Mae cymryd plant i siopa yn ffordd wych i ddysgu iddynt y sgiliau a fydd yn ei helpu i reoli ei arian ar ei hunain pan fyddant yn hŷn.
Gallant ddysgu:
- Sut i gadw arian yn ddiogel
- Ffyrdd i dorri costau
- Sut i ymwrthod prynu pethau ychwanegol nad oes eu hangen arnoch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cynllunio ymlaen llaw
Mae teithiau siopa yn darparu llawer o gyfleoedd bywyd go iawn i’ch plentyn i ddysgu am werth arian. Ond mewn gwirionedd, gall achosi straen.
Mae yna lawer i’w jyglo - o’u cadw rhag crwydro i ffwrdd a chofio beth sydd angen i chi ei brynu er mwyn osgoi gwario gormod.
Gall cynllunio ymlaen llaw eich helpu i ddysgu ychydig o sgiliau rheoli arian syml iddynt unwaith y byddwch yn siopa, heb hefyd gorfod delio â phethau sy’n tynnu sylw nad oeddech wedi eu cynllunio ar eu cyfer.
Cadw at y cynllun
Pan fyddwch yn cyrraedd y siopau, atgoffwch nhw am y rhestr a dangoswch iddynt beth rydych chi'n ei brynu gyntaf.
Wrth i chi fynd o gwmpas esboniwch sut mae'r siop wedi'i gosod i'ch cael chi i brynu mwy.
Dangoswch iddynt y tactegau y mae'r archfarchnadoedd yn eu defnyddio i'ch cael chi i brynu pethau nad ydynt ar eich rhestr:
- Mae hanfodion wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y siop - mae'n rhaid i chi gerdded heibio llawer o demtasiynau i’w gyrraedd.
- Mae brandiau rhatach i lawr yn isel gyda'r cynhyrchion drutaf ar lefel y llygad.
- Mae cynhyrchion plant ar eu lefel.
- Mae ffrwythau a llysiau yn aml wrth y fynedfa gan fod archfarchnadoedd yn gwneud elw mawr ar y rhain.
Dysgu sut i wneud i’ch arian fynd ymhellach
Gallwch ddangos i blant sut i wneud penderfyniadau gwell a'u helpu i deimlo eu bod yn cymryd rhan trwy ofyn iddynt ddod o hyd i bethau ar y rhestr siopa. Anogwch nhw i:
- Wirio prisiau a dod o hyd i’r eitemau rhataf – mae hwn yn gyfle da i siarad am ba eitemau rydych chi’n hoffi gwario llai arnynt a pha bethau rydych yn meddwl sy’n werth talu mwy amdanynt.
- Dod o hyd i gynhyrchion sydd wedi’u hanelu at blant – gofynnwch iddynt egluro pam eu bod yn ei hoffi (mae hwn yn ffordd wych o siarad am sut mae marchnata yn annog pobl i wario mwy).
- Sylwi ar gynigion arbennig – gallwch egluro mai dim ond bargen dda ydyw os oes ei angen arnoch.
Wrth y ddesg dalu
Gwiriwch gyda’ch gilydd
Os ydynt wedi blino ar yr adeg yma, gallai gadael iddynt wybod pa mor ddefnyddiol maent wedi bod yn osgoi stranc. Hyd yn oed pe baent yn mynd yn grac pan na allent gael rhywbeth, canmolwch nhw am yr amseroedd y gwnaethant aros yn amyneddgar.
Dylech eu cynnwys wrth dalu am y siopa fel nad ydynt yn diflasu:
- Os ydych yn defnyddio arian parod, gofynnwch i’ch plant gyfri’r arian a thalu. Gall plant hŷn gyfrifo’r newid y byddwch yn ei gael.
- Os ydych yn talu gyda cherdyn, eglurwch o ble mae’r arian am hyn yn dod.
- Dangoswch iddynt sut rydych yn cadw’ch cardiau a’ch pinnau’n ddiogel.
Siopa ar-lein
Pan fyddwch chi'n siopa ar -lein, hyd yn oed os na all plant eich gweld chi'n defnyddio arian parod, gallwch egluro eich bod yn gwneud yr un pethau ac yn gwneud yr un penderfyniadau ag y byddech pe byddech chi yn y siopau. Siaradwch â nhw am yr hyn rydych yn ei wneud, wrth i chi ei wneud.
Gallwch:
- Ofyn eich plentyn i gymharu prisiau a siarad am ba un sydd gyda’r gwerth am arian gwell.
- Sylwi ar gynigion arbennig gyda’ch gilydd ond dim ond ei brynu os ydych chi ei angen.
- Cliciwch heibio’r bargeinion a chynhyrchion ychwanegol sy’n cael eu hysbysebu ar ôl i chi orffen eich siopa. Eglurwch mai dyma sut mae’r siop yn eich cael i brynu y pethau ychwanegol nad ydych eu hangen arnoch.
Mae siopa ar-lein hefyd yn rhoi’r cyfle i chi esbonio sut i gadw’ch arian digidol yn ddiogel. Gallwch ddangos y ddesg dalu ar-lein iddynt ac esbonio na ydych byth yn rhannu manylion eich cerdyn gydag unrhyw un - mae angen cadw'r wybodaeth ar eich cardiau'n ddiogel, yn union fel arian go iawn.