Fel arfer, telir Credyd Cynhwysol i chi fel taliad misol sengl, ond mae’n cynnwys nifer o wahanol elfennau. Mae’n bwysig gwybod y gwahanol lwfansau a’r elfennau a allai fod yn ddyledus ichi, faint allwch chi ei gael am bob un a sut y gall taliadau gael eu heffeithio gan incymau a chynilion eraill.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol
- Elfennau ychwanegol
- Faint o Gredyd Cynhwysol a gaf os wyf yn gweithio?
- Cynilion a Chredyd Cynhwysol
- Dyledion a didyniadau sy’n cael eu cymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
- Budd-daliadau eraill a Chredyd Cynhwysol
- Os cymerwch allan Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol
- Credyd Cynhwysol a’r cap ar fudd-daliadau
- Sut mae sancsiynau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
- Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol
Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, fe gewch un lwfans safonol ar gyfer eich cartref. Y swm a gewch yn 2023/24 fydd:
- £292.11 y mis i hawlwyr sengl dan 25 oed
- £368.74 y mis i hawlwyr sengl 25 oed neu hŷn
- £458.51 y mis i hawlwyr ar y cyd dan 25 oed
- £578.82 y mis i hawlwyr ar y cyd gyda’r naill neu’r llall yn 25 oed neu hŷn.
Am gael amcangyfrif o faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi? Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau.Yn agor mewn ffenestr newydd
Elfennau ychwanegol
Yn ychwanegol i’r lwfans safonol, fe allech gael lwfansau ychwanegol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- elfen plentyn
- elfen costau gofal plentyn
- elfen gallu cyfyngedig i weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
- elfen gallu cyfyngedig i weithio ac elfen gwaith (dim ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o hawlwyr newydd ar ôl 3 Ebrill 2017)
- elfen gofalwr
- elfen costau tai.
Elfen plentyn
Ydych chi’n gofalu am blentyn dan 16 oed, neu unigolyn ifanc cymwys dan 20 oed? Yna rydych yn gymwys am yr elfen plentyn.
Darganfyddwch fwy am y meini prawf ar gyfer person ifanc cymwys ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd
Yn 2023/24, mae’r elfen plentyn yn rhoi’r hawl i chi gael:
- £315 y mis ar gyfer y plentyn cyntaf neu unig blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017
- £269 y mis ar gyfer plentyn dan bob sefyllfa arall.
Gallwch ond hawlio’r elfen plentyn am uchafswm o dau o blant. Mae hyn oni bai bod eithriad yn berthnasol, fel genedigaethau lluosog, neu os ydych wedi mabwysiadu plentyn.
Os oes gan eich plentyn gyflwr iechyd hirdymor neu os yw’n anabl, fe allech fod yn gymwys i hawlio un o’r elfennau plentyn anabl canlynol:
- £146.31 y mis fesul plentyn neu unigolyn ifanc cymwys sy’n cael Lwfans Byw I’r Anabl (DLA) neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar hyn o bryd.
- £456.89 y mis fesul plentyn neu unigolyn ifanc cymwys os yw’n cael y gyfradd uchaf o’r elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl, cyfradd uwch o’r Taliad Annibyniaeth Personol ar gyfer bywyd beunyddiol neu os yw wedi’i gofrestru fel rhywun dall.
Elfen costau gofal plant
Os ydych yn gweithio, gallwch gael hyd at 85% o’ch costau gofal plant wedi’i dalu. Yn 2023/24, mae hyn hyd at uchafswm o £646.35 y mis am un plentyn, neu £1,108.04 y mis am ddau blentyn neu fwy. Disgwylir i’r cyfraddau hyn gynyddu i £951 ar gyfer un plentyn a £1,630 ar gyfer dau blentyn o 29 Mehefin 2023.
Rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gweithio os ydych yn hawlio fel cwpl. Mae hyn oni bai bod y partner nad yw’n gweithio:
- gyda gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
- yn ofalwr i rywun sydd ag anabledd difrifol
- yn absennol dros dro - er enghraifft mewn carchar, ysbyty neu mewn gofal preswyl.
Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, ni allwch gael taliadau gofal plant di-dreth.
Darganfyddwch fwy am ofal plant di-dreth yn ein canllaw Opsiynau gofal plant
Gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith
Fe gewch £390.06 y mis (2023/24) os byddwch chi’n bodloni’r Asesiad Gallu i Weithio (WCA) a bod gennych chi allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith (LCWRA).
Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, dim ond un ohonoch yn unig sydd angen bod â LCWRA i gael yr elfen hon.
Ni chewch hwn os ydych yn ennill mwy na’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn oni bai eich bod yn cael y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) hefyd neu’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), y Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban.
Elfen gallu cyfyngedig i weithio
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r elfen gallu cyfyngedig i weithio ar gael os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl 3 Ebrill 2017.
Fe gewch £146.31 (2023/24) y mis os oes gennych chi’r elfen gallu cyfyngedig i weithio yn dilyn yr Asesiad Gallu i Weithio.
