Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Help os ydych chi’n cael trafferth gyda thaliadau i’r DWP neu CThEM

Beth os na allaf fforddio'r ad-daliadau?

Os yw'ch amgylchiadau wedi newid, efallai eich bod wedi colli'ch swydd ac na allwch fforddio'r un ad-daliadau, mae'n bwysig gweithredu.  

Os mai dyma'ch unig ddyled

Os yw'ch incwm yn y dyfodol yn ansicr ac nad oes gennych ddigon i fyw arno oherwydd yr ad-daliadau, gallwch ofyn iddynt gael eu lleihau.

Os ydych chi'n ad-dalu taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol neu mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein ac ychwanegwch nodyn i'ch dyddlyfr yn gofyn i'ch ad-daliadau gael eu lleihau. Mewn rhai amgylchiadau gall yr ad-daliadau gael eu gohirio hefyd.

Os ydych chi'n ad-dalu unrhyw ddyled budd-dal neu gredyd treth arall, cysylltwch â chanolfan gyswllt Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os oes gennych ddyledion eraill

Mae dyled budd-dal yn cael ei ystyried fel dyled â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu y gall canlyniadau peidio â’i dalu fod yn fwy difrifol nag eraill. Mae dyledion blaenoriaeth eraill yn cynnwys ôl-ddyledion rhent a morgais, biliau ynni hwyr a biliau Treth Gyngor a THrwydded Teledu heb eu talu.

Os ydych chi wedi colli mwy nag un taliad neu os ydych chi'n jyglo dyledion eraill, mae'n bwysig eu talu yn y drefn iawn gan fod rhai yn bwysicach ac mae gan rai credydwyr fwy o rym nag eraill.

Sut i herio penderfyniad gordaliad

Os dywedwyd wrthych am ordaliad newydd nad ydych yn cytuno ag ef, efallai y gallwch ofyn am edrych ar y penderfyniad eto ac apelio yn ei erbyn

Cefnogaeth ychwanegol os ydych chi'n cael trafferthion ariannol a gyda'ch lles meddyliol

Gallai cael materion iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt

Cofiwch, os ydych chi'n cael trafferthion ariannol a gyda'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag sydd gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.

Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na gwneud wrth sôn am godi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl

Mae gan y rhan fwyaf o leoedd sydd arnoch chi arian iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych chi'n agored i niwed. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.

Mae gan MoneySavingExpert lyfryn PDF y gellir ei lawrlwythoYn agor mewn ffenestr newydd am ddim ar arian ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys sut i ddelio gyda dyledion pan fyddwch chi'n sâl, gweithio gyda banciau, cwnsela dyled am ddim, awgrymiadau ar gyfer anhwylder deubegynol a dioddefwyr iselder, p'un ai i ddatgan cyflwr a mwy.

 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.