Bob blwyddyn ym mis Tachwedd, rydym yn cynnal ein hymgyrch ymwybyddiaeth Wythnos Siarad Arian i'ch annog i fod yn fwy agored am arian gyda'ch ffrindiau a'ch teulu a'ch helpu i gael cyngor gan arbenigwyr os oes angen.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gall cael sgyrsiau am arian ymddangos yn lletchwith. Gall deimlo fel pwnc tabŵ, ond nid oes angen iddo fod. O arian poced i bensiynau, mae Wythnos Siarad Arian yn gyfle i ddechrau adeiladu sgyrsiau arian i mewn i fywyd bob dydd.
Pam ydyn ni’n cynnal Wythnos Siarad Arian?
Mae gan bob un ohonom bryderon ariannol. Mae ein hymchwil yn dangos bod un o bob tri ohonom yn dweud bod meddwl am ein sefyllfa ariannol yn peri i ni boeni. Nid yw'n syndod bod y rhai ohonom a gollodd incwm oherwydd y pandemig yn fwy tebygol o fod wedi colli hyder yn ein gallu i reoli arian. Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i fynd i’r afael ag ansicrwydd a gwella eich lles ariannol. Gallwn eich helpu i wneud hynny.
Gall siarad am arian gyda ffrindiau, teulu, plant – neu arbenigwyr os oes angen – eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli’ch arian a rhoi mwy o wyt-nwch ariannol i chi ddelio â newidiadau incwm neu ddigwyddiadau bywyd yn y dyfodol sy’n effeithio ar eich cyllid. Rydym hefyd yn hybu adeiladu perthnasoedd iach ag arian o oedran ifanc. Mae ein hymchwil wedi dangos nad yw bron i draean o rieni a gofalwyr yn siarad â'u plant yn agored am arian, gan golli cyfle i helpu dealltwriaeth gynnar hanfodol plant.
Mae’n hawdd gwneud plant i ymgysylltu â heriau arian hwyliog, sy’n addas i’w hoedran.
Mae gennym ddigonedd o awgrymiadau a syniadau yn ein canllaw Sut i ddysgu plant am arian a’n gweithgareddau Siarad Dysgu Gwneud
Sut alla i gymryd rhan?
Gallwch ddechrau trwy gael sgwrs am arian. Os oes gennych chi a’ch partner agweddau gwahanol tuag at arian, gall ein canllaw Siarad â’ch partner am arian helpu. Os ydych chi wedi bod yn gohirio cael sgwrs lletchwith am arian gyda ffrind, yna darllenwch ein canllaw Siarad â ffrindiau am arian.
Ymunwch â’r sgwrs ehangach ar gyfryngau cymdeithasol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a chwiliwch am yr hashnod #SiaradArian i gymryd rhan
Gwneud Un Peth
Cynhelir ymgyrch eleni rhwng 6 a 10 Tachwedd 2023. Rydym yn annog pobl ledled y DU i ‘Wneud Un Peth’ a allai helpu i wella eu lles ariannol – ac i wneud sŵn amdano, i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Nid oes angen iddo fod yn enfawr. Mewn gwirionedd, gallai fod mor syml â gwirio’r cyfeiriad ar bensiwn, siarad â phlentyn am arian poced neu ddefnyddio un o’n teclynnau neu gyfrifianellau am ddim.
Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn cael pobl i siarad am arian, gyda’n gilydd.
Darganfyddwch sut i gymryd rhan mewn Wythnos Siarad ArianYn agor mewn ffenestr newydd