Trwy gydol eich bywyd cewch lawer o sgyrsiau arian gyda gwahanol bobl. Bydd rhai o'r rhain yn anodd, a all beri straen. Bydd gweithio allan yr hyn rydych am ei ddweud yn ei gwneud yn llawer haws.
Sut i baratoi ar gyfer sgwrs
Er nad oes angen mynd dros ben llestri wrth baratoi, gallai meddwl am y pethau hyn ymlaen llaw helpu:
- Pryd i siarad. Ni fydd adeg ddelfrydol. Efallai gallech ddweud wrthynt hoffech drafod rhywbeth yn nes ymlaen - sy’n rhoi amser iddynt neilltuo amser yn eu diwrnod.
- Ble i siarad. Gorau oll i chi ddod o hyd i rywle lle na fydd neb yn tarfu arnoch. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i aros gartref ble efallai y bydd gennych waith papur defnyddiol. Fodd bynnag, efallai y bydd hi'n haws i chi fynd am dro.
- Pwy ddylai fod yno. Mae hyn yn dibynnu’n helaeth ar y sefyllfa - ond pawb sy’n berthnasol i’r sgwrs.
- Ymarferwch y sgwrs. Mae'n ddefnyddiol meddwl am y pethau rydych am eu dweud a rhoi cynnig eu dweud yn uchel. Efallai meddyliwch am yr hyn y gallai'r person arall ei ddweud, a llunio atebion i hynny.
Ar ôl paratoi, byddwch mewn sefyllfa wych i wybod sut i ddechrau’r sgwrs.
Sut i ddechrau’r sgwrs
Weithiau gall fod o fudd i ddechrau’r sgwrs mewn dull llai uniongyrchol yn hytrach na gofyn iddynt eistedd i lawr a chodi’r pwnc yn syth.
Dyma rai awgrymiadau ar gychwyn y sgwrs:
- Os yw ffrind arall i chi yn profi problemau tebyg, beth am drafod yr hyn sy’n digwydd iddynt er mwyn dechrau’r sgwrs.
- Efallai bod eich sefyllfa chi neu rywbeth tebyg wedi codi mewn rhaglen deledu rydych yn ei gwylio, mewn llyfr neu ar y newyddion. Soniwch pa mor debyg yw hyn i’r hyn rydych yn ei brofi.
- Defnyddiwch beth bynnag sydd o’ch cwmpas i ysgogi’r sgwrs – biliau, dodrefnyn newydd yr ydych yn dal i dalu amdano, neu rywbeth rydych yn ei wylio ar y teledu.
Ond mae adegau pan fyddwch angen trafod y pwnc yn fwy uniongyrchol, yn arbennig os yw’n fater brys ac na allwch aros am y cyfle perffaith i gychwyn y sgwrs.
Weithiau, mae gwybod beth fydd eich brawddeg gyntaf yn gallu gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus. Dyma rai brawddegau dechreuol posibl:
- ‘Mae gennyf rywbeth hoffwn ei drafod â chi a fydd, dw i’n meddwl, yn ein helpu i gyrraedd ein nodau yn well.’
- ‘Hoffwn siarad â chi am [rhywbeth], ond hoffwn gael dy farn di yn gyntaf.’
- ‘Dwi angen dy help â beth sydd newydd ddigwydd. Oes gennych ychydig o funudau er mwyn i ni siarad?’
- ‘Rwy’n meddwl bod gennym wahanol syniadau am [rhywbeth], a hoffwn gael dy farn ar hyn.’
Mae sgwrs yn ddwy ffordd – felly gwnewch yn siŵr fod yr unigolyn arall yn cael chwarae teg ac nid yn gwrando’n unig.
Awgrymiadau ar gyfer pan fyddwch yn cael y sgwrs
Byddwch yn ofalus o’ch emosiynau, yn ogystal ag emosiynau’r sawl byddwch yn siarad â hwy
Mae’n naturiol mynd yn emosiynol, ond efallai na fydd gwylltio neu fynd yn rhy ofidus yn helpu.
Dywedwch wrthych eich hun y gallwch fynegi’r emosiynau hyn rhyw dro arall, ond mae’r sgwrs hon yn gofyn bod eich meddwl yn glir a rhesymegol.
Os ydych yn teimlo’n arbennig o emosiynol, efallai yr hoffech roi amser a lle i chi’ch hun i drafod yr emosiynau hyn. Wrth wneud hynny, gallwch barhau i ganolbwyntio ar y sgwrs bwysig hon, gan wybod y rhoddir sylw i’ch teimladau nes ymlaen.
Ceisiwch beidio â thorri ar draws y person/pobl eraill
Os byddwch yn siarad ar draws eich gilydd, gall y cyfan droi’n ffrae. Gall hyn fod yn anodd i chi gan fod gennych lawer i’w ddweud, ond y ffordd orau i ddatrys hyn yw fel tîm.
Os gwelwch fod un ohonoch yn torri ar draws y llall, efallai yr hoffech godi hyn yn bwyllog fel problem ac awgrymu amser neilltuol i chi’ch dau gael siarad heb unrhyw dorri ar draws.
Mae’n bwysig peidiwch â beio unrhyw un am dorri ar draws. Dylech gydnabod bod hwn yn bwnc emosiynol ac felly byddai’n syniad da gosod rhai rheolau trafod i sicrhau bod pawb yn cael siarad.
