Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Trafod arian gyda chi’ch hun

Mae rhannu eich nodau a'ch gwerthoedd arian â'r rhai yn eich bywyd yn eich helpu i gyflawni'ch nodau yn gyflymach na phe baech yn eu cadw i chi'ch hun. Ond os nad ydych chi am siarad ag eraill am arian, beth am ddechrau trwy gael sgwrs arian onest â chi'ch hun?

Beth yw fy nodau a dyheadau yn y tymor hir?

Fel rheol mae'r pethau rydych eu heisiau yn gostus, felly mae'n bwysig i feddwl faint fydd ei angen arnoch a sut y gallwch ei gael. Edrychwch ar ein canllaw Sut i osod nod cynilo am y cam cyntaf. 

Er mwyn eich helpu i reoli'ch gwariant, fel y gallwch gyflawni eich nodau, mae'n ddefnyddiol i lunio cyllideb. I gyfrifo faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a'r hyn rydych yn ei wario arno, defnyddiwch ein cynlluniwr cyllideb  am ddim ac hawdd ei ddefnyddio.

Oes unrhyw broblemau mae angen i mi fynd i’r afael â nhw ar unwaith?

Ydych chi'n poeni bod gennych chi ddyled neu efallai y byddwch yn mynd i ddyled? Ydych chi'n poeni bod eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl? Neu ydych chi’n poeni am eich perthnasau? Mae yna bethau y gallwch wneud cyn bod rhaid i chi siarad â’ch anwyliaid.

Sut ydw i’n gallu cyflawni fy nodau?

Beth yw'r camau bach cyntaf y gallech eu cymryd tuag at gyflawni eich nodau?

Er enghraifft, beth am edrych ar ffyrdd o dorri nôl neu arbed arian, neu roi ychydig yn ychwanegol yn eich pensiwn?

Am awgrymiadau arbed arian a ffyrdd i dorri nôl, gweler ein canllawiau ar Rheoli arian yn dda yn ein hadran Cyllidebu.

Os ydych yn ystyried rhoi ychydig yn ychwanegol yn eich pensiwn, gweler ein tudalen Pensiynau ac ymddeoliad

Beth sy’n fy stopio rhag cyflawni fy nodau ariannol?

Ydych chi'n cael hi'n anodd siarad gyda’ch teulu am arian? Neu a ydych chi’n poeni y byddwch chi’n dweud neu wneud y peth anghywir. Os yw unrhyw un o’r rhain yn broblem, nid chi yw’r unig un.

Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd siarad am arian ac yn aml mae hyn oherwydd nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau.

Gall trafod cynlluniau ariannol gyda ffrindiau a theulu ein gwneud yn fwy tebygol o gadw ein haddewidion. Os ydych chi eisiau cyrraedd targed cynilo, gall gwneud ymroddiad cyhoeddus i’ch ffrindiau neu deulu ac adrodd yn ôl ar gynnydd eich cael yno’n gynt na mynd ati ar eich ben eich hun.

Ond, gall siarad â rhywun proffesiynol, fod yn gam cyntaf gwych.

Beth am siarad ag un o'n staff hyfforddedig? Byddant yn eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau a'ch rhoi ar y llwybr cywir i wneud i bethau ddigwydd. Ac maen nhw'n ymdrin â bron pob pwnc arian y gallwch feddwl amdano, gan gynnwys cynilion, benthyca, morgeisi, pensiynau a dyled. Ac os oes angen mwy o help arnoch gallwn eich trosglwyddo i sefydliadau eraill y gallwch chi ymddiried ynddynt.

Darganfyddwch sut y gallwn helpu ar ein tudalen Cysylltu â ni

Pan fyddwch wedi gwneud rhestr o'r pethau rydych chi'n mynd i'w gwneud i helpu i gyflawni'ch nodau, fe allech chi hyd yn oed fynd â hyn gam ymhellach a dangos yr hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu i'r bobl sy'n bwysig. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo.

Efallai y byddant eisiau llenwi eu fersiwn eu hunain o’r rhestr wirio. Gallwch ddefnyddio atebion eich gilydd fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau mwy manwl.

Sut i siarad am arian

Os oes angen i chi siarad â rhywun am arian ond nad ydych yn siŵr sut y bydd yn mynd, lawrlwythwch ein canllaw Sut i siarad am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 481KB) Mae'n cynnwys awgrymiadau ar sut i gael canlyniad da, rhannu nodau arian a beth i'w wneud os ydych yn meddwl y gallai'r sgwrs fod yn anodd neu os nad yw'n mynd yn ôl y drefn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.