O tua phump oed, mae plant yn dechrau adeiladu agweddau ac arferion o amgylch arian. Felly mae tair a phedair oed yn amser da i ddechrau eu dysgu am arian.
Sut mae siarad am arian yn helpu?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae ein hymchwil yn dangos mai dim ond pedwar o bob deg plentyn a ddysgodd am arian yn yr ysgol.
Siarad am arian yw’r cam cyntaf i adeiladu sgiliau a hyder ariannol plant.
Mae ein hymchwil yn dangos bod oedolion sy’n gwneud yn well gydag arian:
- wedi cael sgyrsiau am arian pan yn blant
- wedi cael arian yn rheolaidd, fel arian poced neu daliad am wneud tasgau
- wedi cael cyfrifoldeb am wario a chynilo o oedran cynnar.
Beth mae plant tair a phedair oed yn ei ddeall am arian?
Erbyn oedran cyn-ysgol, mae llawer o blant yn dechrau deall y cysyniad o arian. Maent yn tueddu i fod yn chwilfrydig am y byd ac yn awyddus i ddysgu. Sy’n ei gwneud hi’n amser gwych i’w cyflwyno i’r syniad o gynilo, gwario a gwerth arian.
Yn yr oedran hwn, gall llawer o blant:
- adnabod gwahanol ddarnau arian yn ôl y rhifau sydd arnynt, eu lliw, maint a siâp
- deall bod pethau’n costio gwahanol symiau o arian, fel prynu teganau yn erbyn hufen iâ
- deall bod angen cadw arian yn ddiogel, fel nad ydynt yn ei golli ac yn gallu cadw golwg ar faint sydd ganddynt.
Mynd allan
Gall gweithgareddau bob dydd, fel taith i’r archfarchnad, fod yn ffyrdd delfrydol o ddysgu am arian. Er enghraifft, gallant helpu gyda phopeth o ysgrifennu rhestr siopa a chymharu prisiau yn y siop i helpu i dalu a gwirio’r dderbynneb.
Nid yw’n rhy gynnar i egluro bod gennym ni arian weithiau ar gyfer yr hyn rydym ei angen (fel bwyd a gwres) ond nid pethau rydym yn eu dymuno. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall y dewisiadau y mae’n rhaid i oedolion eu gwneud ynglŷn â gwariant.
Cadw arian yn ddiogel
Awgrym da
Mae rhoi cadw mi gei neu ‘piggy bank’ i blentyn yn rhoi lle diogel iddynt gadw, a chynilo, eu harian.
Mae’n syniad da sicrhau bod gan blant le diogel i gadw arian.
- Siaradwch am pam ei bod yn bwysig cadw arian yn ddiogel a sut rydych chi’n gwneud.
- Cyflwynwch gynilo trwy siarad am yr hyn y gallai eich plentyn ei brynu gyda’u harian wrth iddo ddechrau tyfu. A fyddent yn hoffi cael y tedi bêr hwnnw neu gynilo am rywbeth drutach?
- Defnyddiwch gyfrif i ddangos sut y bydd eu harian yn tyfu os ydynt yn ei gynilo.
Y pwysigrwydd o gyfrif
Mae arian yn ymwneud â rhifau yn unig. Felly mae cyfrif yn sgil gwerthfawr i ddysgu plant wrth eu cyflwyno i bwnc cyllid:
- dewiswch ddarnau arian 1c iddynt eu cyfrif
- gofynnwch iddynt gyfrif gwahanol symiau ar wahanol adegau
- pan fyddant yn cyfrif yn gywir, gwobrwywch nhw gydag 1c i’w roi yn eu cadw mi gei
- pan fyddant wedi meistroli cyfrif darnau arian 1c, symudwch i ddarnau arian 2c ac yna darnau 5c.
Pwer chwarae
Yn dair a phedair oed, mae plant yn dysgu trwy chwarae. A pha ffordd well o ddysgu am arian na chwarae siop?
- Rhannwch rai darnau arian 1c, 2c a 5c go iawn fel y gallant ddod i arfer â naws, siâp a maint yr arian.
- Ychwanegwch dagiau prisiau bach at bethau fel teganau, danteithion neu flociau adeiladu.
- Gosodwch gyllideb hawdd iddynt ei gwario, fel 50c.
- Helpwch nhw i weithio allan beth allant ei brynu gyda’r 50c hwnnw.
- Defnyddiwch gyfrif i ddangos bod ddau ddarn 1c sy’n cyfarteb i ddarn 2c, mae pum darn arian 1c yn gyfartal i ddarn arian 5c, ac ati.
Gemau eraill y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:
- Rhwbio darnau arian - rhowch ddarnau arian o dan ddarn o bapur a rhwbiwch bensil lliw yn ysgafn dros y papur nes bod y patrwm darnau arian yn dod trwyddo. Mae hon yn ffordd wych i blant ddysgu gwerth darnau arian o wahanol siâp.
