Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i siarad â phlant sydd wedi tyfu i fyny am arian

Nid yw sgyrsiau gyda phlant am arian yn stopio pan maent yn dod yn oedolyn. Gyda chostau byw yn codi a’r anhawster i fynd ar yr ysgol eiddo, efallai eu bod yn dal i fyw gyda chi. Dyma sut i’w helpu eich plant sy’n oedolion i ddod yn fwy annibynnol yn ariannol.

Gofynnwch iddynt hwy gyfrannu at gostau cartref

Os yw plentyn sydd wedi tyfu i fyny yn byw gartref, mae eu cael i gyfrannu at gyllid y cartref yn un ffordd i’w helpu tuag at ddyfodol ariannol annibynnol.

Bydd y mwyafrif o blant sydd wedi tyfu i fyny sy’n byw gartref yn gwneud hynny i arbed arian. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu eu bod yn gyfrifoldeb ariannol arnoch chi. Mae’n bwysig siarad â hwy am sut y gallant helpu gyda chostau byw.

Mae cyfathrebu’n glir yn bwysig iawn. Os nad ydych erioed wedi dweud wrthynt o’r blaen, efallai na fyddant hyd yn oed yn sylweddoli faint mae’r gefnogaeth ariannol a roddwch iddynt yn ei gostio i chi.

Rhestrwch y ffyrdd y gallant ddechrau cyfrannu. Yna, gyda’ch gilydd, crëwch gynllun gyda dyddiad cychwyn i wneud y cyfraniad hwn yn realiti. Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • faint y byddant yn ei gyfrannu tuag at y rhent neu’r morgais bob wythnos - er enghraifft 20% neu 30% o’u cyflog?
  • pa filiau’r cartref y byddant yn cyfrannu atynt a faint?
  • a oes unrhyw waith y gallech fod wedi talu i rywun arall ei wneud, megis ailaddurno’r lolfa, y gallent ei wneud tuag at eu cyfran o’r rhent, morgais neu filiau?
  • sut y byddant yn cyfrannu at unrhyw gostau cartref annisgwyl sy’n codi?

Bydd hyn yn eu dysgu am bwysigrwydd cynilion neu gronfa ‘diwrnod glawog’

Mae'n syniad da cael y ffeithiau ariannol wrth law i ddangos iddynt pam rydych chi'n cael y sgwrs hon. Hefyd, dangoswch eich bod yn deall y gall rheoli arian fod yn anodd trwy gynnig eu helpu i weithio allan ffordd i gyllidebu ar gyfer eu cyfrifoldebau cartref.

Rhowch wthiad bach iddynt tuag at gyllidebu

Siaradwch am y pynciau canlynol i’w helpu i ddechrau meddwl am eu hangen i gyllidebu a sut i fynd o gwmpas gyllidebu:

  • incwm yn erbyn gwariant
  • treuliau sefydlog (fel biliau cartref) yn erbyn treuliau dewisol (fel adloniant)
  • cynilo ar gyfer dymuniadau (fel gwyliau) yn erbyn cronfeydd argyfwng ar gyfer anghenion (fel y car ddim yn pasio’r MOT).

Anogwch hwy i gwblhau cyllideb. Bydd hyn yn dangos iddynt beth yw cost gwahanol eitemau a sut i drefnu eu cyllid eu hunain yn well.

Helpwch nhw i oresgyn ac osgoi dyled

Efallai eu bod yn wynebu dyled, fel benthyciadau myfyrwyr neu gardiau credyd.

Efallai ei bod yn demtasiwn eu helpu allan, ond nid yw hyn yn eu helpu yn y tymor hir. Os ydych wir eisiau helpu, dysgwch nhw am gyfrifoldeb ariannol. Trafodwch yr opsiynau ar gyfer ad-dalu dyledion cyfredol.

Rhannwch unrhyw brofiadau a allai fod gennych gyda dyled. A thrafodwch sut i osgoi dyled yn y dyfodol.

Os penderfynwch eu helpu yn ariannol, gwnewch yn siŵr ei fod yn dod ag amodau. Er enghraifft, fe allech dalu canran yn gyfnewid am rywbeth y mae angen i chi ei wneud o amgylch y tŷ. Neu, os nad oes ganddynt swydd, efallai y byddwch yn talu canran o’u dyled pan maent yn cael swydd.

Anogwch nodau gyrfa

Os nad ydynt yn cyfrannu’n ariannol oherwydd nad oes ganddynt swydd, trafodwch eu cynlluniau ar gyfer cael un. Ac efallai eu helpu gyda’u chwiliad gwaith.

Hyd yn oed os nad ydynt yn gweithio, mae’n debygol y bydd ganddynt ryw fath o incwm, fel Credyd Cynhwysol. Bydd hyn, wrth gwrs, yn golygu na fyddech chi’n gofyn am gymaint o gyfraniad ariannol ag y byddech petaen nhw’n gweithio. Ond mae gennych ddal hawl i ofyn am rywfaint o gyfraniad, waeth pa mor fach.

Os ydych yn pryderu am gam-drin ariannol

Bydd y mwyafrif o blant sydd wedi tyfu i fyny yn barod i dalu tuag at gostau’r cartref pan ofynnir iddynt wneud hynny. Weithiau, fodd bynnag, gallant geisio rheoli eich arian. Cam-drin ariannol yw hwn.

Mae arwyddion o gam-drin ariannol yn cynnwys:

  • mynnu arian parod
  • cymryd cardiau credyd a/neu fenthyciadau allan yn eich enw chi
  • bygwth os gwrthodwch gydymffurfio â’u hanghenion ariannol
  • dod yn ymosodol yn emosiynol am arian.

Pan fydd hyn yn digwydd, gallai cychwyn sgwrs am arian eich rhoi mewn perygl o niwed emosiynol neu gorfforol. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n ynysig ac yn ofni siarad am y cam-drin. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall nad yw cam-drin ariannol byth yn iawn. Mae'n drosedd mewn gwirionedd a gallwch wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae help ar gael fel y gallwch chi deimlo'n llai ar eich pen eich hun.

Mwy o help gyda siarad am arian

Am fwy o syniadau ar sut i helpu plant sydd wedi tyfu i fyny, bydd ein llyfryn Sut i siarad am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 481KB) yn eich helpu i ddechrau’r sgwrs am arian.

It includes tips on how to get a good outcome and what to do if you think the conversation may be tricky or doesn’t go as planned.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.