Elfen gofalwr
Os ydych yn gofalu am unigolyn sy’n ddifrifol anabl am 35 awr yr wythnos o leiaf, fe gewch £168.81 y mis.
Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, gall y ddau ohonoch gael yr elfen gofalwr. Ond ni allwch fod yn gofalu am yr un unigolyn.
Nid ydych yn gymwys am yr elfen gofalwr os ydych wedi ennill cyflog o’ch cyfrifoldebau gofalu.
Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn sengl, yna un elfen gofalwr a gewch yn unig. Mae hyn hyd yn oed os ydych yn gofalu am fwy nag un unigolyn anabl.
Os oes mwy nag un unigolyn yn gofalu am yr un unigolyn, yna bydd angen i chi benderfynu pwy fydd yn cael yr elfen gofalwr.
Elfen costau tai
Mae’r elfen costau tai yn eich helpu i dalu am y cyfan - neu ran - o’ch rhent a rhai costau gwasanaeth.
Bydd faint a gewch yn ddibynnol ar ble ydych chi’n byw ac a ydych chi’n denant preifat neu gymdeithasol.
Tenantiaid preifat
Mae’r elfen costau tai ar gyfer tenantiaid preifat yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA) lle rydych chi’n byw.
Cyfrifir yr LHA yn ôl prisiau rhentu cyfartalog eich ardal ar gyfer y nifer o ystafelloedd sydd eu hangen arnoch.
Er enghraifft, bydd LHA hawlydd sengl heb blant yn seiliedig ar gost gyfartalog rhentu fflat ag un ystafell wely yn yr ardal honno. Os ydych o dan 35 heb blant, bydd eich LHA fel arfer yn seiliedig ar rentu ystafell yn fflat neu dŷ a rennir.
Golyga hyn efallai na fydd eich elfen costau tai yn ddigon i dalu’r cyfan o’ch rhent.
Tenantiaid tai cymdeithasol
Os ydych yn denant tai cymdeithasol, mae’r elfen costau tai yn seiliedig ar eich rhent cymwys.
Mae’r rhent cymwys yn ystyried y nifer o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch. Caniateir un ystafell wely i chi am:
- bob cwpl oedolyn
- pob unigolyn sy’n hŷn nag 16 oed
- dau blentyn dan 16 oed o’r un rhyw
- dau blentyn dan 10 oed waeth beth yw eu rhyw
- unrhyw blentyn arall
- gofalwr dros nos nad yw’n byw gyda chi fel arfer.
Os oes gennych chi fwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen arnoch mewn gwirionedd, bydd eich rhent cymwys yn cael ei leihau:
- 14% ar gyfer un ystafell wely ychwanegol
- 25% ar gyfer dwy neu ragor o ystafelloedd gwely ychwanegol.
Ni fydd y gostyngiad hwn yn effeithio arnoch os ydych yn:
- ofalwyr maeth
- yn rhieni rhywun sydd yn y lluoedd arfog neu yn fyfyriwr amser llawn
- yn rhiant plentyn sydd ag anabledd difrifol.
Darganfyddwch gymorth ariannol arall
Defnyddiwch declyn Lightning Reach i wirio a allwch wneud cais am grantiau neu gymorth ariannol ychwanegol os ydych yn byw ar incwm isel. Mewn 15 munud yn unig allwch ddarganfod sut i wneud cais am gyllid gan elusennau, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill.
Faint o Gredyd Cynhwysol a gaf os wyf yn gweithio?
Gallwch weithio cymaint o oriau ag y mynnwch pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol ond gallai hyn effeithio ar faint gewch chi.
Mae hyn yn dibynnu a ydych yn gymwys ai peidio i gael lwfans gwaith. Dyma’r swm y gallwch ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei effeithio.
Efallai y byddwch yn gymwys am lwfans gwaith:
- os ydych mewn swydd gyflogedig ac yn gyfrifol am blentyn dibynnol,
- os na allwch chi weithio cymaint â’r arfer oherwydd salwch neu anabledd.
Mae lwfansau gwaith misol (2023/24) wedi eu gosod ar:
- £379 os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth tai
- £631 os nad ydych yn derbyn cymorth tai.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c o am bob £1 y byddwch yn ei hennill uwchben y lwfans gwaith.
Os na fyddwch yn cael y lwfans gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c am bob £1 ar eich holl enillion.
Darganfyddwch fwy am incwm a Chredyd Cynhwysol ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd
Incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith a Chredyd Cynhwysol
Incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith yw unrhyw arian a gewch, nad yw’n deillio o waith neu fudd-daliadau – er enghraifft,pensiwn.
Am bob £1 a gewch fel incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith, ceir gostyngiad o £1 yn eich taliad Credyd Cynhwysol.
Cynilion a Chredyd Cynhwysol
Oes gennych chi neu’ch partner gynilion dros £6,000 (£10,000 os ydych yn hŷn na’r oed pensiwn y wladwriaeth)? Yna bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn dechrau lleihau.
