Os ydych yn dechrau methu rhai o'ch taliadau bil, efallai eich bod yn teimlo'n llethol. Darganfyddwch sut i flaenoriaethu'ch dyledion, gweithio allan pa ddyledion i'w had-dalu’n gyntaf, a chael yr help sydd ei angen arnoch os ydych yn cael trafferth.
Pam ei bod yn bwysig talu’ch dyledion yn y drefn gywir
Gall canlyniadau peidio ag ad-dalu rhai dyledion cyn eraill fod yn fwy difrifol.
Felly, os ydych yn cael trafferth gwneud eich ad-daliadau mewn pryd, mae angen i chi edrych ar eich holl ddyledion a'u rhannu'n:
- argyfyngau dyled
- dyledion o flaenoriaeth
- dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.
Mae ein Blaenoriaethwr Biliau hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i ddelio â nhw’n gyntaf a sut i osgoi eu methu.
Os ydych yn wynebu argyfwng dyledion
Cael cyngor dyledion annibynnol am ddim ar frys os ydych yn wynebu argyfwng brys, fel:
- achos llys
- camau gan feili
- datgysylltiad, neu
- cael eich taflu allan o’ch tŷ am ôl-ddyledion morgais neu rent.
Bydd rhai cynghorwyr ar ddyledion yn gallu siarad â’r llys, beili neu gredydwr ar eich rhan. Os ydych am i rywun wneud hyn ar eich rhan, gwiriwch a fyddant yn gallu gwneud hyn ar eich rhan.
Byddant hefyd yn eich cynghori ar beth i’w wneud nesaf.
Mae’n bwysig eich bob amser yn mynychu gwrandawiad llys. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi ddod i gytundeb.
Os na fyddwch yn mynd, efallai y gwneir penderfyniad heb ystyried rhyw wybodaeth am eich sefyllfa.
Os ydych yno gallwch ddweud wrth y llys beth sy’n digwydd a gallai hynny fod o gymorth i’r llys ddod i benderfyniad sydd yn fwy buddiol i chi.
Mae rhai llysoedd yn defnyddio sefydliadau cynghori fel ShelterYn agor mewn ffenestr newydd a Chyngor ar Bopeth a fydd yn gallu rhoi cyngor munudYn agor mewn ffenestr newydd olaf i chi ar beth i’w wneud.
Os ydych i fod i fynychu’r llys cyn pen 24 awr, gofynnwch a oes rhywun y gallwch siarad â hwy cyn gwrandawiad eich achos.
Beth yw dyledion blaenoriaeth?
Dyledion o flaenoriaeth yw rhai sydd â’r goblygiadau mwyaf difrifol os na fyddwch yn eu talu.
Nid oes rhaid i’r rhain fod y dyledion mwyaf neu’r rhai sydd â’r cyfraddau llog uchaf o reidrwydd, ond os na fyddwch yn eu talu gallai arwain at broblemau difrifol.
Mae dyledion blaenoriaeth yn cynnwys:
- dirwyon llys
- Treth neu Cyfraddau Cyngor
- Trwydded Deledu
- Cynhaliaeth Plant
- biliau nwy a thrydan
- Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
- morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd yn erbyn eich cartref
- cytundebau hurbwrcas, os yw’r hyn rydych yn ei brynu â hwy yn hanfodol
- taliadau wedi’u methu sy’n ddyledus i’r DWP (Adran Gwaith a Phensiynau) neu HMRC (Cyllid a Thollau EM).
Pam y dylech dalu eich dyledion o flaenoriaeth yn gyntaf
Dyma rhai canlyniadau peidio ag ad-dalu dyledion o flaenoriaeth:
- ymweliad gan feili
- derbyn gwŷs llys
- cael eich gwneud yn fethdalwr – gan nad ydych wedi talu eich biliau
- diffodd eich gwres neu golau – gan nad ydych wedi talu eich biliau
- colli eich cartref – gan nad ydych yn cadw i fyny â thaliadau morgais neu rent
- carcharu – gall fod o ganlyniad i beidio â thalu Treth Cyngor neu Drwydded Teledu mewn achosion difrifol
Mae’n syniad da i siarad â chynghorwr dyled yn gyntaf cyn cytuno i wneud taliadau i bobl rydych yn ddyledus iddynt.
Mae gan Gyngor ar Bopeth restr o ddyledion o flaenoriaeth, eu canlyniadau a sut i ddelio â nhwYn agor mewn ffenestr newydd
Mae National Debtline hefyd yn cynnig cyngor ar sut i ddelio ag ystod eang o broblemau dyledYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth?
Mae rhai enghreifftiau o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys:
- gorddrafft
- benthyciadau personol
- benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu
- biliau dŵr a charthffosiaeth
- arian sydd wedi’i fenthyg gan ffrindiau neu deulu
- benthyciadau cerdyn credyd, cerdyn siop neu ddiwrnod cyflog
- dyledion catalog, credyd cartref neu gredyd siop
Mae canlyniadau peidio â thalu dyledion nad ydynt o flaenoriaeth yn llai difrifol. Os nad ydych yn talu dyledion nad ydynt o flaenoriaeth, yn y pen draw, gallai eich credydwr fynd â chi i'r llys neu gyfarwyddo beilïaid i gasglu arian gennych.
Biliau dŵr a charthffosiaeth
Ni all eich dŵr a’ch carthffosiaeth gael ei rwystro yn yr un modd â’ch biliau eraill fel ynni. Ond fel bil hanfodol y cartref, mae’n werth ei ystyried yn gyfochrog â’ch biliau â blaenoriaeth eraill cyn eich dyledion heb flaenoriaeth.
Os nad ydych yn talu o leiaf eich biliau dŵr a charthffosiaeth presennol, bydd y swm sy’n ddyledus gennych yn parhau i gynyddu ac yn y pen draw gall eich cwmni dŵr gymryd camau gorfodi i adfer yr hyn sy'n ddyledus gennych.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw
Cael cyngor am ddim ar ddelio â dyledion
Peidiwch â mynd i anhawster â dyledion – yn enwedig os ydych yn wynebu argyfwng, fel colli’ch cartref neu fynd i’r llys.
Os ydych angen mwy o gefnogaeth neu os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, ni ydych ar eich pen eich hun.
Mae bron i hanner y bobl mewn dyled wedi dweud wrthym nad ydynt yn siŵr am y ffordd orau i dalu eu dyledion, a dyna ble gall cynghorydd dyledion wir eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir fel bydd y rhan fwyaf o'ch arian yn mynd i ad-dalu'ch dyledion.
Sy'n golygu y gallech fod yn rhydd o ddyled yn gynt nag roeddech yn meddwl.
Bydd cynghorydd dyled yn:
- trin popeth rydych yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion na fyddech efallai yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi
- gwneud yn siŵr eich bod yn gyffyrddus â'ch penderfyniad bob amser.
Mae tri chwarter y bobl sy'n cael cyngor ar ddyledion yn teimlo mwy o reolaeth ar eu cyllid wedi hynny.