Mae Treth Cyngor yn ddyled flaenoriaeth y mae rhaid i chi ei thalu, oherwydd gall canlyniadau cwympo ar ei hôl fod yn waeth nag â dyledion eraill. Os ydych yn poeni am ei dalu, mae'n bwysig cael cynllun.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa help sydd ar gael?
- Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy sefyllfa ariannol yn gwaethygu?
- Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
- Pryd i gael cyngor ar ddyledion
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Pa help sydd ar gael?
Mae gan bob cyngor gynllun i'ch helpu i reoli'ch taliadau felly cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosib. Os arhoswch nes eich bod wedi methu taliadau, gallai gyfyngu ar yr help y gallant ei gynnig i chi.
- Yng Nghymru a Lloegr, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn yr Alban, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Pan gysylltwch â hwy, eglurwch eich sefyllfa a gweld a yw'n bosibl gweithio allan gynllun talu newydd cyn i chi fynd ar ei hôl.
Dyma rai enghreifftiau o gefnogaeth y gellir ei chynnig:
- Gostyngiadau biliau os ydych ar fudd-daliadau – os bydd eich incwm yn gostwng neu os byddwch yn ddi-waith gallech wneud cais am ostyngiadau i ostwng Treth Cyngor. Gallai'r rhain fod hyd at 100% oddi ar eich Treth Cyngor os ydych ar fudd-daliadau penodol neu incwm isel, ond mae hyn yn dibynnu ar eich cyngor lleol. Gall pawb wneud cais, ond nid oes gan bawb hawl.
Darganfyddwch fwy am sut rydych yn cael eich diogelu a beth sydd angen i chi ei wneud fel cwsmer (Opens in a new window) ar wefan Ofgem
Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
Os ydych wedi cael sioc incwm, gallech fod â hawl i gefnogaeth y llywodraeth. Os ydych yn cael trafferthion ariannol, mae'n bwysig eich bod yn hawlio unrhyw help ychwanegol y gallwch.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Beth fydd yn digwydd os bydd fy sefyllfa ariannol yn gwaethygu?
Hyd yn oed os yw eich cyllid ar y trywydd iawn nawr, gallai eich incwm newid. Efallai eich bod yn hunangyflogedig ac mae gennych incwm cyfnewidiol. Gallai hyn olygu dyfodol ansicr.
Efallai y bydd angen i chi adolygu'ch cyllid fel y gallwch dalu am eich ad-daliadau. Mae'n ddefnyddiol llunio cyllideb. Os oes gennych ychydig mwy yn mynd allan na dod i mewn, efallai y gallwch ail-weithio sut rydych yn gwario'ch arian.
Y camau nesaf os ydych wedi methu taliad
Os ydych eisoes wedi methu taliad Treth Cyngor, mae hyn yn golygu eich bod mewn ‘ôl-ddyledion’.
Cysylltwch â'ch cyngor cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddynt fod eich incwm wedi newid, a'ch bod yn cael trafferth talu am eich biliau.
Yn ogystal â dod i drefniant ar yr arian sy'n ddyledus iddynt, dylech hefyd siarad am filiau'r dyfodol – yn enwedig os ydych yn meddwl y gallech gael trafferth eu talu.
Gwnewch gyllideb, cyfrifwch pa arian sydd gennych ar ôl ar ei ôl, a gofynnwch i'r cyngor am help.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych wedi methu taliad, yn meddwl eich bod yn mynd i fethu taliad neu yn jyglo dyledion eraill ac yn teimlo bod angen cyngor ar ddyledion arnoch mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn gywir gan fod rhai yn fwy brys ac mae gan rai benthycwyr fwy o bŵer nag eraill.
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa rai i'w talu yn gyntaf, gwelwch ein canllaw ar sut i flaenoriaethu'ch dyledion
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Gallai cael problemau iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Dewch o hyd i awgrymiadau ymarferol ar sut i reoli'n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw problemau ariannol a lles meddyliol gwael
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae arnoch arian iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl.
I gael awgrymiadau ymarferol ar sut gallwch siarad â'r rhai y mae arnoch arian iddynt, edrychwch ar ein canllaw Cael sgwrs anodd am arian
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn agored i niwed. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.