Os oes gennych chi neu’ch partner fwy na £16,000 mewn cynilion, ni fyddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol o gwbl.
Darganfyddwch fwy am sut all cynilion effeithio ar daliadau budd-dal yn ein canllaw Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?
Cynilion a Symud i Gredyd Cynhwysol
O fis Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai bydd DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o’i raglen Symud i Gredyd Cynhwysol i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn symud draw i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth drwy Symud i Gredyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hynny, bydd y rheolau cynilion Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol.
Defnyddiwch Gymorth i Gynilo i gael hwb ariannol
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i agor cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae'r cyfrifon hyn yn cynnig bonws y llywodraeth o 50% o'r hyn rydych chi'n ei dalu i mewn.
Darganfyddwch fwy am a ydych yn gymwys a sut i wneud cais ar ein tudalen sy’n esbonio Cymorth i Gynilo.
Dyledion a didyniadau sy’n cael eu cymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
Os oes gennych ddyledion penodol, neu ordaliadau budd-daliadau, yna gellir tynnu’r rhain o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Gallwch weld beth sy’n cael ei ddidynnu ar eich datganiad Credyd Cynhwysol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Mae’r pethau a allai gael eu tynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys:
- gordaliad Credyd Cynhwysol
- gordaliad budd-dal arall (fel credyd treth)
- taliad caledi adenilladwy
- ad-daliad Benthyciad Trefnu
- hyd at dri (ar y tro) didyniadau trydydd parti ar gyfer dyledion (gweler isod).
Beth yw didyniadau dyled trydydd parti?
Didyniadau trydydd parti yw pan fydd arian yn cael ei dynnu oddi ar eich Credyd Cynhwysol i dalu’ch dyledion am bethau gan gynnwys:
- cyfleustodau, fel trydan, nwy a dŵr
- Treth Cyngor
- cynhaliaeth plant
- rhent
- taliadau gwasanaeth
- dirwyon llys.
Dim ond tri didyniad trydydd parti y gellir eu cymryd ar unrhyw un adeg. Byddwch yn derbyn neges yn eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein pan fydd didyniad trydydd parti yn dechrau.
Nid yw'r mwyaf a gymerir ar y tro fel arfer yn fwy na 25% (30% mewn rhai amgylchiadau prin) o'ch lwfans safonol. Darganfyddwch fwy ar GOV.UK (Agor mewn ffenestr newydd)
Budd-daliadau eraill a Chredyd Cynhwysol
Mae yna ystod o fudd-daliadau eraill y gallwch eu hawlio ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd, Lwfans Gofalwr a Lwfans Mamolaeth.
Am bob £1 a gewch fel incwm o’r rhain a rhai budd-daliadau eraill, ceir gostyngiad o £1 yn eich taliad Credyd Cynhwysol.
Os cymerwch allan Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, gallwch ofyn am hyd at daliad mis llawn fel daliad ymlaen llaw. Bydd yn rhaid ad-dalu’r swm hwn dros y 12 mis dilynol.
Didynnir yr ad-daliadau hyn o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Os yw'r didyniadau'n achosi caledi ariannol, efallai y gallwch eu gohirio neu eu lleihau. Ond, mae bob amser gwerth ei wneud, yn y lle cyntaf, siarad â'ch Anogwr Gwaith. Darganfyddwch pa help sydd ar gael yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gwneud taliadau i DWP neu CThEM.
Credyd Cynhwysol a’r cap ar fudd-daliadau
Mae’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol. Mae’n cyfyngu ar yr uchafswm allwch chi ei gael mewn budd-daliadau i (2023/24):
- £2,110.25 y mis i gyplau a rhieni sengl os ydych chi’n byw yn Llundain
- £1,835 y mis i gyplau a rhieni sengl y tu allan i Lundain
- £1,413.91 y mis i unigolyn sengl heb blant yn Llundain
- £1,229.41 y mis i unigolyn sengl heb blant y tu allan i Lundain.
Ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i rai pob. Er enghraiffft, os ydych yn gweithio neu os oes gennych chi anabledd.
Darganfyddwch fwy am ba bryd mae’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch a phwy sy’n cael eu heithrio, yn ein canllaw Y cap ar fudd-daliadau
Sut mae sancsiynau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
Os ydych yn methu â bodloni’r cyfrifoldebau yn eich ymrwymiad hawlydd, fe gewch eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri.
Mae faint mae hyn yn lleihau eich taliad ac am ba hyd yn dibynnu ar y rheswm dros y sancsiwn ac a ydych wedi cael eich sancsiynu o’r blaen.
Darganfyddwch fwy am sancsiynau yn ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw
Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol
Mae’n anodd rhoi ffigwr pendant o ran faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi cyn i chi wneud cais gan fod y swm yn dibynnu ar eich bywyd teuluol a phethau eraill, fel a ydych yn gweithio.
Gall ein Cyfrifiannell Budd-daliadau eich helpu i gael ffigur mwy cywir am faint y gallech ei hawlio. Mae ond yn cymryd ychydig o funudau i'w llenwi.