- Cuddio a chwilio am arian - cuddiwch arian o amgylch yr ystafell iddynt ddod o hyd iddo a’i gyfrif ar y diwedd.
Mae plant yn dysgu trwy wylio
Mae plant tair a phedair oed yn dysgu llawer wrth wylio eraill - gan gynnwys y teledu a chi.
Gwylio’r teledu a ffilmiau
Mae hyd yn oed gwylio’r teledu gyda’ch gilydd yn ffordd wych o ddysgu. Mae rhai rhaglenni sy’n cyflwyno plant i gyfrif yn cynnwys:
Ar YouTube Five Currant Buns in a Baker’s Shop – hwiangerdd draddodiadol wedi’i gwneud yn weledol
CBeebies Numberblocks – lle gall eich plentyn ganu i ddysgu rhifau
CBeebies Numberjacks – rhifau archarwyr i gyd â nodweddion a chryfderau gwahanol
Beth am wylio gyda nhw a dod o hyd i ffyrdd o siarad am arian. Er enghraifft, pan fydd eu hoff gymeriadau yn prynu rhywbeth, gofynnwch rai cwestiynau amdano.
Gwylio a’ch helpu i siopa
Mae’r siopa bwyd wythnosol yn ffordd wych o ddangos rheolaeth arian i blant ar waith.
Dangoswch iddynt sut rydych chi’n cynllunio’ch siopa, fel:
- ysgrifennu rhestr o nwyddau rydych eu ‘hangen’ yn erbyn bwydydd rydych eu ‘heisiau; ond na allwch eu cael oni bai eich bod chi’n gallu arbed rhywfaint o arian wrth siopa
- gwirio’r cypyrddau am yr hyn rydych ei angen cyn i chi fynd
- sicrhau bod gennych eich arian parod neu’ch cerdyn yn ddiogel yn eich pwrs/waled
- gofynnwch a ydynt am brynu unrhyw beth gyda’r arian yn eu cadw mi gei a gweithio allan a oes ganddynt ddigon o arian.
Wrth i chi gerdded o amgylch y siop:
- os ydynt yn gofyn am bethau sydd ddim ar y rhestr, atgoffwch nhw mae’n rhaid iddynt gadw at y rhestr oherwydd dyna’r hyn sydd gennych arian ar ei gyfer heddiw
- gofynnwch iddynt helpu i ddod o hyd i eitemau ar y rhestr.
- cymharwch brisiau’n uchel â nhw.
Wrth y til:
- gofynnwch i’ch plentyn roi pethau ar y belt
- os ydych chi’n talu gydag arian parod, gofynnwch iddynt roi’r arian i’r ariannwr
- os ydych chi’n talu gyda cherdyn, eglurwch o ble mae’r arian yn dod.
- eglurwch am gadw arian a chardiau banc yn ddiogel
- sicrhewch eu bod yn eich gweld yn gwirio bod y dderbynneb yn gywir.
Datblygu pwer ewyllus a dysgu i aros
Mae eisiau yn deimlad mawr - ac iach - ymysg plant.
Gallwch ddefnyddio’r ‘eisiau’ hyn i ddysgu sgiliau cynilo, trafod ac, na, weithiau ni allant gael yr hyn y maent ei eisiau.
Dyma rai awgrymiadau:
- Cynlluniwch - os ydych yn mynd i siop deganau, cynlluniwch ymlaen llaw. Eglurwch ymlaen llaw beth rydych yn ei brynu a pham.
- Gwrandewch - gadewch iddynt hwy deimlo eu bod yn cael eu clywed trwy roi rhestr iddynt o’r pethau na allant eu cael nawr ond y gallent fod eu heisiau ar gyfer penblwyddi neu wyliau.
- Eglurwch - yn lle dim ond dweud na; eglurwch pam. Mae egluro bod gennym arian ar gyfer yr hyn rydym eu hangen (fel bwyd a gwres) ond dim dyheuadau neu ddanteithion yn eu helpu i ddeall y dewisiadau y mae’n rhaid i oedolion eu gwneud am arian.
- Cadwch at eich gair - mae dweud na a glynu wrtho yn eu helpu i ddysgu hunanreolaeth, deall y gwahaniaeth rhwng anghenion ac eisiau, a chynilo am yr hyn maent ei eisiau.
Mwy o weithgareddau rheoli arian
Mae pob plentyn yn datblygu ar wahanol adegau. Er enghraifft, byddai rhai plant tair a phedair oed yn ymateb yn well i rai o’r gweithgareddau rydym yn eu hargymell yn ein canllaw Sut i siarad am blant pump a chwech oed am arian. Dewiswch y rhai rydych yn teimlo sy’n fwyaf addas i chi.