Mae arian poced yn un ffordd y gallwch ddysgu gwerth arian i’ch plentyn. Mae hefyd yn ddewis personol ac efallai wnewch chi ddewis aros. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi hyd yn oed swm bach o arian i’ch plant yn rheolaidd yn eu helpu i ddysgu sut i reoli arian.

Faint o arian poced ddylwn i ei roi?
Nid oes swm cywir - gall ddibynnu ar faint o arian sydd gennych yn sbâr a faint yw eu hoedran. Yr hyn sy’n allweddol yw i roi arian iddynt yn rheolaidd gan fod hwn yn eu helpu i ddysgu sut i gynilo a chyllidebu.
Os nad oes gennych ddigon o arian sbâr i roi arian poced, gallwch edrych ar os gall ychydig o’r arian rydych yn ei wario ar losin, danteithion neu degannau gael ei ddefnyddio fel arian poced yn lle.
Mae hefyd angen i chi ddewis faint o gyfrifoldeb maent yn barod amdano. Meddyliwch am beth hoffech iddynt ei wario arno, megis:
- eu danteithion, tegannau, llyfrau a chylchgronnau i gyd - neu ychydig o bethau ychwanegol yn unig
- teithiau
- dillad
- biliau ffôn symudol
- anrhegion i deulu a ffrindiau.
Mae hefyd werth ystyried pryd y byddwch yn ei gynyddu. Gallwch ei wneud ar eu penblwydd neu pan fyddant yn mynd i ysgol uwchradd neu ganol, neu’r chweched dosbarth.
Rhoi arian poced yn gyfnewid am wneud tasgau
Gallech roi arian i’ch plant yn gyfnewid am wneud tasgau. Mae hyn yn eu helpu i ddysgu bodangen i chi weithio, fel arfer, am arian. Efallai byddent hefyd yn fwy tebygol i wneud tasgau!
Fodd bynnag, efallai na fydd y dull hwn yn gweithioi chi os ydych yn dymuno defnyddio tasgau fel ffordd iddynt ddysgu bod angen helpu o gwmpas y tŷ. Efallai y byddai’n well gennych eu bod yn dysgu y dylent wneud tasgau oherwydd eich bod yn gofyn iddynt, nid oherwydd eu bod yn cael eu talu.
Pa mor aml i roi arian poced
Mae pa mor aml rydych yn rhoi arian poced i’ch plant yn dibynnu ar eu hoedran, eich cyllideb a faint o gyfrifoldeb rydych yn dymuno iddynt ei gael.
Rhoi arian poced yn rheolaidd
Rhoi pan mae gennych arian sbâr
Mae rhoi arian i’ch plentyn pan fo gennych arian sbâr yn golygu nad oes angen i chi boeni am wario gormod ac mae’ch plentyn yn cael y cyfle o hyd i ymarfer gydag arian.
Mae’n golygu efallai y byddant yn ei chael hi’n anoddach i gynilo am bethau gan na fyddant yn gwybod pa mor hir y bydd yn cymryd iddynt gynilo digon o arian. A gallent ofyn i chi brynu pethau iddynt o hyd hefyd.
Newid pa mor aml rydych yn rhoi arian poced
Pan fo plant yn ifancach, mae rhoi symiau wythnosol yn dod â nhw i’r arfer o wneud eu penderfyniadau eu hunain am beth i wario eu harian arno.
Wrth iddynt ddod yn hŷn, gall lwfans misol eu helpu i gyllidebu dros gyfnodau hirach, a allai eu helpu i baratoi at reoli benthyciad myfyriwr neu hyd yn oed cyflog.
Cynilo
Gall cynilo fel teulu ddysgu eich plentyn sut i aros am rywbeth maent eisiau a gwerth arian. Gallwch gynilo ar-lein neu gan ddefnyddio arian parod.