Bydd bod yn feirniadol dim ond yn gwneud i’r person arall gau lawr
Ceisiwch osgoi cychwyn brawddegau gyda chyhuddiadau, fel ‘chi’. Ceisiwch ei gadw amdanoch chi fel ‘rwy’n meddwl’ neu ‘rwy’n credu’. Mae eich ystumiau a’r geiriau a ddefnyddiwch yn gwneud gwahaniaeth hefyd.
Cadwch at y pwnc dan sylw
Ni fydd codi problemau a chwynion eraill yn helpu i ddatrys y sefyllfa hon. Os teimlwch y gallai hyn fod yn broblem, gwnewch restr o bethau y cewch ac ni chewch eu trafod yn ystod y sgwrs hwn.
Er enghraifft, nid y sgwrs hon yw’r amser i ddweud wrth eich partner y dylai dreulio mwy o amser gyda chi yn hytrach nag eistedd o flaen y cyfrifiadur. Mae angen canolbwyntio ar eich cyllid.
Trwy gadw at y pwnc hwn, bydd y sgwrs yn haws i chi.
Ceisiwch gadw eich llygaid ar yr un lefel
Mewn geiriau eraill, y peth gorau fydd i bawb fod ar eu heistedd neu ar eu sefyll. Ni ddylai un person fod wedi ei osod yn uwch na’r llall yn gorfforol.
Meddyliwch am bwy arall allai helpu hefyd
Efallai y bydd elusennau neu sefydliadau yn ddefnyddiol, felly cadwch y rhifau neu wefannau wrth law i’w pasio ymlaen.
Sut i ddelio ag ymatebion negyddol
Ni fydd popeth yn rhedeg yn esmwyth, felly os gwelwch eich bod yn cael ymateb negyddol, rhowch gynnig ar yr ymatebion canlynol:
Os… | Rhowch gynnig ar… |
---|---|
Nid yw’r person yn cytuno â’r ffeithiau rydych yn eu hawgrymu |
Gofynnwch beth yw eu rhesymau a gwrando gyda meddwl agored. Os teimlwch fod ganddo ef neu hi safbwynt dilys, dywedwch hynny. Os byddwch yn anghytuno ag ef neu hi, awgrymwch sut gallwch symud ymlaen. |
Mae’r person yn eich beio chi |
Gwrandewch gyda meddwl agored, gweithiwch allan beth sy’n eu gwneud yn rhwystredig heb fynd yn amddiffynnol a thaflu’r bai yn ôl. A oes sail i’w sylwadau? Os felly, sut fyddwch yn delio â’r sylwadau hynny? Ai taflu’r bai yn unig mae eu sylwadau? Os felly, gofynnwch iddo ef neu hi beth allech chi’ch dau ei wneud i ddatrys y problemau. |
Mae’r person yn ddiamynedd neu’n ceisio newid y pwnc. |
Esboniwch nod y sgwrs a gadael iddynt wybod pa ddewisiadau sydd ganddynt. Gwrandewch ar beth maent yn ei ddweud er mwyn ymdrin â nhw yn ddiweddarach. Eglurwch eich bod yn deall bod hon yn sgwrs anodd, gan amlygu hefyd mai nawr yw’r adeg gorau i’w chynnal yn hytrach na rhyw dro eto. |
Mae’r unigolyn yn siarad yn ddi-baid |
Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer y sgwrs, ond eto cadwch ef neu hi ar y trywydd pwnc cywir drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedodd a gofyn cwestiynau perthnasol. |
A oes unrhyw senarios eraill posibl yr ydych yn meddwl allai ddigwydd? Os felly, nodwch hwy ynghyd â’r ateb.
Sut i ddod â’r sgwrs i ben yn gadarnhaol
Ar ôl sgwrs anodd, yn aml mae'n rhyddhad ei fod drosodd ac mae’n naturiol i beidio â bod eisiau mynd trwyddo eto. Ond mae’n bwysig cynnal rhyw fath o ddilyniant ar ôl sgwrs anodd.
Felly dyma rai awgrymiadau ar sut allwch chi wneud hynny:
Cydnabyddwch fod y sgwrs wedi digwydd
Cydnabyddwch yr oedd yn sgwrs anodd ac amlygwch y pethau cadarnhaol a ddaeth ohoni. Gwerthfawrogwch eich bod chi’ch dau wedi dod ynghyd, trafod pwnc anodd a hyd yn oed cynnal sgwrs yn y lle cyntaf.
Darganfyddwch ffyrdd i yrru’r sgwrs yn ei blaen
Byddwch yn rhagweithiol wrth ddangos eich bod wedi nodi’r datrysiadau. Mae cyfathrebu clir o ran y camau nesaf yn helpu symud y sgwrs ymlaen.
Ysgrifennwch hynny i lawr
Gallai fod yn ddefnyddiol i’w ysgrifennu - efallai mewn e-bost neu ar bapur fel eich bod chi’ch dau yn gallu cyfeirio ato wedyn.
Mae’n beth cyffredin i ddau o bobl ddehongli gwybodaeth mewn ffyrdd hollol wahanol. A gall hynny arwain at un ohonoch yn meddwl roedd y canlyniad yn un peth, tra bod y llall yn dod i gasgliad cwbl wahanol am y canlyniad.
Gall ei ysgrifennu i lawr eich helpu i egluro'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu trafod.