 iddo. Fodd bynnag, bydd ei fil treth yn dyblu bron i £1,680 (20% o £8,400).
Yn yr enghraifft hwn mae hi’n well i Frank fod yn y cynllun Gosod Ystafell. Fodd bynnag, petai ei dreuliau yn uwch – dywedwch, £4,500 – byddai’n well arno petai’n tynnu allan o’r cynllun.
Pwysigrwydd cadw cofnodion
Mae’n bwysig cadw cofnodion o’ch incwm a’ch gwariant. Er na fedrwch hawlio treuliau gyda chynllun Gosod Ystafell, efallai y bydd arnoch angen y cofnodion hynny petaech yn tynnu allan yn ddiweddarach.
Cyn i chi gymryd lletywr i mewn
Mae nifer o wiriadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud cyn cymryd lletywr i mewn.
Os ydych chi’n berchen yr eiddo ac mae gennych forgais, bydd yn rhaid i chi wirio â’ch benthyciwr morgais i sicrhau bod yr hawl gennych i osod ystafell yn unol ag amodau eich cytundeb morgais.
Bydd yn rhaid i chi wirio â’ch yswiriwr cartref hefyd ei fod yn cael ei ganiatáu dan eu hamodau hwy.
Os ydych chi’n rhentu, bydd angen sicrhau bod eich prydles yn caniatáu i chi gymryd lletywr i mewn.
Siaradwch â’ch benthyciwr, eich yswiriwr a’ch landlord i sicrhau eich bod yn cael cymryd rhan yn y cynllun.
Ffyrdd eraill o gynyddu eich incwm
Mae'r cynllun Gosod Ystafell dim ond yn un ffordd i ddod ag arian i mewn.