Mae dysgu eich plant am arian o oedran ifanc yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel oedolion. Gallwn ddangos i chi sut i siarad â phlant 3 i 11 oed am arian. Nid oes angen i hyn fod yn gymhleth, gall plant ddysgu am arian trwy gael eu cynnwys mewn gweithgareddau bob dydd.
Siarad Dysgu Gwneud
Beth all plant ddysgu am arian?
Mae’n ddefnyddiol i blant ddysgu beth yw arian, o ble mae’n dod a’r gwahaniaeth rhwng anghenion a dyheadau.
Sut allan nhw ddysgu am arian?
Trwy sgyrsiau a gweithgareddau a’u cynnwys mewn penderfyniadau am wario a chynilo arian.
Pam ddylwn i eu dysgu am arian?
Mae rhoi llawer o gyfleoedd i blant i ymarfer ag arian yn eu helpu i ddysgu sut i wneud penderfyniadau da pan fyddant yn hŷn.