Os ydych yn disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac nad oes gennych ddim neu fawr ddim o arian i fyw arno, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. Yn ogystal â'r taliadau ymlaen llaw hyn, efallai y gallwch hefyd gael cymorth ariannol arall.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae taliadau ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol yn gweithio
Awgrym Da
Bydd rhaid i chi ad-dalu’r taliad ymlaen llaw o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, felly dylech ond gofyn am beth rydych ei angen i’ch cadw i fynd tan eich taliad cyntaf.
Os ydych yn disgwyl am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a does gennych ddim neu fawr ddim o arian, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw. Mae’n rhaid i chi ad-dalu’r taliad ymlaen llaw o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol o fewn 24 mis.
Gallwch ofyn am hyd at daliad mis llawn fel taliad ymlaen llaw.
Nid oes rhaid i chi ofyn am y cyfan ar yr un pryd. Gallwch ofyn am daliad rhannol i ddechrau, yna cyflwyno cais arall os byddwch chi’n canfod eich bod angen mwy o arian cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf gyrraedd.
Fel rheol dim ond ar eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf y gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Gwneud cais am daliad ymlaen llaw wrth aros am gynnydd Credyd Cynhwysol
Os yw’ch amgylchiadau wedi newid a bod eich taliad nesaf i fod i gynyddu ond nad ydych wedi’i dderbyn eto gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw.
Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw
Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw trwy eich anogwr gwaith, drwy eich cyfrif ar-lein, neu drwy ffonio Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol. Ers dechrau’r argyfwng coronafeirws, mae’r llinellau ffôn wedi bod yn brysur iawn, felly mae’n debyg mai ar-lein yw’r dewis gorau.
Fe ofynnir i chi esbonio pam eich bod angen y taliad ymlaen llaw, i ddarparu eich manylion banc ac i gael gwiriad hunaniaeth.
Dylech gael penderfyniad yr un diwrnod a dylai unrhyw daliad ymlaen llaw y cytunir arno gael ei dalu i’ch banc o fewn tri diwrnod gwaith. Os na allwch aros am dri diwrnod, mae’n bosibl ei gael ar yr un diwrnod.
Ad-dalu eich taliad ymlaen llaw o Credyd Cynhwysol
Coronafeirws
Os ydych yn cael taliad o’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth, efallai y gofynnir i chi ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol yn syth. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol gwirioneddol a gawsoch - dim ond y taliad ymlaen llaw.
Gallwch wneud eich ad-daliadau dros uchafswm o gyfnod o 24 mis. Aa gall hyn fod am hyd at 25% o lwfans sylfaenol eich Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi gwneud cais trwy eich cyfrif ar-lein, bydd y symiau am y gwahanol gyfnodau ad-daliadau yn cael eu dangos i chi.
Os ydych wedi gwneud cais trwy eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd llinell gymorth, byddant yn egluro faint fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu bob mis.
Mae’r ad-daliad cyntaf yn cael ei dynnu o’ch taliad cyntaf.
Os gwrthodir eich taliad ymlaen llaw
Efallai y gwrthodir eich taliad ymlaen llaw os ydych chi (neu’r ddau ohonoch os ydych chi’n hawlio fel cwpl):
- heb gael eich hunaniaeth wedi wirio
- gyda digon o arian i barhau tan eich taliad nesaf
- yn byw gyda rhieni, perthnasau neu ffrindiau
- gydag unrhyw enillion terfynol, taliadau diswyddo neu gynilion ar gael.
Gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ailystyried gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ond nid oes gennych yr hawl i apelio.
Darganfyddwch sut i ofyn i’r DWP i ailystyried eu penderfyniad yn ein canllaw Beth i’w wneud os ydych yn credu bod eich penderfyniad budd-dal yn anghywir
Sgamiau Credyd Cynhwysol
Mae pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn cael eu targedu gan dwyllwyr yn cynnig benthyciadau cost isel neu grantiau gan y llywodraeth.
Efallai bydd rhywun wedi eich ffonio yn honni eu bod yn gweithio i’r Ganolfan Byd Gwaith, neu wedi cysylltu â chi trwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol. Mae gan nifer o’r twyllwyr wefannau sy’n eich argyhoeddi, gyda logos a thystebau gan y llywodraeth.
Efallai y byddant yn gofyn am eich ID a manylion banc, yn cynnig gwneud cais Credyd Cynhwysol a gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar eich rhan, gan gymryd rhywfaint o’r arian yma fel eu ffi.
Fodd bynnag, mae angen ad-dalu’r swm llawn o’r taliad ymlaen llaw allan o daliadau Credyd Cynhwysol y dyfodol, felly byddwch yn gorfod talu’r swm cyfan a fenthyciwyd yn ôl.
Mae'n bwysig peidio â chael eich temtio gan y cynigion hyn os ydych chi eisoes yn hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau sy'n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys credydau treth a Budd-dal Tai. Mae hyn oherwydd y bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben ac efallai y bydd yr arian a gewch ar Gredyd Cynhwysol yn llai na'r hyn rydych yn ei gael nawr.
Os ydych chi wedi cynnig benthyciad gan y llywodraeth yn unig a gofynnwyd i chi roi eich ID a'ch manylion banc, efallai y bydd y sgamiwr yn ceisio gwneud cais Credyd Cynhwysol heb yn wybod i chi. Peidiwch â rhoi’r manylion hyn - oherwydd efallai na fydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol a gallai hyn gael ei ystyried yn dwyll budd-daliadau.
Os ydych yn disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac eisiau help i wneud cais am daliad ymlaen llaw, bydd Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn eich helpu i gael y taliad rydych ei angen am ddim.
Os cawsoch eich targedu’, hyd yn oed os nad ydych wedi dioddef, gallwch roi gwyod i Action Fraud. Ffoniwch nhw ar 0300 123 2040 neu ewch i wefan Action Fraud
Darganfyddwch fwy am sut i osgoi sgamiau a sut i roi gwybod am un, ar wefan FCA Scam Smart
Darllenwch ein canllaw scamiau Credyd Cynhwysol
Poeni am eich rhent, morgais neu filiau eraill?
Os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich incwm a’ch bod yn poeni am gadw i fyny â’ch rhent, morgais neu filiau eraill, mae help ar gael.
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich costau tai, darganfyddwch am fwy o help sydd ar gael yn ein adran Tai
Ffynonellau eraill o help
Help gyda chostau tai
Efallai y gallech wneud cais am Daliad Tai Dewisol tymor byr gan eich cyngor.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am Daliadau Tai Dewisol ar wefan Turn2Us
Sut i ddod o hyd i’ch cynllun lles lleol
Os ydych angen cymorth gyda biliau gwresogi, tanwydd neu fwyd neu os ydych yn wynebu taliad argyfyngus, gallwch weld os gall eich cynllun lles lleol helpu.
Yn Lloegr, rhedir y cynllun hwn gan eich cyngor lleol. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr Alban
Yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Dewisol
Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ychwanegol ar wefan nidirect
Cael help i gyllidebu
Os ydych angen help gyda chyllidebu personol, holwch yn y Ganolfan Gwaith. Byddant yn gallu dweud wrthych ble mae cymorth wyneb yn wyneb ar gael.
A darllenwch ein canllaw ar Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol
Ceisiwch gyngor dyledion rhad ac am ddim
Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu dyledion sydd gennych yn barod, gofynnwch am gyngor gan elusen cyngor dyledion ar unwaith.