Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Dysgu'ch plentyn am sgamiau ar-lein aphryniannau mewn-app

Gall plant, yn union fel oedolion, fod yn darged sgamiau ar-lein. Fodd bynnag, gall plant fod yn arbennig o fregus oherwydd eu bod yn debygol o fod â llai o wybodaeth am sut mae sgam yn edrych.

Father and daughter looking at their mobile phones

Pam mae angen i ni egluro sgamiau i blant

Nid yw atal plant rhag mynd ar-lein neu ddefnyddio eu ffonau yn eu hamddiffyn rhag sgamiau yn y tymor hir. Mae angen iddynt ddysgu am y risgiau a meithrin eu gwybodaeth, fel pan fyddant yn oedolion, ac yn delio â symiau mawr o arian, bydd ganddynt ddealltwriaeth dda o sut mae sgam yn edrych a sut i osgoi un.

Yr allwedd i ddysgu plant yw dysgu am sgamiau ar-lein eich hun fel y gallwch ddangos iddynt beth i edrych amdano a chael gwell dealltwriaeth o sut i'w hamddiffyn.

Amddiffyn plant rhag sgamiau

Pryniannau mewn-app

Mae pryniannau mewn-app neu fewn gêm yn gadael i chi brynu cynhyrchion neu wasanaethau o'r tu mewn i gêm neu ap. Gallai hyn fod yn rhan o’r gêm, er enghraifft, ‘croen’, ‘arf’ neu ‘ddawns’ newydd.

Heb unrhyw amddiffyniad ar waith, gall eich plentyn brynu'r rhain gan ddefnyddio manylion eich cerdyn. Gellir gwneud y pryniannau hyn trwy wasanaethau sy'n storio manylion eich cerdyn, megis, Google Play, iTunes, neu Apple Store. Oherwydd y gallwch dalu gan ddefnyddio manylion cardiau wedi'u storio, efallai na fydd eich plentyn hyd yn oed yn gweld hyn fel taliad, ac efallai nad ydych chi'n ymwybodol ei fod yn digwydd.

Swyno trwy dwyll

Swyno trwy dwyll yw pan fydd rhywun yn esgus bod yn rhywun arall ar-lein. Mae plant yn cwympo am y sgam hwn, fel oedolion, a gellir eu twyllo i roi manylion banc neu fanylion mewngofnodi cyfrif eu rhieni i ffwrdd.

Bydd cael sgwrs onest gyda'ch plentyn am sut mae rhai oedolion yn esgus bod yn rhywun arall ar-lein i gael arian yn eu helpu i weld y sgamiau hyn. Gallwch hefyd ofyn iddynt ddweud wrthych os yw unrhyw un y maent wedi cwrdd â nhw ar-lein mewn trafferth, fel bod angen arian, gan y byddwch yn gallu helpu.

Amddiffyn plant rhag dwyn hunaniaeth

Gall dwyn hunaniaeth ddigwydd i blant yn ogystal ag oedolion. Os yw plant yn rhoi eu manylion personol i ffwrdd, megis eu henw, dyddiad geni a chyfeiriad, gellid o bosibl ddefnyddio hyn i agor cyfrifon banc. Gallai hyn ddylanwadu ar eu hadroddiadau credyd yn y dyfodol.

Gallwch helpu'ch plentyn i osgoi dwyn hunaniaeth trwy ddweud wrthynt i beidio byth rannu eu manylion personol ag unrhyw un neu ddefnyddio eu manylion personol i fewngofnodi neu gyrchu gwefan neu gêm.

Gallwch hefyd gadw llygad am arwyddion bod hunaniaeth eich plentyn wedi'i dwyn fel:

  • derbyn datganiadau banc, datganiadau cerdyn credyd, cynigion credyd neu filiau wedi'u cyfeirio at eich plentyn
  • darganfod bod gan eich plentyn hanes credyd gwael pan geisiwch agor cyfrif banc ar eu cyfer

Os ydych yn gwybod neu'n amau bod hunaniaeth eich plentyn wedi'i dwyn, gallwch roi gwybod i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd y ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

Cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein

Thank you for your feedback.
We’re always trying to improve our website and services, and your feedback helps us understand how we’re doing.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.